Mae Caerdydd yn ymuno â'r gymuned fyd-eang heddiw i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Dileu Gwahaniaethu ar sail Hil y Cenhedloedd Unedig.
Mae'r diwrnod, sy'n cael ei gynnal bob blwyddyn ar 21 Mawrth, yn cofio’r digwyddiadau trasig yn Sharpeville, De Affrica, yn 1960 lle lladdwyd 69 o bobl yn ystod protest heddychlon yn erbyn “deddfau trwydded” apartheid, a oedd yn ei wneud yn ofynnol i bobl nad oeddent yn wyn gario dogfennau i’w hawdurdodi i fod mewn ardaloedd cyfyngedig.
Y thema eleni yw dathlu 60 mlynedd ers y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil.
Yng Nghaerdydd, mae'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol wedi bod ar flaen y gad o ran hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant hiliol. Sefydlwyd y tasglu ym mis Gorffennaf 2020, ac mae wedi gweithio i ddod o hyd i ddatrysiadau ymarferol i wella cydraddoldeb hiliol a’u rhoi ar waith ledled y ddinas, gan ganolbwyntio ar feysydd allweddol fel cyflogaeth, addysg, iechyd a chyfiawnder troseddol.
Y llynedd, llofnododd y Cyngor siarter gwrth-hiliaeth UNSAIN sydd â’r nod o fynd i'r afael â hiliaeth yn y sector cyhoeddus, gan ymrwymo i barhau â'i ymdrechion i hyrwyddo amrywiaeth, tegwch, a chynhwysiant o fewn ei weithlu a thu hwnt.
Trwy weithredu mentrau recriwtio amrywiaeth, darparu hyfforddiant ar ragfarn ddiarwybod, codi ymwybyddiaeth o wahanol ddiwylliannau cydweithwyr a’u dathlu, mae'r awdurdod yn bwriadu creu llywodraeth leol fwy cynhwysol a chynrychioliadol.
Dywedodd Julie Sangani, yr Aelod Cabinet dros Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldeb: “Mae amrywiaeth a chydlyniant yn hanfodol yn y byd heddiw ac mae Caerdydd yn ddinas hynod amrywiol, lle nad oes lle i wahaniaethu o unrhyw fath.
“Mae heddiw’n gyfle i ailddatgan ein hymrwymiad i sicrhau bod Caerdydd yn ddinas lle gall pawb ffynnu, beth bynnag eu cefndir, ond hefyd i gydnabod bod yna angen enbyd o hyd am fwy o amrywiaeth mewn llywodraeth leol, er mwyn sicrhau bod ein penderfynwyr mewn sefyllfa well i fynd i'r afael ag anghenion a dyheadau unigryw pob un o’n cymunedau.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: “Fe wnaeth llofnodi siarter gwrth-hiliaeth UNSAIN y llynedd ddangos ein hymrwymiad diwyro i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil. Mae ein hymrwymiad craidd i fod yn ‘Gryfach, Tecach, Gwyrddach’ yn tanlinellu ein nod o feithrin dinas gynhwysol a theg, sy'n dathlu ei hamrywiaeth ac yn gwerthfawrogi pob dinesydd.”