The essential journalist news source
Back
28.
February
2025.
Cydnabyddiaeth i Fenter Heddlu Bach yn y Gwobrau Trechu Trosedd Cenedlaethol mawreddog

28/2/2025

Mae rhaglen arloesol a arweinir gan blant sy'n meithrin perthnasoedd cadarnhaol rhwng pobl ifanc a swyddogion heddlu wedi'i dewis fel un o chwech i gyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau Trechu Trosedd Cenedlaethol eleni.

Mae menter Heddlu Bach yn cynnwys disgyblion Blwyddyn 4, 5, a 6 o ysgolion cynradd Trelái a Chaerau, gan helpu i chwalu'r rhwystrau rhwng pobl ifanc a'r heddlu, gan wireddu amcanion Cynllun Gweithredu Trelái a Chaerau. Mae'r rhaglen, a gyflwynir gan bartneriaeth lwyddiannus Tîm Cwricwlwm Caerdydd a Heddlu De Cymru, yn cryfhau ymddiriedaeth rhwng teuluoedd ac awdurdodau gorfodi, yn meithrin hyder, ac yn annog ymddygiad cymunedol cyfrifol. 

Dros y misoedd diwethaf, mae'r Heddlu Bach wedi bod yn mynd i'r afael â materion lleol gan gynnwys:

  • Prosiectau Diogelwch Cymunedol - Nodi peryglon posib Noson Tân Gwyllt ac ymgyrchoedd casglu sbwriel.
  • Digwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd - fel Ymgyrch Hwyl y Nadolig, lle mae plant yn lledaenu ewyllys da yn y gymuned.
  • Datblygu Arweinyddiaeth - Annog plant i ddylunio atebion i faterion lleol a chydweithio ag awdurdodau.
  • Cydweithio mewn partneriaeth - Gweithio ochr yn ochr â thimau tân a myfyrwyr troseddeg Prifysgol Caerdydd i wella effaith y gymuned.

Datblygwyd a chyflwynwyd y prosiect gan Dîm Cwricwlwm Caerdydd, sy'n cefnogi ysgolion i wireddu gweledigaeth eu cwricwlwm a chyflwyno profiadau dysgu dilys.  Mae'r fenter eisoes wedi dangos manteision sylweddol, gan gynnwys:

  • Adeiladu ymddiriedaeth ac ymgysylltiad drwy gryfhau'r berthynas rhwng gorfodi'r gyfraith a theuluoedd lleol.
  • Datblygu hyder ac arweinyddiaeth drwy arfogi plant â sgiliau hanfodol mewn gwaith tîm, cyfrifoldeb, a datrys problemau.
  • Annog newid cymunedol cadarnhaol drwy feithrin ymddygiad cyfrifol a hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol.
  • Effaith weladwy trwy bresenoldeb plant mewn gwisg arbennig sy'n cymryd rhan mewn prosiectau cymunedol, gan wasanaethu fel symbol pwerus o gydweithio a gobaith.

Enwebodd yr Uchel Siryf Janey Howell, yn llawn edmygedd o'u hymdrechion, y rhaglen ar gyfer y Wobr Trechu Trosedd Cenedlaethol ac mae'r Heddlu Bach wedi'i ddewis fel un o ddim ond chwech i gyrraedd y rownd derfynol ledled y DU.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi, Cydraddoldeb a Chefnogi Pobl Ifanc:  "Mae Heddlu Bach yn enghraifft wych o hyrwyddo cydlyniant cymunedol a chael ei arwain gan blant yn unigryw, yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc nodi pryderon cymunedol allweddol a chynnig ffyrdd ystyrlon o fynd i'r afael â nhw."

Ychwanegodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet Addysg Caerdydd,"mae'n gyflawniad rhyfeddol ac yn dangos sut y gall cymunedau a phartneriaid ddod at ei gilydd i newid canfyddiadau a gweld swyddogion yr heddlu fel mentoriaid yn y gymuned.

"Mae'r fenter yn cefnogi statws Dinas sy'n Dda i Blant Caerdydd pan fydd lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed a'u parchu."

Dywedodd Kim Fisher, Pennaeth Ysgol Gynradd Winsdor Clive, "mae cymryd rhan ym mhrosiect yr Heddlu Bach yn gyfle anhygoel i'n dysgwyr. Mae'n ysbrydoledig gweld y plant mor gyffrous am wirfoddoli, gan ei fod nid yn unig yn eu helpu i ddatblygu perthynas gadarnhaol â'r heddlu ond hefyd yn meithrin eu hyder a'u hymdeimlad o gyfrifoldeb.

"Bydd y prosiect hwn yn eu grymuso i weld yr heddlu fel cynghreiriaid a phartneriaid cymunedol, gan hyrwyddo ymddiriedaeth a dealltwriaeth a all ymestyn i'w teuluoedd.  Rwy'n falch o'u brwdfrydedd a'u hymrwymiad i wneud gwahaniaeth."

Bydd y rowndiau terfynol yn cael eu cynnal ar y 18 Mawrth yn Llundain ac rydym yn dymuno pob lwc iddynt!