4.3.25
Mae gan seren pêl-droed Cymru, Gareth Bale, deitl newydd i'w ychwanegu at y pum Cynghrair Pencampwyr UEFA a enillodd wrth chwarae i Real Madrid.
Cafodd cyn-gapten Cymru ei benodi yn Llysgennad newydd i Gynhadledd Caerdydd oherwydd ei fuddsoddiad yn sector hamdden a thwristiaeth Caerdydd, trwy ei gydberchnogaeth o Elevens Bar & Grill a Par 59.
Derbyniodd yr anrhydedd mewn digwyddiad arbennig Wythnos Cymru Llundain o'r enw 'Cynllun Gêm Caerdydd - Sgorio'n fawr ar fuddsoddiad a thwf' a drefnwyd gan dimau Cyfoethogi Caerdydd a Cwrdd yng Nghaerdydd Cyngor Caerdydd.
Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas a Gareth Bale.
Roedd y digwyddiad yn arddangos y cyfleoedd buddsoddi newydd yng Nghaerdydd hyd at bencampwriaeth UEFA Euro 2028, a sut y gallai lefelau buddsoddiad gael eu dylanwadu'n gadarnhaol gan y tueddiadau twf ym mhoblogaeth y ddinas, yn ogystal ag mewn sectorau allweddol fel gwasanaethau ariannol.
Roedd cynulleidfa o ddarpar fuddsoddwyr, dylanwadwyr, a Llysgenhadon presennol y ddinas ar y rhestr o wahoddedigion. Ynghyd â Gareth Bale, roedd siaradwyr amlwg yn y digwyddiad yn cynnwys Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, Pennaeth Datblygu Economaidd Cyngor Caerdydd, Ken Poole MBE, Prif Weithredwr Rightacres Paul McCarthy, Cyfarwyddwr Canolfan Dewi Sant (Landsec) Caerdydd, Helen Morgan, a Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr DEPOT Nick Saunders, i gyd dan arweiniad cyn-gyflwynydd BBC Breakfast, Siân Lloyd.
Wrth siarad am ei rôl newydd fel Llysgennad Cynhadledd Caerdydd, dwedodd Gareth Bale: "Mae Caerdydd yn ddinas ryngwladol gyda llawer o gryfderau a chymuned fusnes gefnogol, gan helpu i wneud fy mhrofiad personol i o fuddsoddi yno yn ddim llai na chadarnhaol.
"Rwy'n falch iawn o fod yn ymuno ag arweinwyr busnes ac academyddion blaenllaw i ddenu cydnabyddiaeth i Gaerdydd fel lle gwych i gynnal eich busnes. Bydd cydweithio bob amser yn rhoi cyfle gwell i ni lwyddo, ac rwy'n gyffrous am yr hyn sydd gan y dyfodol i'w gynnig i Gaerdydd."
Dwedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae cynadleddau a digwyddiadau busnes eisoes yn dod â miloedd o ymwelwyr i Gaerdydd bob blwyddyn. Mae ein rhaglen llysgenhadon yn ymwneud â denu hyd yn oed mwy o'r digwyddiadau hyn i'r ddinas, fel y gallant wneud hyd yn oed mwy o gyfraniad i economi'r ddinas.
"Rydym yn falch iawn o groesawu Gareth i'n plith. Mae ei brofiadau cadarnhaol o fuddsoddi yng Nghaerdydd yn brawf bod Caerdydd yn wirioneddol agored i fusnes, a bydd y prosiectau seilwaith mawr sy'n cael eu cyflwyno yma, fel yr arena dan do newydd a'r cyswllt tram newydd rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd, ond yn cynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer twf."
Dwedodd Dan Langford, cyd-sylfaenydd a Chadeirydd Wythnos Cymru Llundain: "Roedd Cynllun Gŵm Caerdydd yn ddigwyddiad gwych; un a roddodd y llwyfan gorau posib i'n prifddinas. Gwnaeth ansawdd y cyflwyniadau a gafwyd argraff fawr ar bobl, a'r weledigaeth a gyflwynwyd gan Gaerdydd dros y blynyddoedd nesaf.
"Fel rhywun sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd, roeddwn i mor falch o'r modd y cyflwynwyd fy ninas, a sut olwg sydd ar gynnydd yno dros y blynyddoedd i ddod. Roedd yn sicr yn un o'r achlysuron mwyaf trawiadol a welais hyd yma yn ystod Wythnos Cymru yn Llundain eleni, sydd yn cynnwys dros 130 o wahanol weithgareddau a digwyddiadau. Diolch yn fawr i dîm Caerdydd am adrodd ein stori gyda chymaint o gymhelliant, yn enwedig i gynulleidfa fyd-eang yn Llundain."
Mae rhaglen Llysgenhadon Cynhadledd Caerdydd yn cael ei rhedeg gan dîm Cwrdd yng Nghaerdydd yng Nghyngor Caerdydd. I gael gwybod mwy am waith tîm Cwrdd yng Nghaerdydd a'r rhaglen Llysgenhadon ewch i Cwrdd yng Nghaerdydd • Swyddfa Swyddogol Confensiwn Caerdydd
Mae Cyfoethogi Caerdydd yn sefydliad cymorth i fusnesau sy'n ymroddedig i helpu cwmnïau i sefydlu a thyfu eu gweithrediadau yn y ddinas. I ddarganfod mwy am waith tîm Cyfoethogi Caerdydd ewch i Cwrdd â'r Tîm • Cyfoethogi Caerdydd