The essential journalist news source
Back
6.
March
2025.
Ymrwymiad Caerdydd i Chwarae Plant

 

6/3/2025

Mae ymrwymiad Caerdydd i chwarae plant wedi cael ei werthuso fel rhan o Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2025-28, gofyniad gan Lywodraeth Cymru sy'n gofyn i Awdurdodau Lleol asesu a gwella cyfleoedd chwarae yn eu hardaloedd, bob tair blynedd.

Trwy broses ymgynghori drwyadl a gefnogwyd gan Chwarae Cymru, rhoddodd ystod eang o bartneriaid mewnol ac allanol eu barn ar ddarpariaeth chwarae plant ar draws y ddinas, a thrwy gynnal gweithdai mewn ysgolion rhannodd dros 700 o blant a phobl ifanc eu barn drwy'r Arolwg Chwarae Mawr, o gymharu â 400 yn y cyfnod 2022-2025.

Nodwyd nifer o feysydd o arfer da fel rhan o'r asesiad gan gynnwys;

  • Mae arlwy chwarae eang ac amrywiol ar gael i fabanod, plant a phobl ifanc, gan gynnwys gweithgareddau hamdden mewn cymunedau lleol, ac o fewn llety dros dro i'r rhai sy'n ddigartref. Cyflwynir sesiynau chwarae a phecynnau adnoddau gan Dechrau'n Deg, Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd a Chwarae Plant. Cefnogodd Gwasanaeth Chwarae Plant Caerdydd gyfleoedd chwarae pellach drwy brosiect a ariannwyd gan Chwarae Cymru, a welodd 140 o deuluoedd yn cael pecynnau chwarae gydag adnoddau chwarae ynddynt, gyda syniadau cost isel am sut i chwarae o fewn mannau llai.
  • Mae Grantiau Gwaith Chwarae, a hwylusir gan Gyngor Caerdydd, yn cefnogi cyfleoedd chwarae sy'n gweithredu mewn ardaloedd o amddifadedd gan gynnwys menter sy'n rhoi mynediad at fyrbrydau iach yn ystod gwyliau'r ysgol. Dros gyfnod o 3 blynedd, mae Gwaith Chwarae wedi ariannu cyfanswm o 1,124 sesiwn dros gyfanswm o 36 wythnos o wyliau ysgol.
  • Mae Chwarae Plant Caerdydd yn cefnogi Strydoedd Chwarae dan arweiniad preswylwyr, y mae Chwarae Cymru yn adrodd eu bod yn gwella iechyd a lles plant a theuluoedd, yn lleihau unigedd cymdeithasol ymhlith preswylwyr hŷn, yn galluogi gweithgarwch cymunedol ac yn datblygu cymdogaethau mwy cydlynol. Mae'r math hwn o ryngweithio cymdeithasol, chwarae rhwng cenedlaethau a chydlyniant cymunedol yn ffactorau amddiffynnol wrth gadw plant yn ddiogel rhag niwed. Dros gyfnod o dair blynedd, mae 18 o strydoedd wedi cymryd rhan yn y prosiect hwn. 
  • Amlygodd "lleoedd lle mae plant yn chwarae" fod Caerdydd yn elwa o gynnwys arolygydd blynyddol a gosodiadau allanol sy'n meddu ar wybodaeth helaeth am werth chwarae. Mae lleoedd lle mae plant yn chwarae yng Nghaerdydd yn cynnwys meysydd chwarae, Ardal Chwaraeon Amlddefnydd (AChA), parciau sglefrio, traciau BMX ac ardaloedd chwarae dŵr. Mae'r ardaloedd hyn yn 528 o fannau gwyrdd ac agored y gellir eu defnyddio ar gyfer chwarae.
  • Mae statws Caerdydd fel Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF yn hyrwyddo cydweithio ac ymgysylltu rhwng gwahanol gyfarwyddiaethau'r Cyngor a llawer o weithwyr proffesiynol wrth ddarparu gwasanaethau i fabanod, plant a phobl ifanc. Mae rhanddeiliaid o grwpiau mewnol ac allanol yn gweithio tuag at greu dinas hygyrch, ddiogel a phleserus i blant dyfu i fyny ynddi a'i chrwydro.
  • Mae Cyngor Caerdydd a'i bartneriaid wedi eirioli dros Bolisi Chwarae ar wahân yn y Cynllun Datblygu Lleol i wreiddio cyfleoedd ymhellach i blant a'r Hawl i Chwarae mewn amrywiaeth eang o leoliadau ac amgylcheddau. Mae cael mynediad at amrywiaeth o gyfleoedd i chwarae, a gallu symud yn annibynnol yn eu cymdogaeth, yn bwysig ar gyfer lles a datblygiad plant a phobl ifanc ac mae safon yn seiliedig ar Feincnodau Meysydd Chwarae Cymru wedi'i mabwysiadu, y cyfeirir ati ym Mholisi Cynllunio Cymru.

 

Nodwyd meysydd i'w datblygu yn y dyfodol acawgrymwyd nifer o gamau gweithredu a blaenoriaethau i sicrhau digonolrwydd, cynnal y cryfderau a mynd i'r afael â diffygion. Mae'r rhain yn cynnwys: 

  • Codi proffil hyfforddiant chwarae i sicrhau darpariaeth gwasanaeth
  • Cymorth i blant ag Anghenion Ychwanegol a/neu anableddau i gael manteisio ar gyfleoedd chwarae ystyrlon
  • Cael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd chwarae sydd ar gael i deuluoedd fel y gallant ddeall yn hawdd yr hyn sy'n hygyrch yn eu cyffiniau gan gynnwys nodi llwybrau diogel i gyrchu'r darpariaethau a mannau agored hyn.
  • Gwneud gwaith i ddatblygu presenoldeb gwell ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau Chwarae sydd ar gael.
  • Gwella pontio rhwng gwasanaethau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar wahanol oedran/cyfnodau o fywyd e.e. Chwarae Plant a Gwasanaethau Ieuenctid.
  • Gwneud ymchwil pellach i ddeall argaeledd darpariaeth chwarae â staff o fewn ac ar draws y sector.
  • Sefydlu gweithgor ar gyfer chwarae plant gyda chefnogaeth tîm Dinas sy'n Dda i Blant Caerdydd, gan wahodd rhanddeiliaid allweddol i gyfrannu at, a datblygu gweledigaeth a chynllun gweithredu ar gyfer chwarae yng Nghaerdydd, gan gofleidio'r cyfrifoldeb cyffredin dros sicrhau bod y camau gweithredu a nodir y Cynllun Gweithredu dilynol yn cael eu cyflawni.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi, Cydraddoldeb a Chefnogi Pobl Ifanc:  "Mae'r adroddiad traws-Gabinet hwn yn edrych ar ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae ar draws pob rhan o'r Cyngor ac yn dangos cynllun cyflawni cydgysylltiedig. Mae cydweithredu a chyfathrebu ymhlith partneriaid yn sicrhau bod gan bob plentyn ddigon o gyfleoedd i chwarae a thrwy feithrin partneriaethau cryf a dull cydlynol gan y Cyngor, mae Caerdydd wedi ymrwymo i greu amgylchedd lle gall plant ffynnu a mwynhau eu plentyndod i'r eithaf, gan wneud Caerdydd yn lle gwirioneddol wych i gael eich magu."

Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Plant: "Nod Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Caerdydd yw gwella a diogelu'r amser, y gofod a'r caniatâd sydd gan blant i chwarae ym mhob agwedd ar eu bywydau ac mae'n cydnabod y rôl y gall pob gweithiwr proffesiynol ei chael wrth gyflawni'r ddyletswydd hon.

"Mae ein hymrwymiad fel Dinas sy'n Dda i Blant yn cydnabod arwyddocâd chwarae a chyfleoedd chwarae i ddatblygiad plant a phobl ifanc a'r manteision y mae hyn yn eu cael ar eu hiechyd a'u lles."

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Rydym eisiau i blant a phobl ifanc deimlo'n ddiogel wrth chwarae. Trwy'r Arolwg Chwarae Mawr, rydym yn deall yr hyn sydd bwysicaf iddynt ac rydym wedi nodi rhwystrau sy'n cyfyngu ar fynediad at fannau a pharciau awyr agored. Bydd yr asesiad hwn yn ein tywys wrth lunio dyfodol chwarae ledled y ddinas fel ei fod yn fwy hygyrch a gall mwy o blant fwynhau'r cyfoeth o fuddion sy'n gysylltiedig â chwarae."

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn cael ei argymell igymeradwyo cyhoeddi'r Asesiad o Ddigonolrwydd Chwarae drafft 2025 - 2028 pan fydd yn cyfarfodddydd Iau 20 Mawrth.Bydd gwe-ddarllediad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio ar y diwrnodAgenda Cabinet ar Dydd Iau, 20fed Mawrth, 2025, 2.00 pm : Cyngor Caerdydd

Os caiff ei gytuno, bydd yr asesiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor ar gyfer y cyfnod ymgynghori statudol o 28 diwrnod cyn i'r adroddiad gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Cyn cyfarfod y Cabinet, bydd y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc yn craffu ar yr adroddiad pan fydd yn cyfarfod Ddydd Mawrth 11 Mawrth. Bydd recordiad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio yma.Agenda Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar Dydd Mawrth, 11eg Mawrth, 2025, 4.30 pm : Cyngor Caerdydd