9/4/2024
Mae disgyblion o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul yn Grangetown wedi creu hanes trwy helpu i dorri Record Byd Guinness am y nifer fwyaf o bobl yn cymryd rhan mewn ymgyrch glanhau afon.
Ar 21 Mawrth 2025, daeth cyfanswm o 1,327 o wirfoddolwyr, gan gynnwys 26 o ddisgyblion o'r ysgol, at ei gilydd ar draws wyth lleoliad swyddogol i lanhau Afon Taf, gan ragori ar y record flaenorol o 329 o bobl a osodwyd ar Afon Ganges yn India.
Trefnwyd y digwyddiad torri'r record mewn cydweithrediad â Chyngor Caerdydd a Taff Tidy, menter amgylcheddol leol. Bu gwirfoddolwyr, gan gynnwys plant ysgol, grwpiau cymunedol, ac aelodau eraill o'r cyhoedd, yn casglu sbwriel ar hyd Afon Taf o'i ffynhonnell ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i Fae Caerdydd. Parhaodd y glanhau am 30 munud, gan ddechrau am 12:00 GMT.
Roedd beirniad o Guinness World Records yn bresennol i asesu'r dystiolaeth a gasglwyd o'r wyth lleoliad. Roedd pum gwirfoddolwr wedi'u lleoli ym mhob man glanhau ar ran Guinness World Records i arsylwi a chofnodi'r broses lanhau gyfan. Cadarnhaodd y beirniad y record newydd yn fuan ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.
"Rydym yn hynod falch o'n disgyblion a'r gymuned am ddod at ein gilydd i gyflawni'r gamp ryfeddol hon," meddai Ruth Wilshire, Pennaeth Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul. "Mae'r digwyddiad hwn nid yn unig yn tynnu sylw at bwysigrwydd cadwraeth amgylcheddol ond hefyd yn dangos pŵer gweithredu ar y cyd."
Cefnogwyd yr ymgais recordio llwyddiannus ganAwdurdod Harbwr Caerdydd a thîm Rheoli Gwastraff y Cyngor, a wnaeth gymryd rhan hefyd gan gyfrannu at y record. Maewedi tynnu sylw at yr ymdrechion parhaus i gadw Afon Taf yn lân ac wedi ysbrydoli llawer o bobl i gymryd rhan mewn mentrau amgylcheddol yn y dyfodol.
Dywedodd Kate Strong, a drefnodd y digwyddiad Taff Tidy: "Rwy'n falch iawn bod cymaint o drigolion ar hyd afon Taf wedi dod allan i lanhau ein dyfrffordd hyfryd. Roedd yn enwedig o galonogol gweld faint o blant a phobl ifanc a gymerodd rhan yn y digwyddiad, gan gynnwys disgyblion o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul. Mae'n rhoi gobaith i mi am ddyfodol ein hafonydd a bod ein gwlad yn meithrin arweinwyr y dyfodol sy'n ymwybodol o'r amgylchedd a phobl sydd yn gweithredu."
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Hyfryd oedd clywed bod cynifer o blant a phobl ifanc wedi creu hanes trwy gefnogi'r digwyddiad Taf Tidy. Mae ymdrech disgyblion Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul nid yn unig yn taflu goleuni ar bwysigrwydd diogelu ein hamgylchedd ond hefyd yn profi beth gellir ei gyflawni pan fyddwn yn dod at ein gilydd i wneud newid cadarnhaol."