The essential journalist news source
Back
11.
April
2025.
Gwaith i ddiogelu ac adnewyddu adeiladau hanesyddol ar Ynys Echni yn dechrau

11/04/25

Mae gwaith i amddiffyn ac adnewyddu gorsaf y corn niwl hanesyddol Ynys Echni a'r ysbyty colera Fictoraidd ar y gweill.

A stone house with a brick wall and a brick wallAI-generated content may be incorrect.

Yr hen ysbyty colera  Llun:  Cymdeithas Ynys Echni

Wedi'i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ochr yn ochr â buddsoddiad gan berchnogion yr ynys, Cyngor Caerdydd, gyda chymorth mewn nwyddau gan sefydliadau partner gan gynnwys Cymdeithas Ynys Echni ac RSPB Cymru, mae'r gwaith wedi gofyn i'r holl ddeunyddiau a'r peiriannau gael eu cludo allan i'r ynys anghysbell, sy'n eistedd ym Môr Hafren tua phum milltir o arfordir Caerdydd.

A construction site with a crane and a crane on the shoreAI-generated content may be incorrect.

Offer adeiladu yn cael ei ddadlwytho ar y traeth yn Ynys Echni. Cydnabyddiaeth: Cyngor Caerdydd

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Mae Ynys Echni yn llawn hanes ac rydym eisiau gwneud yn siŵr bod yr adeiladau treftadaeth pwysig hyn yn cael eu gwarchod a'u cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol i ddysgu oddi wrthynt a'u mwynhau.

"Mae lleoliad ynysig Ynys Echni yn ychwanegu haen o gymhlethdod i'r prosiect, ond mae'r adeiladau hyn yn rhan allweddol o stori'r ynys ac yn ganolog i'n helpu i gyflawni ein nod o ddenu mwy o ymwelwyr i'r lle arbennig hwn."

Mae'r gwaith, sy'n cael ei wneud gan Knox & Wells, yn rhan o brosiect £3 miliwn ehangach Ynys Echni: Cerdded Drwy Amser, sydd eisoes wedi cynnwys:
 

  • mentrau i wella cynefinoedd ar gyfer nythfeydd Gwylanod Cefnddu Lleiaf yr ynys yn cael eu cyflawni.
  • cynhyrchu paneli cerameg wedi'u hysgythru ar gyfer llwybr Cerdded Drwy Amser (i'w gosod yr haf hwn).
  • amrywiaeth o weithgareddau ar yr ynys, gan gynnwys profiadau cadwraeth gwirfoddolwyr, digwyddiadau Bioblitz, enciliadau lles a gweithdai ysgrifennu creadigol.
  • gweithgareddau ymgysylltu ar y tir mawr, gan gynnwys cerflun newydd ar Forglawdd Bae Caerdydd gyda gwefan y celfyddydau cysylltiedig, gweithdai addysgol mewn ysgolion, a sgyrsiau mewn canolfannau cymunedol.

Gyda'r nod o amddiffyn y tir mawr rhag epidemig colera, sefydlwyd wardiau ynysu colera mewn pebyll ar Ynys Echni gyntaf ym 1884, gydag adeilad fferm yn cael ei addasu i greu ysbyty colera ym 1886. Roedd hwn yn rhy fach, felly adeiladwyd ysbyty newydd, yn cynnwys dwy ward chwe gwely ym 1896. Adeiladwyd golchdy, amlosgfa ac ystafelloedd i feddygon hefyd, a thrawsnewidiwyd yr adeilad presennol, oedd wedi'i addasu, i ddarparu pedwar gwely ychwanegol. Condemniwyd prif adeilad yr ysbyty yn y pen draw gan y Weinyddiaeth Iechyd ym 1935, ac mae ei adfeilion bellach angen eu sefydlogi.

Wedi'i adeiladu ym 1908, mae'r corn niwl yn cynnwys dau adeilad: gorsaf y corn niwl sy'n gartref i signal cywasgedig pwerus y corn niwl, a bwthyn y ceidwad, sydd wedi'i drawsnewid yn llety hunanarlwyo wedi'i ddodrefnu'n llawn i ymwelwyr. Bydd y gwaith yn gweld gorsaf y corn niwl yn cael ei hadfer yn esthetig.

Mae Ynys Echni yn Warchodfa Natur Leol, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn gartref i'r Gull & Leek - y dafarn fwyaf ddeheuol yng Nghymru.