The essential journalist news source
Back
6.
March
2025.
Darpariaeth Gwasanaethau Ieuenctid newydd yn agor yn Nhrelái a Chaerau

 

6/3/2025


Mae canolfan ieuenctid newydd sbon wedi agor yn swyddogol y mis hwn, gan ehangu darpariaeth ieuenctid, cyfleoedd a gwasanaethau cymorth i bobl ifanc yn Nhrelái a Chaerau.

 

Wedi'i leoli yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, bydd y sefydliad yn gwella gwasanaethau ieuenctid yn yr ardal sydd â mwy na 320 o aelodau, gan gynnig amrywiaeth eang o weithgareddau i ategu'r ddarpariaeth bresennol yng Nghanolfan Ieuenctid Gogledd Trelái.

 

Mae'r cyfleuster newydd hefyd yn cefnogi nod Caerdydd o gyflawni ysgolion â ffocws cymunedol sy'n agor eu drysau i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, gan gynnig cyfleusterau rhagorol sydd ar gael y tu allan i'r cwricwlwm i gefnogi ysgolion clwstwr, partneriaid cymunedol a grwpiau defnyddwyr ehangach.  

 

Gan helpu i ddiwallu anghenion pobl ifanc yn yr ardal wrth sicrhau bod ganddynt fynediad i fannau cynnes, diogel a difyr, bydd y ganolfan yn cynnig clwb ieuenctid mynediad agored a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i hyrwyddo datblygiad a lles personol. Bydd gweithwyr ieuenctid cymwys a chofrestredig wrth law i roi arweiniad a chymorth ar amrywiaeth o faterion cymdeithasol, gan sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i ffynnu.

 

Mae'r prosiect £175,000 wedi'i ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a bydd yn darparu ar gyfer unigolion rhwng 11 a 25 oed. Yn gweithredu ar ddwy noson yr wythnos i ddechrau, bydd yn cynnig amgylchedd cynhwysol lle gall pobl ifanc gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau fel troelli disgiau, creu podlediadau, ac argraffu crysau-t.

 

Bydd gan y man newydd fynedfa bwrpasol ar wahân i'r ysgol a bydd yn fan amlddisgyblaethol a fydd ar gael i'w ddefnyddio gan bartneriaid ac asiantaethau lleol.

 

Dywedodd Mike Tate, Pennaeth Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, "Mae Gorllewin Caerdydd wedi ymrwymo i fod yn ysgol â ffocws cymunedol gwirioneddol. Rydym am sicrhau bod ein cyfleusterau ar gael i gefnogi cymuned Trelái a Chaerau. Mae'r fenter ar y cyd hon wir yn arwain y sector ac rydym yn gobeithio y gall gyflwyno amgylchedd difyr sy'n sicrhau bod gan bobl ifanc yr ardal rywle diogel a chroesawgar. Gall ymgysylltu cadarnhaol, gweithgareddau ystyrlon a chymorth ar draws gwasanaethau helpu i leihau problemau cymunedol a sicrhau y gall ein holl bobl ifanc chwarae rhan werthfawr yn yr ardal."

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi, Cydraddoldeb a Chefnogi Pobl Ifanc, "Trwy ymgynghori â phobl ifanc, roedd mynediad at ddarpariaeth ieuenctid yn angen allweddol a nodwyd. Mae'r ganolfan ieuenctid newydd yn dyst i ymrwymiad awdurdodau lleol a phartneriaid ariannu i flaenoriaethu datblygiad a lles ieuenctid, gan sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad i fan diogel a chefnogol lle gallant ddysgu sgiliau newydd, cael arweiniad, a meithrin perthnasoedd cadarnhaol.

 

"Trwy greu amgylchedd croesawgar a dyfeisgar, bydd y fenter hon yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio canlyniadau cadarnhaol i bobl ifanc yng nghymuned Trelái a Chaerau."

 

I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd, ewch i:Hafan - Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd

 

Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw gwella balchder mewn ardaloedd a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau ac ardaloedd a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.  I gael rhagor o wybodaeth ewch i: Tudalen we Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

(ends)

Cardiff Council Media Advisor Danni Janssens

Email:danni.janssens@cardiff.gov.ukTel: 029 20872965

www.cardiffnewsroom.co.uk