The essential journalist news source
Back
2.
April
2025.
Arddangosfa 'Lleisiau Grangetown' yn Amgueddfa Caerdydd wedi'i hymestyn

1.4.25

 

Mae'r arddangosfa 'Lleisiau Grangetown' yn Amgueddfa Caerdydd wedi'i hymestyn tan 26 Ebrill 2025.

Mae'r arddangosfa, sy'n rhannu straeon pobl sy'n byw yn y gymuned heddiw, yn ddiweddglo prosiect 'Curaduron Ifanc' yr amgueddfa.

People in a park with people in wheelchairsAI-generated content may be incorrect.

Gerddi'r Grange  Llun: Glenn Edwards

Roedd y prosiect, a gynhaliwyd rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2024, yn rhoi rheolaeth ar yr arddangosfa i aelodau Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange, gyda'r nod o ychwanegu elfen amrywiaeth at y straeon a adroddir yn yr Amgueddfa.

Fel rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliaeth, oedd wedi'i ariannu gan Gymdeithas yr Amgueddfeydd Annibynnol (AIM) a Llywodraeth Cymru, roedd yr Amgueddfa'n cwrdd yn rheolaidd gyda grŵp y 'Curaduron Ifanc' i ddarparu hyfforddiant ar gyfer creu arddangosfeydd a chasglu hanesion llafar.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Dewisodd y bobl ifanc a oedd yn rhan o'r prosiect y themâu ar gyfer eu cyfweliadau, y cwestiynau roedden nhw eisiau eu gofyn, a'r bobl roedden nhw eisiau siarad â nhw - mae'n arddangosfa am y gymuned, wedi'i datblygu gan y gymuned ac yn cael ei hadrodd yn eu lleisiau eu hunain. Mae hynny'n ei gwneud hi'n arbennig iawn."

Roedd themâu'r cyfweliadau'n cynnwys symud i Grangetown, cael eich magu yn yr ardal, y siopau lleol, a gwreiddiau Canolfan Gymunedol Pafiliwn Grange.

Fe wnaeth y grŵp ddewis hefyd y darlunwyr Jack Skivens a Chris House, a'r ffotograffydd Glenn Edwards, i helpu i adrodd straeon yr arddangosfa mewn modd gweledol.

Mae arddangosfa 'Lleisiau Grangetown' yn Amgueddfa Caerdydd wedi'i hymestyn tan 26 Ebrill 2025. Mae'r Amgueddfa, sydd ar yr Aes yng nghanol dinas Caerdydd, ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, 10am - 4pm. Mae mynediad i'r Amgueddfa a'r arddangosfa yn rhad ac am ddim.