The essential journalist news source
Back
4.
April
2025.
Y Diweddariad: 04 Ebrill 2025

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Apêl Daeargryn Myanmar
  • Cwrdd â'r bobl 'Y Tu ôl i'r Bae', Awdurdod Harbwr Caerdydd yn dathlu 25 mlynedd
  • Picnic Dathlu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yng Nghastell Caerdydd
  • Agor ardal chwarae 'naturiol' newydd ym Mharc y Sanatoriwm yn swyddogol

 

Apêl Daeargryn Myanmar

Ar ddydd Gwener 28ain o Fawrth, trawyd Myanmar gan ddaeargryn oedd yn mesur 7.7 ar y raddfa Richter. Mae nifer y rhai sydd wedi eu lladd yn parhau i godi, ac mae cannoedd o bobl yn dal ar goll yn dilyn y daeargryn; y cryfaf i daro'r wlad ers degawdau. Mae miliynau o bobl yn y wlad nawr yn byw heb loches ddiogel, heb fwyd, heb ddŵr glân na gofal meddygol.

Roedd pobl Myanmar eisoes yn wynebu argyfwng dyngarol difrifol. Roedd traean o'r boblogaeth - 19.9 miliwn o bobl - angen cymorth dyngarol. Nawr mae'r sefyllfa yn drychinebus.

Er gwaetha'r holl heriau, mae elusennau DEC wedi bod yn gweithio ym Myanmar ers degawdau ac mae ganddynt bartneriaethau cryf â sefydliadau lleol i'r drychineb sydd â'r gallu i ymateb yn gyflym. Nawr mae gwir angen rhagor o arian arnynt er mwyn gallu ehangueu gwaith a chyrraedd y bobl fwyaf bregus. Cyfrannwch nawr os gwelwch yn dda.

Anghenion Mwyaf Brys

Lloches ddiogel, dŵr glân, bwyd a gofal meddygol.

 

  • Gallai £10 ddarparu dŵr glân [sydd ei angen ar frys] i 10 teulu am ddiwrnod
  • Gallai £50 ddarparu bwyd brys i un teulu am fis
  • Gallai £100 ddarparu nwyddau hylendid hanfodol i 10 teulu am dri mis

Sut i gyfrannu at yr Apêl

Ar-lein:  dec.org.uk

Ffôn: 0330 123 0555 [Codir taliadau rhwydwaith safonol]

Trwy neges destun: tecstiwch HELPU i 70727 i roi £10. [Bydd y neges yn costio £10 yn ogystal â chost arferol eich rhwydwaith]

Anfonwch siec yn y post at: DEC Myanmar Earthquake Appeal, PO Box 999, London EC3A 3AA.

I weld y telerau a'r amodau yn llawn ewch  idec.org.uk.

 

Dewch i gwrdd â'r bobl 'Y Tu ôl i'r Bae' wrth i Awdurdod Harbwr Caerdydd ddathlu 25 mlynedd ers ei sefydlu

Mae Awdurdod Harbwr Caerdydd yn dathlu ei 25ain pen-blwydd heddiw (1 Ebrill 2025).

I ddathlu, mae'r cyhoedd yn cael cynnig cyfle i gael gwybod mwy am y bobl 'Y Tu ôl i'r Bae' mewn arddangosfa ffotograffiaeth arbennig a fydd yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd o ddydd Llun 26 Mai tan ddiwedd yr haf, cyn symud i'r Eglwys Norwyaidd.

Mae'r arddangosfa'n cynnwys lluniau trawiadol y mae'r ffotograffydd teithio a dogfennol Nick Pumphrey wedi'u tynnu o staff sy'n gweithio i Gaerdydd i reoli'r gwaith o weithredu morglawdd Bae Caerdydd, sicrhau mordwyo diogel i gychod, monitro ansawdd dŵr, cysylltu â busnesau a chymunedau lleol, a gofalu am Warchodfa Gwlyptiroedd Bae Caerdydd ac Ynys Echni.

Bydd dathliadau'r 25ain pen-blwydd yn parhau trwy gydol y flwyddyn a bydd hefyd yn cynnwys:

 

  • cyhoeddi llyfr coffaol, sy'n ymchwilio i Awdurdod Harbwr Caerdydd yn y gorffennol a'r presennol, a fydd ar gael i'w ddarllen ar wefan Awdurdod yr Harbwr
  • cystadleuaeth 'Dylunio Baner Arth' i blant oedran ysgol gynradd, gyda'r 25 cais buddugol yn cael eu harddangos yn y Bae yn ystod gwyliau'r haf
  • cystadleuaeth Croeso Caerdydd gyda 25 o wobrau cyffrous sy'n gysylltiedig â'r Bae i'w hennill
  • Bydd Lighthouse Theatre yn cynnal teithiau cychod a beicio Bae Caerdydd, ar thema pen-blwydd Awdurdod Harbwr Caerdydd.
  • gwely blodau arddangos arbennig ar Forglawdd Bae Caerdydd, wedi'i blannu yn ôl dyluniad '25'.
  • cyfryngau cymdeithasol ar thema pen-blwydd ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Bae Caerdydd, sy'n cynnwys eiliadau ac atgofion arbennig y cyhoedd, proffiliau staff Awdurdod Harbwr Caerdydd, ffeithiau diddorol y Bae a mwy
  • cyfres bodledu gyda chyn-staff yn cofio dyddiau cynnar AHC.

Darllenwch fwy yma

 

Cyhoeddi Picnic i Ddathlu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yng Nghastell Caerdydd

Bydd Castell Caerdydd yn cynnal picnic dathlu arbennig, ac mae trigolion yn cael eu hannog i gynnal partïon stryd i goffáu 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn ddiweddarach eleni.

Mae'r digwyddiad am ddim hwn, ddydd Llun Gŵyl y Banc ar 5 Mai, yn rhan o ymgyrch Gŵyl Fwyd Prydain Fawr. Dan arweiniad Together Coalition, nod yr ymgyrch yw dod â chymunedau ledled Cymru a'r DU at ei gilydd i nodi Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop gyda pharti stryd, picnic yn eu parc lleol, neu drwy ymuno â digwyddiad cymunedol lleol.

Bydd y picnic, sy'n cael ei drefnu gan Gyngor Caerdydd a'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei gynnal ym man agored cyhoeddus y Castell rhwng 11am a 5pm.

Bydd y digwyddiad sy'n addas i deuluoedd yn cynnwys amrywiaeth o adloniant am ddim. Disgwyliwch gerddoriaeth o'r llwyfan bandiau, diddanwyr yn crwydro'r maes gan gynnwys sioeau syrcas a phypedau yn ogystal â gweithgareddau crefft i blant. Nid oes angen tocynnau - galwch heibio i fwynhau'r hwyl.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Mae Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn nodi diwedd bron i chwe blynedd o ryfel, ar draul bywyd miliynau o bobl. Mae'n ddigwyddiad arwyddocaol yn ein hanes ac yn un y dylid ei ddathlu.

"Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn gyfle gwych i bobl fachu blanced, pacio picnic a dod ynghyd, mewn heddwch ac undod gyda'u ffrindiau a'u teulu, i fwynhau diwrnod hwyl a chyfeillgar i'r teulu gyda'i gilydd."

Darllenwch fwy yma

 

Agor ardal chwarae 'naturiol' newydd ym Mharc y Sanatoriwm

Mae ardal chwarae 'naturiol' newydd ym Mharc y Sanatoriwm yng Nghaerdydd wedi agor i'r cyhoedd yn swyddogol.

Gyda thwmpath glaswelltog newydd 3 metr o uchder yn ganolog iddo, mae'r ardal chwarae yn cynnwys tair sleid, yn ogystal â llwyfannau dringo, troellwr 'aero tilt', troellwr 'roto roko' hygyrch, rowndabowt hygyrch i gadeiriau olwyn, dwy siglen iau newydd, siglen fasged, ac amrywiaeth o nodweddion chwarae naturiol eraill fel dringo meini mawr a thwneli.

Er bod yr holl offer chwarae ar gael i'w ddefnyddio, bydd rhan fach o'r ardal chwarae yn parhau i fod wedi'i ffensio dros dro i ganiatáu amser i laswellt sefydlu.

Darllenwch fwy yma