The essential journalist news source
Back
25.
March
2025.
Dathlu'r Gymraeg drwy lyfrau plant

 

25/3/2025

 

Mae disgyblion o ddeg ysgol gynradd cyfrwng Saesneg wedi dod at ei gilydd i ddathlu'r Gymraeg drwy rannu llyfrau y maen nhw wedi eu creu. 

Roedd y prosiect cydweithredol yn cynnwys rhannu llyfrau sydd wedi'u cynllunio a'u creu gan blant i blant, gyda'r nod o helpu eu cyfoedion i ddysgu geirfa Gymraeg a chryfhau eu sgiliau Cymraeg, gan helpu i feithrin cariad at ddarllen a dysgu Cymraeg ymhlith plant. Mae llawer o'r llyfrau yn ddigidol a byddant yn dod yn rhan o restr chwarae Hwb i bob ysgol ei defnyddio fel adnodd digidol.

Daeth y prosiect i ben gyda digwyddiad unigryw a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng nghanol Caerdydd. Mynychodd pedwar o blant o bob ysgol a gymerodd ran, y barnwyd eu bod wedi cynhyrchu'r llyfr gorau yn eu lleoliad nhw. Roedd y dathliad yn cynnwys balwnau, bagiau nwyddau, taith o amgylch orielau yr amgueddfa, a chyfle i'r plant rannu eu gwaith gydag eraill.

Gan ddefnyddio adnoddau ‘Mae Ieithoedd yn ein Cysylltu â'n Gilydd' Consortiwm Canolbarth y De, sy'n annog plant i gofleidio darllen mewn iaith arall ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd amlieithrwydd, mae'r fenter hefyd yn cefnogi cenhadaeth Llywodraeth Cymru i ehangu'r Gymraeg i filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

Meddai Elizabeth Keys, Pennaeth Ysgol Gynradd Glyncoed: "Mae ein disgyblion wedi mwynhau'r prosiect hwn yn fawr.  Maen nhw wedi defnyddio eu creadigrwydd, eu sgiliau llythrennedd, eu geirfa Gymraeg, eu doniau llafaru a'u harbenigedd TGCh i greu llyfrau diddorol ar amrywiaeth o lwyfannau digidol.  Mae hwn wedi bod yn brosiect buddiol iawn ac mae'r digwyddiad rhannu a gynhaliwyd yn yr amgueddfa heb os wedi eu hysbrydoli."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae'r prosiect hwn yn enghraifft ardderchog o waith cydweithredol pwrpasol sy'n rhoi cyfleoedd i blant ddathlu dysgu gyda'u cyfoedion mewn lleoliad trawiadol yng Nghymru. Mae hefyd yn cefnogi ein nod i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg drwy wella hyder a mwynhad dysgwyr o'r iaith."

Mae'r ysgolion sy'n cymryd rhan yn cynnwys; Ysgol Gynradd Greenway, Ysgol Gynradd Trowbridge, Ysgol Gynradd Oakfield, Ysgol Gynradd Glan-yr-Afon, Ysgol Gynradd Bryn Hafod, Ysgol Gynradd Pen-y-Bryn, Ysgol Gynradd Pontprennau, Ysgol Gynradd Glyncoed, Ysgol Gynradd Radnor ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Esgob Childs.