Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:
·
Y Cyngor yn cyhoeddi
casgliadau gwastraff gardd drwy gydol y flwyddyn
·
Adnoddau sy'n gyfeillgar i bobl niwrowahanol
mewn hybiau a llyfrgelloedd
· Pwyllgor Cabinet Ymddiriedolaethau newydd
yn cyfarfod am y tro cyntaf
· Cyngor Caerdydd a sefydliadau ledled
Cymru yn arwyddo siarter i deuluoedd sydd mewn profedigaeth oherwydd trychineb cyhoeddus
· Strategaeth
newydd yn nodi ymrwymiad i gefnogi oedolion ag anableddau dysgu
Cyngor Caerdydd yn cyhoeddi casgliadau gwastraff gardd
drwy gydol y flwyddyn
Mae Cyngor Caerdydd yn
cyhoeddi newid mawr yn ei wasanaethau rheoli gwastraff - bydd casgliadau
gwastraff gardd bob pythefnos nawr yn digwydd drwy gydol y flwyddyn.
Ailddechreuodd casgliadau
gwastraff gardd ledled y ddinas yr wythnos hon ar ôl egwyl y gaeaf, ond bydd
trigolion bellach yn gallu rhoi eu gwastraff gardd allan i’w gasglu bob
pythefnos am 50 wythnos o'r flwyddyn. Mae hynny'n golygu 25 casgliad gwastraff gardd
y flwyddyn - i fyny o 18 y flwyddyn.
Bydd y gwasanaeth yn oedi
am bythefnos dros y Nadolig i ailgyfeirio adnoddau a rheoli'r swm cynyddol o
ailgylchu a achosir gan dymor y Nadolig.
Dywedodd y Cynghorydd Norma
Mackie, yr Aelod Cabinet dros Wastraff, Strydlun a Gwasanaethau Amgylcheddol,
ei bod yn falch iawn o allu ehangu’r gwasanaeth: "Rydym yn buddsoddi yn y
gwasanaethau hyn ar ôl gwrando ar adborth gan ein trigolion. Fe wnaethon nhw
ofyn ac rydyn ni'n cyflawni ar eu cyfer. Mae'r setliad cyllideb gwell a gafwyd
gan Lywodraeth Cymru wedi ein galluogi i wneud hyn, ac rwy'n hapus iawn ein bod
yn gallu gwneud y newidiadau hyn. Bydd hyn yn helpu trigolion gyda chlirio dail
- sy'n dod yn fwy anwadal bob blwyddyn oherwydd newid hinsawdd - a bydd hefyd
yn helpu'r garddwyr brwd hynny sy’n gweld eu gerddi yn para am gyfnod hirach yn
yr hydref ac yna'n dechrau’n gynharach yn y gwanwyn.
"Ein gobaith yw y bydd
hyn yn cefnogi garddwyr brwd ac yn gwella ailgylchu gwastraff gardd ar yr un
pryd. Caerdydd yw un o'r dinasoedd gorau yn y byd am ailgylchu ac mae
casgliadau gwastraff gardd yn helpu'r ddinas i gyrraedd ei thargedau ailgylchu,
ond mae'n bwysig bod trigolion yn defnyddio'r gwasanaeth yn y ffordd gywir, gan
ailgylchu'r deunyddiau cywir yn unig. Er mwyn sicrhau bod ein compost o ansawdd
uchel, gofynnaf i bawb roi gwastraff gardd organig yn unig yn eu biniau.
Symudwch unrhyw eitemau nad ydynt yn wastraff gardd cyn eu casglu a'n helpu i
wthio Caerdydd hyd yn oed yn uwch i fyny'r siartiau ailgylchu."
Adnoddau sy'n gyfeillgar i bobl
niwrowahanol mewn hybiau a llyfrgelloedd
Mae
cyfres o adnoddau synhwyraidd i helpu i wneud hybiau a llyfrgelloedd Cyngor
Caerdydd yn fwy hygyrch i gwsmeriaid yn ystod eu hymweliad bellach ar gael mewn
cyfleusterau ledled y ddinas.
Fel
rhan o waith y Cyngor i wneud Caerdydd yn ddinas sy'n fwy cyfeillgar i bobl
niwrowahanol, mae'r gyfres newydd o adnoddau wedi'u casglu i sicrhau bod pobl
ag anghenion synhwyraidd yn cael gwell profiad wrth gael mynediad at y
cyfleusterau a'r gwasanaethau mewn hybiau a llyfrgelloedd ledled y ddinas.
Yn
ystod Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth (Mawrth 17 – 23), mae’r Cyngor yn annog
cwsmeriaid i fenthyca’r adnoddau sy’n cynnwys teganau
ffidlan, amddiffynwyr clustiau, lampau, ategion cefn a gwyntyllau, rhanwyr
desg, trososodiadau lliw, goleuadau ychwanegol, amseryddion a mwy, yn ystod eu hymweliad.
Pwyllgor Cabinet Ymddiriedolaethau Newydd yn cyfarfod am
y tro cyntaf
Cyfarfu
Pwyllgor Cabinet newydd Cyngor Caerdydd am y tro cyntaf yr wythnos hon (dydd
Iau, 20 Mawrth).
Mae'r
Pwyllgor, sy'n cynnwys pum Aelod Cabinet sy’n cael eu cynghori gan dri aelod
annibynnol o’r Pwyllgor Safonau a Moeseg, yn rhan o drefniadau llywodraethu
newydd y mae’r cyngor wedi’u sefydlu. Nod hyn yw rheoli’r broses o wneud
penderfyniadau ar gyfer asedau sy'n destun trefniadau Ymddiriedolaeth.
Mae
ymddiriedolaethau yn berthynas gyfreithiol sy'n aml yn codi pan fydd rhoddwr
wedi rhoi neu wedi trosglwyddo tir neu eiddo i'r Cyngor ar yr amod ei fod yn
cael ei ddefnyddio at ddiben cyhoeddus, ond gallant hefyd fod yn fuddsoddiadau
ariannol neu gronfeydd eraill, yn aml at ddibenion dyfarnu grantiau i'r
gymuned. Mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am faterion yr ymddiriedolaeth a rhaid
iddyn nhw weithredu er ei budd gorau, a sicrhau bod ei hasedau'n cael eu
defnyddio yn unol ag amcanion yr ymddiriedolaeth.
Dywedodd
y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor:
"Mae'r Cyngor yn cymryd ei gyfrifoldeb fel Ymddiriedolwr
Corfforaethol yn hynod o ddifrif. Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud yn
ddiweddar i gynyddu ymwybyddiaeth ar bob lefel yn y Cyngor o unrhyw drefniadau
Ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig ag asedau a ddelir gan y Cyngor, er mwyn
ystyried y rhain wrth wneud penderfyniadau mor fuan â phosib.
"Bydd
y trefniadau pwyllgor newydd hyn yn sicrhau gwahaniad clir o'r rôl hon oddi
wrth swyddogaethau statudol cyffredin y Cyngor ac yn sicrhau bod unrhyw
wrthdaro buddiannau a allai godi yn y dyfodol yn cael eu rheoli'n effeithiol,
yn unol â chanllawiau'r Comisiwn Elusennau."
Yn y
cyfarfod cyntaf, roedd aelodau'r pwyllgor yn cytuno ar 'Bolisi Gwrthdaro
Buddiannau Ymddiriedolaethau' newydd sydd wedi’i ddatblygu’n unol â chanllawiau
gan y Comisiwn Elusennau.
Bydd yr
holl benderfyniadau arwyddocaol sy'n gysylltiedig ag Ymddiriedolaethau yn cael
eu gwneud gan y pwyllgor. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod penderfyniadau yn
cael eu gwneud yn amserol ac yn effeithiol, bydd angen dirprwyo rhai i
swyddogion. Yn y cyfarfod, cytunodd aelodau’r pwyllgor ar y trefniadau hyn
hefyd, ynghyd â chynllun o benderfyniadau Ymddiriedolaeth sydd ar ddod.
Mae
manylion llawn y trefniadau a drafodwyd gan Bwyllgor Ymddiriedolaethau'r
Cabinet, a gwe-ddarllediad o'r cyfarfod, ar gael yma: Agenda Pwyllgor Ymddiriedolaethau'r Cabinet - Dydd Iau, 20 Mawrth, 2025,
3:00 pm: Cyngor Caerdydd
Cyngor Caerdydd a Sefydliadau Ledled
Cymru yn Arwyddo Siarter i Deuluoedd sydd mewn Profedigaeth oherwydd Trychineb
Cyhoeddus
Mewn cam arwyddocaol, mae Cyngor Caerdydd wedi ymuno
â sefydliadau ledled Cymru i arwyddo’r Siarter i Deuluoedd sydd mewn
Profedigaeth oherwydd Trychineb Cyhoeddus.
Drwy ddatgan ymrwymiad i ymateb i drychinebau
cyhoeddus yn agored, tryloyw ac atebol, mae'r siarter yn galw am newid
diwylliannol yn y ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn ymgysylltu â theuluoedd mewn
profedigaeth, gan sicrhau bod y gwersi o drychineb Hillsborough 1989 yn cael eu
dysgu a'u rhoi ar waith i sicrhau na fydd trychinebau yn y dyfodol yn achosi
trallod tebyg.
Mynychwyd y digwyddiad lansio ym Merthyr Tudful ar 18
Mawrth gan yr Esgob James Jones KBE, a ysgrifennodd y siarter fel rhan o'i
adroddiad ar drasiedi Hillsborough. Ymunodd teuluoedd mewn profedigaeth a
goroeswyr trychinebau cyhoeddus ag ef, gan gynnwys rhai o Hillsborough,
Aberfan, Tŵr Grenfell ac Arena Manceinion.
Wrth siarad yn y digwyddiad lansio, dywedodd yr Esgob
Jones: "Heddiw mae Cymru yn arwain y ffordd gyda dros 50 o'i chyrff
cyhoeddus yn llofnodi'r siarter. Drwy wneud hynny mae diwylliant y sefydliadau
wedi dechrau newid ac mae ymrwymiad o'r newydd i wasanaeth cyhoeddus ac i
barchu dynoliaeth y rhai rydyn ni wedi ein galw i’w gwasanaethu.
"Mae'r siarter yn cynrychioli addewid, ar ôl
unrhyw drychineb yn y dyfodol, na fydd neb yn cael eu gadael ar eu pennau eu
hunain i ddelio â’u galar a’u goroesiad. Na fydd neb yn dioddef o 'agwedd
nawddoglyd pŵer anatebol' eto.
"Mae hon yn foment dyngedfennol ym mywyd y
genedl wrth i ni gofleidio egwyddorion y siarter ac addo parchu dynoliaeth ei
holl ddinasyddion a ddylai fod wrth wraidd pob gwasanaeth cyhoeddus."
Mae'r siarter wedi'i llofnodi gan amrywiaeth eang o
sefydliadau, gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol
eraill, heddluoedd, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, a gwasanaethau tân ac achub.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw
Thomas: "Mae arwyddo'r Siarter i Deuluoedd sydd mewn Profedigaeth oherwydd
Trychineb Cyhoeddus yn gam arwyddocaol i Gyngor Caerdydd. Mae'r siarter hon yn
cynrychioli ein hymrwymiad diwyro i gefnogi teuluoedd ar draws ein cymuned drwy
fod yn agored, tryloyw ac atebol.
"Mae'r gwersi o drychineb Hillsborough ym 1989
a'i ganlyniadau wedi dangos pwysigrwydd newid diwylliannol yn y ffordd y mae
cyrff cyhoeddus yn ymgysylltu â theuluoedd mewn profedigaeth. Trwy arwyddo’r
siarter hon, rydyn ni’n addo dysgu o drychinebau’r gorffennol a sicrhau bod
teuluoedd mewn profedigaeth yn cael eu trin â gofal a thosturi, nid yn unig ar
adeg o argyfwng a thrychineb ond yn yr wythnosau, misoedd a blynyddoedd sy'n
dilyn."
Mae
ymrwymiad Cyngor Caerdydd i ddarparu gwasanaethau o safon i bobl ag anableddau
dysgu wedi'i amlinellu mewn strategaeth newydd.
Mae'r
Strategaeth Byw'n Dda gydag Anabledd Dysgu i Oedolion 2024-2029 yn nodi
cyfeiriad clir wrth gyflawni blaenoriaethau lleol tra'n cyd-fynd yn llawn â
chynlluniau partneriaeth ranbarthol, deddfwriaeth genedlaethol a chynllun
corfforaethol Cryfach, Tecach, Gwyrddach y Cyngor.
Y
weledigaeth yw Hyrwyddo Annibyniaeth a Gwella Bywydau ac mae pedair egwyddor y
mae'r strategaeth yn canolbwyntio arnynt:
- Atal: Hyrwyddo atal ac ymyrraeth
gynnar. Cefnogi pobl ag anableddau dysgu i fyw'r bywydau maen nhw am eu
byw a chael annibyniaeth, dewis a rheolaeth
- Beth
sy'n bwysig i mi: Gwrando
a gweithio ar y cyd gyda phobl i ddod o hyd i ddatrysiadau i ddiwallu eu
hanghenion.
- Sicrhau
gofal o ansawdd uchel: Datblygu
gwasanaethau o safon sy'n darparu atebion gwerth am arian sy'n diwallu
anghenion gofal a chymorth.
- Gartref
Gyntaf: Cefnogi
pobl i fyw'n lleol lle maen nhw'n "teimlo'n dda ac yn iach" ac
mewn cyswllt â'u cymunedau.