The essential journalist news source
Back
6.
March
2025.
Cynigion i ehangu'r ddarpariaeth feithrin i wasanaethu Pentre-baen a'r Tyllgoed.

 

6/3/2025

Mae'r Cyngor yn ystyried cynigion a fyddai'n caniatáu i Ysgol Gymraeg Coed-y-Gof ddarparu ar gyfer plant oed meithrin o fis Medi 2026.

Pe byddent yn cael eu cymeradwyo, byddai'r cynigion yn darparu addysg feithrin cyfrwng Cymraeg i deuluoedd lleol, gan leihau'r angen i deithio ymhellach i ffwrdd i ysgolion eraill sydd â dosbarthiadau meithrin. I ddechrau, byddai'r ddarpariaeth yn cynnig 16 o leoedd rhan amser, gyda hyblygrwydd i ehangu yn y dyfodol yn ôl y galw, ac yn cael ei lleoli o fewn adeiladau presennol yr ysgol.

Byddai manteision eraill yn cynnwys:

  • Hyrwyddo parhad mewn addysg, gan gefnogi pontio di-dor o'r feithrinfa i addysg gynradd.
  • Atgyfnerthu ymgysylltiad a chefnogaeth rhieni ynghylch addysg eu plant yn gynnar.
  • Gwella'r gallu i adnabod grwpiau sy'n agored i niwed ac anghenion addysgol arbennig  yn gynnar.
  • Sicrhau gwell aliniad rhwng y Blynyddoedd Cynnar a'r Cyfnod Sylfaen, gan wella deilliannau dysgu.
  • Sicrhau twf cynaliadwy.

Yn ogystal, byddai'r cynnig yn cael ei gefnogi gan ddarpariaeth gofal plant gofleidiol mewn partneriaeth â sefydliadau lleol presennol, gan gynnwys darpariaeth ar safle'r ysgol.

Mae'r ehangu arfaethedig yn cyd-fynd â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) Caerdydd ac yn cefnogi strategaeth "Cymraeg 2050" Llywodraeth Cymru, sydd â'r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'r fenter hon yn rhan o gynllun gwaith ehangach y Cyngor i wella darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, yn enwedig drwy ddeilliannau 1 a 2 yn CSCA:

  • Cynyddu nifer y plant oed meithrin sy'n derbyn addysg yn Gymraeg.
  • Cynyddu nifer y plant oed derbyn sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Sarah Merry: "Byddai sefydlu dosbarth meithrin yn Ysgol Gymraeg Coed-y-Gof yn gwneud addysg cyfrwng Cymraeg yn fwy hygyrch ac yn denu ystod ehangach o deuluoedd, gan gefnogi cynaliadwyedd hirdymor yr ysgol a helpu i gynyddu nifer ei derbyniadau yn y dyfodol.

"Byddai'r ehangu yn cryfhau'r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn yr ardal, gan sicrhau mynediad lleol i addysg blynyddoedd cynnar a chefnogi'r nod ehangach o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg fel y nodir yn CSCA."

Bydd gofyn i Gabinet y Cyngor gymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig. Yna byddai adborth gan rieni, darparwyr gofal plant a'r gymuned leol yn cael ei ystyried cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn cyfarfod ddydd Iau, 20 Mawrth i ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, a bydd gwe-ddarllediad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio ar y diwrnodAgenda Cabinet ar Dydd Iau, 20fed Mawrth, 2025, 2.00 pm : Cyngor Caerdydd

Cyn cyfarfod y Cabinet, bydd y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc yn craffu ar yr adroddiad pan fydd yn cyfarfod Ddydd Mawrth 11 Mawrth. Bydd recordiad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio yma.Agenda Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar Dydd Mawrth, 11eg Mawrth, 2025, 4.30 pm : Cyngor Caerdydd