13/3/2025
Mae disgyblion Blwyddyn 5 o Ysgol Gynradd Ton-yr-Ywen yn y Mynydd Bychan wedi mwynhau cyfle unigryw i weld y broses gyffrous o adeiladu drwy ymweliadau â safleoedd dau o brosiectau datblygu ysgolion mwyaf Caerdydd - Ysgol Uwchradd Cantonian ar Gampws Cymunedol y Tyllgoed a'r Ysgol Uwchradd Willows newydd.
Wedi'u darparu mewn cydweithrediad â Chyngor Caerdydd fel rhan o'r rhaglen ‘Trawsnewidwyr Technoleg', mae'r ymweliadau wedi'u cynllunio i roi profiad dysgu dilys sy'n canolbwyntio ar effaith technoleg ym maes adeiladu a dylunio.
Fel rhan o'r prosiect, cafodd disgyblion frîff i ddylunio adeilad Meithrin a Derbyn newydd ar gyfer eu hysgol eu hunain, ac aethant ati i gynnal grwpiau ffocws gyda staff, cyd-ddisgyblion a rhieni i gasglu adborth am yr hyn sy'n gwneud gofod dysgu effeithiol.
Cwrddon nhw ag Andrew Street, pensaer o Arcadis, i ddysgu mwy am y broses o ddylunio ysgol, a gan gydweithio mewn grwpiau fe wnaethant ddefnyddio Minecraft for Education i greu modelau digidol o'u dyluniadau, gan integreiddio ystyriaethau cynaliadwyedd yn eu cynlluniau.
Ar benllanw eu prosiect fe wisgodd y disgyblion hetiau caled a festiau llachar wrth iddynt ymweld â safleoedd yr Ysgol Uwchradd Cantonian newydd sydd wedi'i leoli ar Gampws Cymunedol y Tyllgoed gwerth £110m, a'r Ysgol Uwchradd Willows newydd gwerth £60m, y mae'r gwaith ar y ddau ohonynt wedi hen ddechrau erbyn hyn.
Roedd yr ymweliadau'n cynnwys cyflwyniadau lle bu'r disgyblion yn archwilio cynlluniau digidol a rhagamcanion gweledol o'r ysgolion gorffenedig, teithiau tywys o amgylch y safleoedd adeiladu byw a mewnwelediadau go iawn i wahanol gamau'r gwaith o adeiladu ysgol, gan gynnwys cydosod tir, cynllunio, gwneud penderfyniadau, cyllidebu, cynaliadwyedd a dewis deunyddiau.
Cymerodd y disgyblion rhan mewn gweithgaredd ymarferol yn gysylltiedig ag adeiladu hefyd, gan ddefnyddio adnoddau'r Her Ddylunio CONSTRUCT IT i greu eu cynllun llawr eu hunain ar gyfer ysgol, gan feithrin eu sgiliau gwaith tîm, cyfathrebu a datrys problemau.
Dywedodd Annette James-Griffiths, Pennaeth yr ysgol: "Yn Nhon-yr-Ywen rydyn ni'n falch o'r profiadau dysgu dilys a phwrpasol sydd wedi cael eu datblygu mewn partneriaeth â'n Clwstwr. Mae'r prosiect hwn wedi rhoi cyfleoedd dysgu gweithredol i'n dysgwyr, wedi'u gwreiddio yn y cyd-destun go iawn o ddylunio adeilad blynyddoedd cynnar newydd ar ein safle. Mae'r dysgu wedi rhoi cyfleoedd cyfoethog i ddysgwyr wneud a chymhwyso cysylltiadau ar draws meysydd y cwricwlwm - gan weithio'n lleol ac ar draws Caerdydd - mewn amgylcheddau dysgu dan do ac awyr agored.
"Hoffwn ddiolch i’n hathrawon Katie
Baldwin a Cristyn Harris am eu gwaith caled yn cyflwyno’r prosiect
hwn ac i’r Awdurdod Lleol am eu cefnogaeth yn helpu i ddod â’r prosiect hwn yn
fyw, trwy wneud yr ymweliad hwn yn bosibl."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'r prosiect hwn wedi rhoi profiad dysgu gwerthfawr i ddisgyblion, gan roi cipolwg ystyrlon iddynt ar ddeall sut mae dyluniad ysgolion yn diwallu anghenion disgyblion a sut mae addasu adeiladau ar gyfer gofynion addysgol.
"Drwy'r profiadau ymarferol hyn a'r cyfleoedd dysgu ymdrochol, gall plant gael eu hysbrydoli i feddwl yn feirniadol ac yn greadigol a'u grymuso i ymgysylltu â chymwysiadau adeiladu, technoleg a dylunio yn y byd go iawn, gan gynnig mewnwelediad gwerthfawr i'r amgylchedd adeiledig o'u cwmpas."
Gallwch ddarllen y diweddaraf am Gampws Cymunedol y Tyllgoed yma:Prif gontractwr dros dro wedi'i benodi i ailgychwyn prosiect adeiladu Campws Cymunedol y Tyllgoed
Mae mwy o wybodaeth am Ysgol Uwchradd Willows ar gael yma:Gwaith adeiladu'n dechrau yn swyddogol ar Ysgol Uwchradd newydd Willows