Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn yr Lloegr ddydd Sadwrn 15 Mawrth yn Stadiwm Principality.
Gyda'r gic
gyntaf am 4.45pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o amgylch Stadiwm
Principality rhwng 12.45pm a 8.15pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu
mynd i mewn ac allan o’r stadiwm yn ddiogel.
Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn oherwydd y gêm rygbi hon -
felly cynlluniwch ymlaen llaw - ac osgowch y tagfeydd yng Nghaerdydd drwy
ddefnyddio'r cyfleuster parcio a theithio yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd
yn Lecwydd - CF11 8AZ.
Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.
Bydd y gatiau'n
agor am 2.45pm, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio
eu taith a mynd i mewn yn gynnar.
Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.cymru, yn arbennig y
polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn
gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o
drefniant cau ffyrdd llawn canol y ddinas am 12.45am tan 8.15pm.
- Ffordd y Brenin o’r
gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
- Heol Ddwyreiniol y
Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
- Stryd Tudor o’r gyffordd
â Heol Clare i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a
masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
- Plantagenet Street a
Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor
(caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
- Bydd y ffyrdd canlynol ar
gau’n gyfan gwbl: Heol y Dug, Stryd
y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Y
Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y
Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
- Bydd mynediad i fysus yn
unig i Rodfa'r Orsaf a Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd at y
gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Y rheswm dros hyn yw i sicrhau mynediad
dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.
·
Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud
cyn i'r gêm orffen ac am hyd at awr wedi'r chwiban olaf am resymau diogelwch i
deithwyr trên sy’n cyrraedd a gadael yr orsaf drenau.
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig
drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad,
rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio
preifat.
Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys
Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y
Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.
Trenau
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaethau ychwanegol lle bo modd i
gyrraedd/adael Caerdydd ddydd Sadwrn 15 Mawrth ond y disgwyl yw y bydd y
trenau’n brysur iawn, felly caniatewch ddigon o amser ar gyfer eich taith.
Bydd ciwiau ar ôl y digwyddiad ar gyfer gwasanaethau’r
brif linell yn y Sgwâr Canolog a chiwiau ar gyfer gwasanaethau'r Cymoedd y tu
cefn i’r orsaf. Bydd Heol y Frenhines
Caerdydd yn cau am 1800 heblaw am fynediad hygyrch ac i deithwyr sy'n dymuno
teithio i Fae Caerdydd.
Bydd gwiriadau refeniw cyn ac ar ôl y digwyddiad yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd Canolog felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi prynu eich tocyn trên cyn mynd i mewn i’r system giwio.
Cyfleusterau Parcio a Theithio
Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio Digwyddiad ar gael yn Stadiwm Dinas
Caerdydd yn Lecwydd, a gallwch chi gyrraedd yma o gyffordd 33 yr M4 drwy ddilyn
yr arwyddion i’r safle.
Y man gollwng fydd Arglawdd Fitzhammon.
Mae’r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy’n daith o
tua 10 i 15 munud.
Bydd y safle Parcio a
Theithio yn agor am 8.45am, a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9.00am. Bydd y bws olaf o ganol y ddinas am 8.15pm gyda'r safle yn cau am 20.30.
Y gost yw £15.
Parcio yng Nghanol y Ddinas ar Ddiwrnod
Digwyddiad (Ceir a Choetsys)
Cyrraedd yno:
Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y
ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.
Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 i goets – mae taliadau
cerdyn hefyd ar gael nawr.
Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau
am hanner nos.
Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Gerddi Sophia (ceir)
(Taith gerdded o tua 0.5 milltir i Stadiwm
Principality, Gât 2).
Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd yno:
Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.
Cost: £20 i geir a £30 i goetsys - mae taliadau
cerdyn ar gael nawr.
Amserau parcio:
Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.
Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd
ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd
Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo
personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw
gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Bws
Bysus lleol:
Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd
ffyrdd canol y ddinas ar gau
Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael
rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.
Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso
i Stagecoach (stagecoachbus.com)
Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Bydd y beicffyrdd a'r beicffyrdd dros dro o fewn
yr ardal cau ffyrdd yn parhau ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y
digwyddiad, ond oherwydd nifer y bobl y disgwylir iddynt fynychu’r gêm rygbi,
gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a thalu sylw.
Mae'r trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob
cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i feiciau â phedalau.
Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau
beicio neu gerdded.Mae
ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km
o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei
feicio’n hawdd mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd
nad ydyn nhw’n beicio ar hyn o bryd roi cynnig arni.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud
beicio yn ddewis mwy atyniadol byth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag
yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.
Parcio i Siopwyr
Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa
Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries
a Heol y Brodyr Llwydion).
Parcio i Bobl Anabl
Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi
Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl
hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.
Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair yn cau am 12.45pm ac yn ailagor am
8.15pm.