The essential journalist news source
Back
7.
March
2025.
Y Diweddariad: 07 Mawrth 2025

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Mae Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo ei Gyllideb 2025/26
  • Cyngor Teithio ar gyfer Cymru yn erbyn Lloegr ar 15 Mawrth
  • Ymrwymiad Caerdydd i Chwarae Plant
  • Darpariaeth Gwasanaethau Ieuenctid newydd yn agor yn Nhrelái a Chaerau
  • Cynigion i ehangu'r ddarpariaeth feithrin i wasanaethu Pentre-baen a'r Tyllgoed

 

Mwy o Arian ar gyfer Ysgolion, Gwasanaethau Cymdeithasol a Strydoedd Glanach

Mae Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo ei gyllideb 2025/26, a fydd yn gweld mwy o arian ar gyfer ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, strydoedd glanach a chynnal a chadw draeniau, ochr yn ochr â gwella canolfannau cymdogaethau. Bydd y gyllideb a gytunwyd yn gweld Caerdydd yn awr â'r lefelau treth gyngor isaf o unrhyw gyngor yng Nghymru. Bydd treth gyngor ar eiddo Band D cyfartalog yng Nghaerdydd £242 yn is na chyfartaledd presennol Cymru.

Bydd treth gyngor ar eiddo Band D cyfartalog yng Nghaerdydd £657 yn is na Bryste, ein dinas gymharol agosaf.

Daw'r cynigion yn dilyn ymgynghoriad dinas gyfan ar y gyllideb, a welodd dros 3,000 o drigolion yn rhannu eu barn ar wasanaethau'r cyngor sydd bwysicaf iddynt.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Rwy'n ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ar y gyllideb eleni. Mae eich adborth wedi bod yn amhrisiadwy, ac rydym wedi ystyried eich mewnbwn yn ofalus wrth lunio ein cynigion ar gyfer cyllideb 2025/26. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich blaenoriaethau yn cael eu hadlewyrchu yn ein cynlluniau. Gyda'r Cyngor Llawn wedi cymeradwyo'r cynigion hyn ar 6 Mawrth, byddwch yn gweld mwy o arian yn cael ei gyfeirio at addysg, cymorth i'r bobl fwyaf agored i niwed, strydoedd glanach a chanolfannau cymdogaeth gwell.

"Rwyf am eich sicrhau bod eich lleisiau wedi cael eu clywed yn glir ac yn groch. Mae ein cyllideb yn adlewyrchu eich anghenion a'ch blaenoriaethau, hyd yn oed wrth i ni lywio heriau bwlch cyllidebol o £27.7 miliwn. Rydym wedi ymrwymo i wneud yr arbedion a'r newidiadau angenrheidiol i barhau i ddarparu'r gwasanaethau rydych yn eu gwerthfawrogi fwyaf. Mae eich cyfraniad wrth wraidd ein proses o wneud penderfyniadau, ac rydym yn parhau i ganolbwyntio ar eich gwasanaethu'n effeithiol."

Darllenwch fwy yma

 

Cyngor Teithio ar gyfer Cymru yn erbyn Lloegr ar 15 Mawrth yng Nghaerdydd

Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn yr Lloegr ddydd Sadwrn 15 Mawrth yn Stadiwm Principality.

Gyda'r gic gyntaf am 4.45pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o amgylch Stadiwm Principality rhwng 12.45pm a 8.15pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn oherwydd y gêm rygbi hon - felly cynlluniwch ymlaen llaw - ac osgowch y tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleuster parcio a theithio yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn Lecwydd - CF11 8AZ.

Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.

Bydd y gatiau'n agor am 2.45pm, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar.   Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn  principalitystadium.cymru, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Ymrwymiad Caerdydd i Chwarae Plant

Mae ymrwymiad Caerdydd i chwarae plant wedi cael ei werthuso fel rhan o Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2025-28, gofyniad gan Lywodraeth Cymru sy'n gofyn i Awdurdodau Lleol asesu a gwella cyfleoedd chwarae yn eu hardaloedd, bob tair blynedd.

Trwy broses ymgynghori drwyadl a gefnogwyd gan Chwarae Cymru, rhoddodd ystod eang o bartneriaid mewnol ac allanol eu barn ar ddarpariaeth chwarae plant ar draws y ddinas, a thrwy gynnal gweithdai mewn ysgolion rhannodd dros 700 o blant a phobl ifanc eu barn drwy'r Arolwg Chwarae Mawr, o gymharu â 400 yn y cyfnod 2022-2025.

Nodwyd nifer o feysydd o arfer da fel rhan o'r asesiad.

Darllenwch fwy yma

 

Darpariaeth Gwasanaethau Ieuenctid newydd yn agor yn Nhrelái a Chaerau

Mae canolfan ieuenctid newydd sbon wedi agor yn swyddogol y mis hwn, gan ehangu darpariaeth ieuenctid, cyfleoedd a gwasanaethau cymorth i bobl ifanc yn Nhrelái a Chaerau.

Wedi'i leoli yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, bydd y sefydliad yn gwella gwasanaethau ieuenctid yn yr ardal sydd â mwy na 320 o aelodau, gan gynnig amrywiaeth eang o weithgareddau i ategu'r ddarpariaeth bresennol yng Nghanolfan Ieuenctid Gogledd Trelái.

Mae'r cyfleuster newydd hefyd yn cefnogi nod Caerdydd o gyflawni ysgolion â ffocws cymunedol sy'n agor eu drysau i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, gan gynnig cyfleusterau rhagorol sydd ar gael y tu allan i'r cwricwlwm i gefnogi ysgolion clwstwr, partneriaid cymunedol a grwpiau defnyddwyr ehangach.  

Gan helpu i ddiwallu anghenion pobl ifanc yn yr ardal wrth sicrhau bod ganddynt fynediad i fannau cynnes, diogel a difyr, bydd y ganolfan yn cynnig clwb ieuenctid mynediad agored a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i hyrwyddo datblygiad a lles personol. Bydd gweithwyr ieuenctid cymwys a chofrestredig wrth law i roi arweiniad a chymorth ar amrywiaeth o faterion cymdeithasol, gan sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i ffynnu.

Darllenwch fwy yma

 

Cynigion i ehangu'r ddarpariaeth feithrin i wasanaethu Pentre-baen a'r Tyllgoed

Mae'r Cyngor yn ystyried cynigion a fyddai'n caniatáu i Ysgol Gymraeg Coed-y-Gof ddarparu ar gyfer plant oed meithrin o fis Medi 2026.

Pe byddent yn cael eu cymeradwyo, byddai'r cynigion yn darparu addysg feithrin cyfrwng Cymraeg i deuluoedd lleol, gan leihau'r angen i deithio ymhellach i ffwrdd i ysgolion eraill sydd â dosbarthiadau meithrin. I ddechrau, byddai'r ddarpariaeth yn cynnig 16 o leoedd rhan amser, gyda hyblygrwydd i ehangu yn y dyfodol yn ôl y galw, ac yn cael ei lleoli o fewn adeiladau presennol yr ysgol.

Darllenwch fwy yma