Cafwyd dros ddwy filiwn o ymweliadau â hybiau a llyfrgelloedd Caerdydd y llynedd, yn ôl strategaeth newydd ar gyfer cyfleusterau ‘siop un stop’ y ddinas.
Ymunodd bron i 16,000 o aelodau newydd â gwasanaeth llyfrgelloedd y ddinas, rhoddwyd mwy na 1.9m o lyfrau ar fenthyg, prynwyd mwy na 78,000 o lyfrau newydd a mynychodd 175,000 o blant ac oedolion ddigwyddiadau mewn hybiau a llyfrgelloedd yn 2023/24.
Nododd y tîm Cynghori dros £20m o fudd-daliadau nad oeddynt yn cael eu hawlio gynt yn ogystal â thros £1m o daliadau untro i gefnogi dinasyddion yn y ddinas, mynychodd tua 6,607 o bobl sesiynau hyfforddi, a derbyniodd dros 105,000 o bobl gefnogaeth gan y Gwasanaeth i Mewn i Waith mewn hybiau a llyfrgelloedd.
Dywedodd 96% o'r cwsmeriaid a holwyd fod yr hyb wedi diwallu eu hanghenion, ac roedd 97% o gwsmeriaid yn fodlon â staff yr hyb.
Mae graddfa ac effaith y gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael mewn hybiau a llyfrgelloedd i’w gweld yn y strategaeth newydd hon, sy'n amlinellu sut y bydd y cyfleusterau cymunedol yn parhau i helpu trigolion Caerdydd dros y pum mlynedd nesaf.
Mae Strategaeth Hybiau a Llyfrgelloedd 2024-2029, a fydd yn cael ei hystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 20 Mawrth, yn nodi'r weledigaeth i hybiau a llyfrgelloedd ddarparu gwasanaethau a chymorth o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion penodol pob cymuned, gyda'r nod o:
- Ysbrydoli a hyrwyddo mwynhad o ddarllen, dysgu, creadigrwydd a diwylliant
- Darparu ffynonellau cywir a dibynadwy o gyngor a gwybodaeth arbenigol
- Sicrhau bod cymorth ar gael i'r rhai y mae costau byw cynyddol yn effeithio fwyaf arnynt
- Galluogi mynediad at dechnoleg a fformatau digidol, gan gefnogi mwy o gynhwysiant digidol
- Cefnogi pobl i uwchsgilio a dod o hyd i gyflogaeth barhaus â chyflog uwch
- Rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc gyflawni eu llawn botensial
- Helpu pawb i fyw'n dda
- Darparu rhaglenni gwirfoddol amrywiol sy'n helpu pobl i ddatblygu sgiliau, profiad a chysylltiadau cymdeithasol
- Darparu mannau cymunedol ac arbenigol bywiog, croesawgar a chynhwysol – lle diogel a chymdeithasol i bawb
- Sicrhau bod y cymunedau sydd eu hangen yn elwa o wasanaethau'r Hyb, a chwilio am gyfleoedd i ehangu’r ddarpariaeth.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y
Cynghorydd Lee Bridgeman: “Mae ein rhaglen hybiau wedi bod yn llwyddiannus iawn
dros y 10 mlynedd diwethaf a mwy, wrth i ni ddatblygu adeiladau modern a bywiog
yng nghanol cymunedau i ddarparu ystod eang o wasanaethau’r cyngor a
gwasanaethau partneriaid. Nid oes amheuaeth bod y cyfleusterau hyn wedi gwneud
gwasanaethau'n fwy hygyrch i breswylwyr ac yn fwy cyfleus hefyd.
“Yn fwy diweddar, rydym wedi partneru â gwasanaethau iechyd wrth ddatblygu'r Hyb Lles yn y Maelfa, gan gynnig gwasanaethau iechyd ochr yn ochr â gwasanaethau hyb a llyfrgell arferol, ac edrychwn ymlaen at efelychu'r model hwnnw gyda chynlluniau ar gyfer ail hyb lles yn Nhrelái.
“Mae ein hybiau a'n llyfrgelloedd yn boblogaidd iawn yn y cymunedau felly mae wedi bod yn bwysig gwrando ar farn pobl am yr hyn maen nhw am ein gweld ni'n ei ddarparu yn eu cyfleusterau lleol. Rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad am ein gwasanaethau, yn enwedig ein cwsmeriaid iau a gafodd gyfle i ddweud eu dweud. Mae eu barn wedi helpu i lunio nodau allweddol y strategaeth newydd hon ar gyfer sut rydym yn bwriadu parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i gymunedau dros y blynyddoedd nesaf.”
I ddarllen adroddiad llawn y strategaeth, ewch i Agenda’r Cabinet - Dydd Iau, 20 Mawrth, 2025 2.00 pm: Cyngor Caerdydd