The essential journalist news source
Back
17.
March
2025.
Y newyddion gennym ni - 17/03/25
 17/03/25

 Image

13/03/25 - Disgyblion Ysgol Gynradd Ton-yr-Ywen yn cael profiad adeiladu ymarferol ar safleoedd datblygu ysgolion mawr Caerdydd

Mae disgyblion Blwyddyn 5 o Ysgol Gynradd Ton-yr-Ywen yn y Mynydd Bychan wedi mwynhau cyfle unigryw i weld y broses gyffrous o adeiladu drwy ymweliadau â safleoedd dau o brosiectau datblygu ysgolion mwyaf Caerdydd - Ysgol Uwchradd Cantonian ar Gampws Cymunedol y Tyllgoed a'r Ysgol Uwchradd Willows newydd.

Darllenwch fwy yma

Image

14/03/25 - Darparu cartrefi diogel, cynnes ac ynni-effeithlon

 

Mae Cyngor Caerdydd wedi amlinellu ei ymrwymiad i ddarparu cartrefi diogel, cynnes ac ynni-effeithlon i denantiaid mewn cynllun tai newydd ar gyfer y ddinas.

 Darllenwch fwy yma

Image

14/03/25 - Adeiladau bywiog sy'n darparu'r gwasanaethau gorau posibl

Mae canolfan ieuenctid newydd sbon wedi agor yn swyddogol y mis hwn, gan ehangu darpariaeth ieuenctid, cyfleoedd a gwasanaethau cymorth i bobl ifanc yn Nhrelái a Chaerau.

Ymunodd bron i 16,000 o aelodau newydd â gwasanaeth llyfrgelloedd y ddinas, rhoddwyd mwy na 1.9m o lyfrau ar fenthyg, prynwyd mwy na 78,000 o lyfrau newydd a mynychodd 175,000 o blant ac oedolion ddigwyddiadau mewn hybiau a llyfrgelloedd yn 2023/24.

Darllenwch fwy yma

Image

07/03/25 - Adnoddau sy'n gyfeillgar i bobl niwrowahanol mewn hybiau a llyfrgelloedd

Mae cyfres o adnoddau synhwyraidd i helpu i wneud hybiau a llyfrgelloedd Cyngor Caerdydd yn fwy hygyrch i gwsmeriaid yn ystod eu hymweliad bellach ar gael mewn cyfleusterau ledled y ddinas.

Fel rhan o waith y Cyngor i wneud Caerdydd yn ddinas sy'n fwy cyfeillgar i bobl niwrowahanol, mae'r gyfres newydd o adnoddau wedi'u casglu i sicrhau bod pobl ag anghenion synhwyraidd yn cael gwell profiad wrth gael mynediad at y cyfleusterau a'r gwasanaethau mewn hybiau a llyfrgelloedd ledled y ddinas.

 Darllenwch fwy yma