The essential journalist news source
Back
3.
March
2025.
Trwsiwch, nid taflu! Eich cyfle i wneud gwahaniaeth yn ystod Wythnos Atgyweirio Caerdydd
 03/03/25

 Mae Wythnos Atgyweirio Caerdydd, menter dinas gyfan sy'n annog trigolion i atgyweirio eu heitemau yn hytrach na'u taflu, yn rhedeg o 3 Mawrth i 9 Mawrth.

Mae cymryd rhan nid yn unig yn helpu i leihau effaith carbon, ond gall hefyd arbed arian i chi.

Pam atgyweirio?

Mae data diweddar gan Censuswide yn datgelu y gallai trigolion Caerdydd fod wedi gwastraffu hyd at £132 miliwn yn 2024 yn unig drwy ddisodli eitemau y gellid bod wedi'u trwsio. Ar gyfartaledd, gwariodd pob unigolyn £444 ar ddisodli eitemau a allai fod wedi'u trwsio.

Prif Ganfyddiadau:

  • Mae 50% o drigolion Caerdydd yn poeni am y gost o ddisodli eitemau sydd wedi torri.
  • Byddai'n well gan 53% drwsio eitemau eu hunain pe byddent yn gwybod sut.
  • Mae gan 56% ddiddordeb mewn dysgu sgiliau atgyweirio i arbed arian.
  • Yr eitemau sy'n cael eu taflu amlaf heb edrych am opsiynau atgyweirio yw:
    • Peiriannau golchi (20%)
    • Clustffonau (19%)
    • Soffa/cadair/mainc (19%)

Ymunwch â'r diwylliant atgyweirio cynyddol:

  • Mae 45% o ymatebwyr yn mwynhau atgyweirio eitemau gydag eraill ac eisiau dysgu mwy.
  • Byddai 45% yn mynychu mwy o ddigwyddiadau atgyweirio pe byddent ar gael yn lleol.
  • Mae 54% yn adrodd ymdeimlad o gyflawniad wrth atgyweirio pethau.

Digwyddiad Arbennig: Caffi Trwsio yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant

Ymunwch â ni ddydd Sadwrn, 8 Mawrth yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant o 9.30am tan 1pm, y tu allan i H. Samuel, ar gyfer digwyddiad caffi trwsio arbennig sy'n canolbwyntio ar decstilau. Bydd staff o Gaffi Trwsio Cymru a Chyngor Caerdydd yn dangos sut i drwsio dillad.

Gwasanaethau Atgyweirio Marchnad Caerdydd

Mae Marchnad Caerdydd yn cynnig nifer o stondinau sy'n darparu gwasanaethau atgyweirio, gan gynnwys:

  • Yans & Sons Heel Bar: Atgyweirio esgidiau gyda gostyngiad o 5% os yw'r cwsmer yn cyfeirio at yr Wythnos Atgyweirio.
  • Carlines Jewellery: Atgyweirio gemwaith gyda gostyngiad o 5% os yw'r cwsmer yn cyfeirio at yr Wythnos Atgyweirio.
  • On Time: Atgyweirio oriorau.
  • Sew Elegant: Atgyweirio dillad.
  • Gold Reserves: Atgyweirio gemwaith.

Mae siopau eraill ledled y ddinas hefyd yn cynnig gwasanaethau atgyweirio. Am restr lawn o fanwerthwyr, ewch i https://www.cadwchcaerdyddyndaclus.com/wythnosatgyweirio/

Dywedodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet dros Wastraff, Strydlun a Gwasanaethau Amgylcheddol: "Yn y byd sydd ohoni, rydym wedi mynd ychydig yn rhy barod i daflu pethau heb sylweddoli y gallai ateb syml arbed llawer o arian i ni!  Cyn i chi daflu’r eitem sydd wedi torri, beth am weld a ellir ei atgyweirio? Nid yn unig y bydd eich waled yn diolch i chi, ond bydd y blaned hefyd! Mae atgyweirio hyd yn oed yn well nag ailgylchu, felly gadewch i ni roi ail gyfle i'n heitemau cyn ffarwelio â nhw. Gadewch i ni ei drwsio, nid ei daflu!"

Cymerwch Ran!

Cofleidiwch y diwylliant atgyweirio ac ymunwch ag Wythnos Atgyweirio Caerdydd i ddysgu sgiliau newydd, arbed arian, a helpu'r amgylchedd. Gadewch i ni wneud Caerdydd yn ddinas sy'n gwerthfawrogi trwsio yn lle taflu!

Mae croeso i chi rannu'r fenter gyffrous hon gyda'ch ffrindiau a'ch teulu. Gyda’n gilydd, gallwn ni wneud gwahaniaeth!