The essential journalist news source
Back
14.
March
2025.
Darparu cartrefi diogel, cynnes ac ynni-effeithlon
14/3/25

Mae Cyngor Caerdydd wedi amlinellu ei ymrwymiad i ddarparu cartrefi diogel, cynnes ac ynni-effeithlon i denantiaid mewn cynllun tai newydd ar gyfer y ddinas.

Yn ei gynllun busnes Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer 2025/26, mae'r Cyngor yn nodi ei gyfeiriad ar gyfer darparu gwasanaethau tai dros y flwyddyn i ddod, gan roi ffocws parhaus ar adeiladu cartrefi cyngor newydd i fynd i'r afael â'r angen sylweddol yn y ddinas, yn ogystal â chynnal cartrefi a chymdogaethau presennol.

Ar ôl darparu 1,819 o gartrefi newydd o bob deiliadaeth yn barod – 1,461 o dai cyngor a 358 o gartrefi i’w gwerthu – mae 422 o gartrefi eraill wrthi’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd ar draws 12 safle, gyda channoedd mwy ar y gweill.

Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi dechrau ar raglen newydd mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg a'r datblygwr Lovell Partnerships i ddarparu o leiaf 2,260 o gartrefi newydd ar draws y rhanbarth dros y 10 mlynedd nesaf – gan gyfrannu at darged cyffredinol Caerdydd o adeiladu 4,000 o gartrefi newydd i'r ddinas – i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng tai.

Yn y cyfamser, bydd mwy na £33m yn cael ei fuddsoddi i wella cartrefi presennol dros y flwyddyn i ddod, gan gynnwys £2.75m ar geginau ac ystafelloedd ymolchi newydd a £1.2m ar ffenestri newydd.

Mae'n ofynnol i'r Cyngor, ynghyd â'r 11 awdurdod sy’n cadw stoc yng Nghymru, gyflwyno cynllun busnes CRT derbyniol i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn er mwyn asesu cynnydd tuag at fodloni a/neu gynnal Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).

Mae cynllun Caerdydd, a fydd yn cael ei ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod nesaf ar 20 Mawrth, yn nodi'r heriau y mae'r Cyngor yn eu hwynebu wrth gyflawni nodau datgarboneiddio newydd a bennwyd gan Lywodraeth Cymru yn y safon tai cymdeithasol ddiweddaraf.

Bydd y Cabinet yn ystyried polisi cydymffurfio newydd sydd wedi'i ddatblygu i helpu i gyflawni gofynion SATC 2023 – sy'n rhoi mwy o bwyslais ar wella effeithlonrwydd cartrefi o ran ynni.  Mae'r polisi wedi'i ategu gan dair egwyddor allweddol gan gynnwys rhoi tenantiaid yn gyntaf, blaenoriaethu eiddo sydd angen eu gwella fwyaf, a fforddiadwyedd – gan gydbwyso'r angen i symud i sero-carbon a’r pwysau a'r gofynion niferus eraill sy'n wynebu gwasanaethau tai.

Mae safonau SATC yn mynnu bod pob eiddo yn cyflawni sgôr A ar eu Tystysgrif Perfformiad Ynni (TPY) erbyn mis Mawrth 2034.Fodd bynnag, mae amcangyfrifon yn dangos y byddai'r gost o gyrraedd targedau ynni-effeithlon dros dro mewn 98% o gartrefi cyngor yng Nghaerdydd oddeutu £351m, tra byddai angen £582m yn ychwanegol i godi 95% o'r holl eiddo i sgôr TPY band B.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: “Mae Caerdydd yn falch o fod yr Awdurdod Lleol cyntaf yng Nghymru i gyrraedd y safon SATC flaenorol ar ôl ei chyflwyno yn 2002, ond rydym yn pryderu am y costau uchel sydd eu hangen i gyflawni'r safonau newydd, yn enwedig o ran datgarboneiddio.

“Rydym wedi ymrwymo i'n hagenda Un Blaned ac i wneud ein cartrefi mor ynni-effeithlon â phosibl ond mae datgarboneiddio ein cartrefi yn cyflwyno nifer o heriau – yn anad dim y gost.

“Ein nod yw cyflawni'r gofynion cyn belled ag y bo modd, gyda buddugoliaethau cyflym i wella cymaint o gartrefi ag y gallwn, a byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddeall y gefnogaeth ariannol sylweddol y bydd ei hangen i alluogi cyflawni prosiectau mawr, mwy hirdymor.”

Mae atal a mynd i'r afael â digartrefedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn y cynllun CRT, ac mae'n nodi sut mae'r Cyngor yn gweithio i wella cynlluniau llety â chymorth presennol trwy waith adnewyddu i sicrhau bod unigolion a theuluoedd sy'n profi digartrefedd yn cael mynediad i lety o ansawdd da, tra chwilir am ddatrysiad mwy parhaol.

Ac ar adeg pan fo anawsterau economaidd yn parhau i effeithio ar lawer o bobl, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i barhau i gefnogi tenantiaid trwy ddarparu gwasanaethau modern, hygyrch a chynhwysol sy'n diwallu eu hanghenion.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lee Bridgeman: “Ni fu erioed mor bwysig ein bod yn parhau i ddarparu cyngor a chefnogaeth i’n tenantiaid a gwrando ar eu hanghenion sy’n newid.

“Mae ymgysylltu â nhw yn parhau i fod yn hanfodol. Mae'r cynllun newydd hwn yn gosod ymrwymiadau cryf i ddarparu cyfleoedd i'n tenantiaid gymryd rhan yn eu cymunedau ac i sicrhau bod ein hybiau a'n llyfrgelloedd yn gwasanaethu'r cymunedau hynny'n dda.”

Cyn cyfarfod y Cabinet ar 20 Mawrth, bydd Cynllun Busnes CRT ar gyfer 2025/26 yn cael ei gyhoeddi yma: Agenda'r Cabinet - Dydd Iau, 20 Mawrth, 2025 2.00 pm Cyngor Caerdydd

Bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol ddydd Llun, 1 Mawrth. Bydd agenda a dolen i we-ddarllediad y cyfarfod hwnnw ar gael yma: Agenda’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol - Dydd Llun, 17 Mawrth, 2025, 4.30 pm: Cyngor Caerdydd