The essential journalist news source
Back
24.
March
2025.
Y newyddion gennym ni - 24/03/25
 24/03/25

 

21/03/25 - Cyngor Caerdydd yn cyhoeddi casgliadau gwastraff gardd drwy gydol y flwyddyn

Mae Cyngor Caerdydd yn cyhoeddi newid mawr yn ei wasanaethau rheoli gwastraff - bydd casgliadau gwastraff gardd bob pythefnos nawr yn digwydd drwy gydol y flwyddyn.

Ailddechreuodd casgliadau gwastraff gardd ledled y ddinas yr wythnos hon ar ôl egwyl y gaeaf, ond bydd trigolion bellach yn gallu rhoi eu gwastraff gardd allan i’w gasglu bob pythefnos am 50 wythnos o'r flwyddyn. Mae hynny'n golygu 25 casgliad gwastraff gardd y flwyddyn - i fyny o 18 y flwyddyn.

Darllenwch fwy yma

21/03/25 - Caerdydd yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Dileu Gwahaniaethu ar Sail Hil y Cenhedloedd Unedig

Mae Caerdydd yn ymuno â'r gymuned fyd-eang heddiw i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Dileu Gwahaniaethu ar sail Hil y Cenhedloedd Unedig.

Mae'r diwrnod, sy'n cael ei gynnal bob blwyddyn ar 21 Mawrth, yn cofio’r digwyddiadau trasig yn Sharpeville, De Affrica, yn 1960 lle lladdwyd 69 o bobl yn ystod protest heddychlon yn erbyn “deddfau trwydded” apartheid, a oedd yn ei wneud yn ofynnol i bobl nad oeddent yn wyn gario dogfennau i’w hawdurdodi i fod mewn ardaloedd cyfyngedig.

Darllenwch fwy yma

20/03/25 - Strategaeth newydd yn nodi ymrwymiad i gefnogi oedolion ag anableddau dysgu

Mae ymrwymiad Cyngor Caerdydd i ddarparu gwasanaethau o safon i bobl ag anableddau dysgu wedi'i amlinellu mewn strategaeth newydd. 

Mae'r Strategaeth Byw'n Dda gydag Anabledd Dysgu i Oedolion 2024-2029 yn nodi cyfeiriad clir wrth gyflawni blaenoriaethau lleol tra'n cyd-fynd yn llawn â chynlluniau partneriaeth ranbarthol, deddfwriaeth genedlaethol a chynllun corfforaethol Cryfach, Tecach, Gwyrddach y Cyngor.

Darllenwch fwy yma