Bydd gofod cymunedol newydd, sydd wedi'i gynllunio i gefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau digidol ac ymgysylltu â'r gymuned, yn cael ei lansio'r wythnos nesaf.
Mae'r Lolfa Ddysgu Ddigidol yn wasanaeth newydd yn Hyb y Llyfrgell Ganolog lle gall ymwelwyr o bob oed a gallu gael mynediad at gymorth digidol.
Cynhelir lansiad y cyfleuster newydd, ar bumed llawr hyb canol y ddinas, ddydd Mercher 23 Ebrill (12pm-4pm) gyda diwrnod o hwyl digidol yn arddangos y cymorth a'r gwasanaethau sydd ar gael yn ogystal â llawer o weithgareddau sy'n addas i deuluoedd.
Bydd y diwrnod o hwyl yn cynnwys sesiynau blasu ar hanes teuluoedd, animeiddio stop-symud, codio a roboteg Lego, cwisiau a gemau, celf a chrefft, realiti rhithwir, gwobrau a llawer mwy.
Bydd gwasanaethau’r Cyngor gan gynnwys Gwasanaeth Cymorth Lles Caerdydd, Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol, Gwirfoddoli Caerdydd a Thenantiaid Ynghyd yno hefyd i rannu gwybodaeth a chynnig cyngor i ymwelwyr â'r hyb am y gwasanaethau maen nhw'n eu darparu.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lee Bridgeman: "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at lansiad ein Lolfa Ddysgu Ddigidol newydd yn ystod gwyliau'r Pasg. Mae'n mynd i fod yn ddigwyddiad am ddim gwych – perffaith ar gyfer teuluoedd sy'n chwilio am rywbeth hwyliog i'w wneud gyda'r plant dros y gwyliau. Mae croeso i bawb, dewch â'ch mam-guod a’ch tad-cuod gyda chi hefyd i'w helpu i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am bopeth digidol!
"Mae mor bwysig y dyddiau hyn i feddu ar y
ddealltwriaeth fwyaf sylfaenol o'r byd digidol. Mae'n ymwneud â llawer mwy nag
adloniant, a dyna pam rydyn ni wedi sefydlu'r lolfa ddysgu i helpu cwsmeriaid i
wneud yn fawr o'r profiad digidol – boed hynny ar gyfer gwaith, helpu i
symleiddio tasgau dyddiol neu helpu i leihau unigedd cymdeithasol trwy gadw
pobl mewn cysylltiad."
Mae'r Lolfa Ddysgu Ddigidol ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, lle gall ymwelwyr gael help i ddatrys problemau dyfeisiau, cyrchu gwefannau, cysylltu â gwasanaethau lleol a llenwi ffurflenni ar-lein. Mae hefyd yn ofod i ddysgwyr ymarfer eu sgiliau.
Ar ôl y lansiad, bydd gweithgareddau dyddiol yn canolbwyntio ar bynciau fel cyflogadwyedd, creadigrwydd a chynhyrchiant digidol.
Am ragor o wybodaeth ewch i: www.adultlearningcardiff.co.uk/cy/cymorth-digidol/
neu e-bostiwch CymorthDigidol@caerdydd.gov.uk