Bydd Cymru’n wynebu Lloegr yn nhwrnamaint 6 Gwlad y Merched yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 29 Mawrth.
Gyda'r gic
gyntaf am 4.45pm, bydd rhai o’r ffyrdd yng nghanol y ddinas ar gau o 1.45pm tan
8.15pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o’r
stadiwm yn ddiogel.
Bydd y
gatiau'n agor am 3.15pm, a chynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i
gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar. Darllenwch y rhestr o eitemau
gwaharddedig yn principalitystadium.wales, yn arbennig y polisi bagiau (dim
bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.
Cau ffyrdd
Bydd y ffyrdd
canlynol yn cael eu cau fel rhan o drefniant cau ffyrdd rhannol yng nghanol y
ddinas o 1.45am tan 8.15pm.
·
Stryd
Tudor, Stryd Wood, Gerddi Despenser ac Arglawdd Fitzhammon
·
Heol
Eglwys Fair, Heol Scott, Stryd y Parc, Stryd Havelock a Lôn y Great Western
·
Heol
Saunders / Heol Penarth, Heol y Porth, Plas y Neuadd, Y Gwter, Stryd y Cei,
Heol y Cawl a Stryd y Popty.
Bydd Stryd y
Castell a Ffordd y Brenin ill dau yn parhau i fod ar agor i draffig, ond bydd
angen cau rhan fach o Ffordd y Brenin (Heol Tŷ'r Brodyr) rhwng Boulevard de
Nantes a Heol y Brodyr Llwydion, a chaiff hyn ei reoli gan staff er mwyn
caniatáu bysiau i deithio ar hyd y ffordd.
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan
Ddinesig: Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir
mynediad dim ond i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer
cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.
Mae’r ffyrdd
yr effeithir arnynt yn cynnwys Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa,
Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.
Parcio yng Nghanol y Ddinas ar Ddiwrnod Digwyddiad (Ceir a
Choetsys)
Cyrraedd yno:
Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a
dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.
Cost: £20 yn
daladwy ar y diwrnod am gar a £30 i goets – mae taliadau cerdyn hefyd ar gael
nawr.
Amserau
parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Gerddi Sophia
(ceir)
(Taith
gerdded o tua 0.5 milltir i Stadiwm Principality, Gât 2).
Parcio ar
gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd
yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.
Cost: £20 i
geir a £30 i goetsys - mae taliadau cerdyn ar gael nawr.
Amserau
parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.
Sylwer: Bydd
staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar
risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu
ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n
cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Bws
Bysus
lleol:
Caiff
gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau
Ewch i wefan
y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.
Ar gyfer
gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso
i Stagecoach (stagecoachbus.com)
Ar gyfer
gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i:
https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
Am ragor o
wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/
National
Express:
Bydd bysus
National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Bydd y beicffyrdd
a'r beicffyrdd dros dro o fewn yr ardal cau ffyrdd yn parhau ar agor i feicwyr
eu defnyddio yn ystod y digwyddiad, ond oherwydd nifer y bobl y disgwylir
iddynt fynychu’r gêm rygbi, gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a thalu sylw.
Mae'r
trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i
feiciau â phedalau.
Gall y rheini
sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau beicio neu gerdded. Mae ymchwil yn dangos
bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn
bellter y gellir ei feicio’n hawdd mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd
yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n beicio ar hyn o bryd roi
cynnig arni.
Pan fo
tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol byth
oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag yn y car yn ystod oriau brig neu
ddigwyddiadau mawr.
Parcio i Siopwyr
Mae meysydd
parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd;
Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd
Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).
Parcio i Bobl Anabl
Argymhellir
bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl
hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.
Gweler
argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Bydd safle
tacsis Heol Eglwys Fair yn cau am 1.45pm ac yn ailagor am 8.15pm.