The essential journalist news source
Back
7.
March
2025.
Cyllid Ychwanegol i Ysgolion, Gwasanaethau Cymdeithasol, a Strydoedd Glanach

07/3/25

Mae Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo ei gyllideb ar gyfer 2025/26, sy'n cynnwys mwy o arian ar gyfer ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, strydoedd glanach a chynnal a chadw draeniau, ynghyd â gwella canolfannau cymdogaethau.

A poster with text and imagesAI-generated content may be incorrect.

Bydd y gyllideb y cytunwyd arni yn golygu bod gan Gaerdydd bellach y lefelau treth gyngor isaf o unrhyw gyngor yng Nghymru. Bydd y dreth gyngor ar eiddo Band D nodweddiadol yng Nghaerdydd £242 yn is na'r cyfartaledd Cymreig presennol. Bydd y dreth gyngor ar eiddo Band D nodweddiadol yng Nghaerdydd £657 yn is na Bryste, ein dinas gymharol agosaf.

Daw'r cynigion yn dilyn ymgynghoriad dinas gyfan ar y gyllideb, a welodd dros 3,000 o drigolion yn rhannu eu barn ar wasanaethau'r cyngor sydd bwysicaf iddynt.

Dwedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:  "Rwy'n ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ar y gyllideb eleni.  Mae eich adborth wedi bod yn amhrisiadwy, ac rydym wedi ystyried eich mewnbwn yn ofalus wrth lunio ein cynigion ar gyfer cyllideb 2025/26. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich blaenoriaethau yn cael eu hadlewyrchu yn ein cynlluniau. Nawr bod y Cyngor Llawn wedi cymeradwyo'r cynigion hyn ar 6 Mawrth, byddwch yn gweld mwy o arian yn cael ei gyfeirio at addysg, cymorth i'r bobl fwyaf agored i niwed, strydoedd glanach a chanolfannau cymdogaeth gwell.

"Rwyf am eich sicrhau bod eich lleisiau wedi cael eu clywed yn glir ac yn groch. Mae ein cyllideb yn adlewyrchu eich anghenion a'ch blaenoriaethau, hyd yn oed wrth i ni lywio heriau bwlch cyllidebol o £27.7 miliwn. Rydym wedi ymrwymo i wneud yr arbedion a'r newidiadau angenrheidiol i barhau i ddarparu'r gwasanaethau rydych yn eu gwerthfawrogi fwyaf. Mae eich cyfraniad wrth wraidd ein proses o wneud penderfyniadau, ac rydym yn parhau i ganolbwyntio ar eich gwasanaethu'n effeithiol."

A poster with text and imagesAI-generated content may be incorrect.

Mae sawl ffactor, gan gynnwys chwyddiant, pwysau o ran galw a chynnydd disgwyliedig mewn cyflogau i athrawon, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr eraill yn y sector cyhoeddus, yn golygu y bydd cyllideb y Cyngor ar gyfer darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd fel addysg, gofal cymdeithasol, casglu sbwriel, parciau a llyfrgelloedd yn costio dros £67.2 miliwn yn fwy yn y flwyddyn ariannol nesaf (Ebrill 2025 - Mawrth 2026) nag eleni.  Yn dilyn cyllideb Llywodraeth y DU ym mis Hydref, cafodd Cyngor Caerdydd yr ail gynnydd mwyaf mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru ers 15 mlynedd. Mae hyn wedi lleihau'r bwlch yn y gyllideb o £67.2 miliwn i £27.7 miliwn.

Mae'r strategaeth i gau'r bwlch hwn yn cynnwys:

  • Arbedion Effeithlonrwydd ac Incwm: £12.5 miliwn
  • Arbedion Corfforaethol: £2.8 miliwn
  • Cynigion Newid Gwasanaethau: £3 miliwn
  • Cynnydd o 4.95% yn y Dreth Gyngor: fydd yn codi £9.4 miliwn

Drwy gyflawni'r uchod, bydd cynigion y cyngor yn ei alluogi i ddarparu arian ychwanegol net o:

  • £22.9 miliwn i ysgolion - cynnydd o 7.5% ar flwyddyn ariannol 2024/25
  • £12.8 miliwn i'r Gwasanaethau Oedolion - cynnydd o 7.8% ar flwyddyn ariannol 2024/25
  • £8.8 miliwn i'r gwasanaethau addysg ganolog (sy'n cynnwys cludiant o'r cartref i'r ysgol a diwallu anghenion plant o Gaerdydd nad ydynt yn cael eu haddysgu yn ysgolion Caerdydd) - cynnydd o 16.0% ar flwyddyn ariannol 2024/25
  • £6.5 miliwn i'r Gwasanaethau Plant - cynnydd o 6.5% ar flwyddyn ariannol 2024/25.

Bydd hefyd yn caniatáu i'r cyngor gynyddu ei fecanwaith gwydnwch ariannol un flwyddyn i £4.5 miliwn, a fydd yn galluogi iddo wario arian yn y meysydd canlynol:

  • £1.5 miliwn ar adfywio cymdogaethau, gan gynnwys parciau
  • £1 miliwn ar gynlluniau i wella glanweithdra strydoedd ac ailgylchu
  • £600,000 i helpu i gefnogi digwyddiadau cymunedol
  • £600,000 ar gyfer mentrau sy'n Dda i Blant fel Addewid Caerdydd
  • £250,000 ar gyfer gwaith clirio draeniau ychwanegol
  • £200,000 ar gyfer grantiau cyfleusterau chwaraeon
  • £200,000 ar gyfer mentrau diogelwch cymunedol
  • £150,000 ar gyfer llochesi bws

Mae'r dreth gyngor wedi'i gosod ar 4.95% - tua £1.40 yr wythnos ar gyfer cartref Band D. Bydd hyn ymhlith y cynnydd isaf yn y dreth gyngor a welwyd yng Nghymru eleni.

Mae'r Dreth Gyngor yn cyfrif am tua 26% o gyllideb y Cyngor, ac mae'r gweddill yn dod gan Lywodraeth Cymru.  Mae pob cynnydd o 1% yn y Dreth Gyngor yn cynhyrchu incwm net o tua £1.9 miliwn, ac felly mae'n afrealistig cau'r bwlch yn y gyllideb drwy gynyddu'r dreth yn unig, yn enwedig yn ystod argyfwng costau byw. Fodd bynnag, bydd y cynnydd hwn yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal rhai o'r gwasanaethau y mae preswylwyr wedi gofyn i ni eu diogelu neu eu harbed rhag toriadau.

Ymgynghoriad ar y Gyllideb

Wrth ymgynghori â phreswylwyr:

  • Roedd 86.3% yn cefnogi cynyddu ffioedd Dysgu am Oes
  • Roedd 70.4% yn cefnogi cynyddu ffioedd amlosgi a chladdu
  • Roedd 65.6% yn cefnogi cynyddu ffioedd trwyddedau parcio preswyl
  • Roedd 44.1% o blaid cynyddu'r dreth gyngor i ddiogelu rhai gwasanaethau; roedd 55.9% o'r farn y dylid cadw'r dreth gyngor mor isel â phosibl
  • Er nad oedd 27.6% yn cefnogi cynyddu cost prydau ysgol uwchradd, roedd 38.4% o blaid cynyddu prydau ysgol 20c i £3.60

Ffioedd a Chostau

Mae Adroddiad y Gyllideb ar gyfer 2025/26 yn cynnwys nifer o godiadau arfaethedig mewn costau. Dyma'r prif gynigion:

Costau Parcio Preswyl

Roedd yr ymgynghoriad dinas gyfan ar y gyllideb yn cynnig cynyddu ffioedd parcio preswyl ar gyfer ail drwydded a thrwyddedau ymwelwyr o £80 i £120. Fodd bynnag, mae cynnig y Gyllideb yn adlewyrchu lefel is o gynnydd ar gyfer 2025/26, gan godi'r ffioedd o £80 i £90.

Claddedigaethau ac Amlosgiadau

Cynnydd o 9.6% ar gyfer claddedigaethau o £1,040 i £1,140, a 4.6% ar gyfer gwasanaethau amlosgi o £870 i £910. Mae cynlluniau i edrych ar godi gordaliadau am gladdedigaethau ac amlosgiadau ar benwythnosau a Gŵyl y Banc wedi eu gollwng yn dilyn yr ymgynghoriad.

Prydau Ysgol

Cynnydd o 15c yng nghost prydau ysgol uwchradd, o £3.40 i £3.55. Hyd yn oed gyda'r cynnydd hwn bydd yn rhaid i'r cyngor gymorthdalu prydau ysgol.

Bydd y cynnydd arfaethedig hwn yn helpu i gadw'r dreth gyngor ar gyfradd is, gan gynhyrchu incwm ychwanegol i helpu i bontio'r bwlch yn y gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26.

Mae disgwyl i tua 60 o swyddi yn y cyngor gael eu colli. Bydd y cyngor yn ceisio gwneud hyn drwy beidio â llenwi swyddi gwag a diswyddo gwirfoddol. Mae disgwyl i ostyngiadau mewn rolau rheoli arbed £800,000.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:  "Mae'r galw am wasanaethau'r Cyngor yn cynyddu oherwydd sawl ffactor.  Mae'r argyfwng costau byw wedi arwain at fwy o bobl ddigartref yn y ddinas, o deuluoedd nad ydynt bellach yn gallu fforddio rhenti neu forgeisi i unigolion sengl sy'n wynebu heriau tebyg.  Yn ogystal, mae poblogaeth Caerdydd sy'n heneiddio yn golygu bod mwy o bobl angen ein cefnogaeth bob blwyddyn, gan gynnwys y rhai sydd angen gwasanaethau dementia. Rydym hefyd yn gweld cynnydd yn nifer y plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd angen cymorth arbenigol. Mae'r rhain yn wasanaethau hanfodol bwysig, ac mae'n rhaid i ni wneud ein gorau i sicrhau bod pobl yn cael yr help sydd ei angen arnynt ac yn ei haeddu.

"Mae darparu addysg a gofal cymdeithasol - cefnogi plant, oedolion, a phobl hŷn - yn cyfrif am dros 70% o gyllideb y Cyngor.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r gost o ddarparu'r gwasanaethau hanfodol hyn wedi codi'n sylweddol.

"Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn, ers 2022, rydym wedi agor neu ehangu 10 ysgol, wedi adeiladu 900 o dai cyngor newydd gyda chynlluniau ar gyfer 1,900 yn fwy, ac wedi helpu preswylwyr i gael mynediad at dros £52 miliwn mewn budd-daliadau. Rydym hefyd wedi gweithio i adfywio rhannau o'r ddinas ac wedi buddsoddi mewn hybiau a llyfrgelloedd lleol lle gall pobl ddod am help a chyngor.

"Rydym am barhau â'r gwaith pwysig hwn ond, os na fyddwn yn codi'r dreth gyngor, ni fyddwn yn gallu diogelu'r gwasanaethau y mae ein trigolion yn eu gwerthfawrogi fwyaf. Bydd y cynnydd hwn, sydd ymhlith yr isaf yng Nghymru, yn cynhyrchu £9.4 miliwn yn ychwanegol, gan sicrhau y gallwn barhau i ddarparu'r gwasanaethau y mae ein trigolion yn dibynnu arnynt. Yn bwysig, bydd cymorth ar gael drwy gynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor i'r rhai sydd ei angen.

"Fodd bynnag, nid yw'r cynnydd hwn ar ei ben ei hun yn ddigon. Byddwn hefyd yn gweithredu dros £18 miliwn mewn arbedion swyddfa gefn, cynhyrchu refeniw a mesurau corfforaethol eraill y flwyddyn nesaf.

"Yn anffodus, bydd tua 60 o swyddi yn cael eu colli ar draws y cyngor, yn dilyn colli 160 o swyddi y llynedd. Rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd a newid sut rydym yn gweithio i leihau'r effaith ar ein gwasanaethau rheng flaen.

"Rydym am i'n trigolion wybod ein bod wedi gwrando ar eu hadborth. Nod ein cynigion yw diogelu'r gwasanaethau sydd bwysicaf iddynt - addysg, cymorth i bobl sy'n agored i niwed, a gofal cymdeithasol."

Gwariant Rhaglen Gyfalaf (2025/26 i 2029/30)

Fel rhan o'r Gyllideb, bydd y Cyngor yn ailddatgan ei ymrwymiad i'w raglen gwariant cyfalaf 5 mlynedd, 2025/26 - 2029/30. Bwriad y rhaglen yw creu swyddi, adeiladu mwy o gartrefi cyngor, a gwella opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ynghyd â llu o fesurau eraill i wella'r ddinas.  Rhagwelir y bydd cyfanswm gwariant y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2025/26 yn £506 miliwn, gyda chyfanswm o dros £1.5 biliwn dros y pum mlynedd.

Mae'n cynnwys y canlynol:

  • Buddsoddi £686.8 miliwn mewn tai cymdeithasol gan gynnwys cartrefi cyngor newydd
  • £172.8 miliwn ar adeiladau ysgol newydd
  • £136.1 miliwn i ddatblygu Cledrau Croesi Caerdydd, llwybrau beicio strategol, gwella'r seilwaith trafnidiaeth ac annog teithio llesol, yn amodol ar gyllid grant
  • Buddsoddi £35.5 miliwn mewn seilwaith ysgolion presennol
  • Buddsoddi £41.4 miliwn mewn seilwaith priffyrdd
  • £207.2 miliwn ar fentrau datblygu economaidd, gan gynnwys y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ac Arena Dan Do newydd (sy'n cael ei hariannu gan ddatblygwyr yn bennaf)
  • Buddsoddi £105.5 miliwn mewn adeiladau nad ydynt yn ysgolion, gan gynnwys adeiladau swyddfeydd craidd
  • £43.8 miliwn ar gyfer gwneud addasiadau i'r anabl i helpu pobl i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain
  • £38.0 miliwn i fynd i'r afael â llifogydd ac erydu arfordirol
  • Buddsoddi £21.5 miliwn mewn parciau, meysydd chwarae, mannau agored a seilwaith yr harbwr
  • £8.5 miliwn i gefnogi gweithgareddau casglu ac ailgylchu gwastraff
  • £19.7 miliwn ar gyfer gwella cymdogaethau
  • Buddsoddi £4.7 miliwn yn y strategaeth Cartrefi Cywir, Cymorth Cywir i blant a darpariaeth seibiant plant a llety porth i bobl ifanc

Gellir gweld y papurau cyflawn a'r adroddiad llawn ar y gyllideb ar gyfer 2025/26 yma: Agenda ar gyfer Cyfarfod y Cyngor ddydd Iau, 6 Mawrth 2025, 4.30pm: Cyngor Caerdydd