The essential journalist news source
Back
28.
February
2025.
Y Diweddariad: 28 Chwefror 2025

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Cynllun wedi'i adnewyddu ar gyfer cymorth tai a digartrefedd Caerdydd
  • Amgueddfa Caerdydd yn creu pecyn ap dwyieithog gydag amgueddfeydd eraill yng Nghymru i gefnogi cymunedau LHDTC+ sy'n byw gyda dementia
  • Dirwy i landlord a wnaeth geisio troi tenant allan ar WhatsApp
  • Datblygwr partneriaeth wedi'i ddewis ar gyfer rhaglen tai Caerdydd a'r Fro

 

Cynllun wedi'i adnewyddu ar gyfer cymorth tai a digartrefedd Caerdydd

Mae strategaeth wedi'i hadnewyddu sy'n nodi'r cyfeiriad ar gyfer atal digartrefedd a chymorth cysylltiedig â thai yng Nghaerdydd wedi pwysleisio'r cyflawniadau sylweddol a wnaed wrth ddarparu gwasanaethau dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Yng nghanol argyfwng tai'r brifddinas ac er gwaethaf yr heriau anodd a ddaeth yn sgil yr argyfwng, mae Cyngor Caerdydd wedi gwneud cynnydd sylweddol yn erbyn nodau allweddol ei Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai 2022-2026.

Ers gweithredu'r strategaeth, mae'r Cyngor wedi cyrraedd nifer o gerrig milltir sy'n cefnogi gweledigaeth y strategaeth, gan gynnwys gwella gwasanaethau atal digartrefedd a phan nad yw atal yn bosibl, sicrhau bod achosion o ddigartrefedd yn brin, yn fyr ac nad ydynt yn cael eu hailadrodd.

Mae'r cynllun diwygiedig wedi'i lywio gan asesiad anghenion wedi'i ddiweddaru ac adborth o ymgynghoriad cyhoeddus ar wasanaethau tai a digartrefedd a gynhaliwyd y llynedd.

Mae cyflawniadau dros oes y strategaeth hyd yn hyn yn cynnwys darparu 253 o gartrefi cyngor newydd ers mis Ionawr 2023 trwy raglen datblygu tai y Cyngor, mwy na 150 o unedau newydd o lety wedi ei gyflwyno mewn partneriaeth â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig y ddinas, ac amrywiaeth o dai parhaol a thai cymorth newydd i bobl ifanc.

Mae tîm LETS (Gwasanaethau Ymholiadau Landlordiaid a Thenantiaid) wedi cael ei greu i gefnogi landlordiaid preifat a darparu 93 o gartrefi fforddiadwy drwy Gynllun Prydlesu Cymru.

Mae Tîm Amlddisgyblaethol Digartrefedd wedi cael ei ehangu i ddarparu gwasanaethau i'r rhai sy'n profi digartrefedd dro ar ôl tro ac mae Tîm Amlddisgyblaethol Pobl Ifanc wedi'i sefydlu i gefnogi pobl ifanc 16-25 oed sydd ag anghenion cymhleth trwy allgymorth arbenigol ac ymyriadau therapiwtig.

Mae'r amseroedd aros ar gyfer apwyntiad atal digartrefedd wedi gostwng o 36 diwrnod gwaith ym mis Gorffennaf 2022 i bum diwrnod gwaith ym mis Hydref 2024, gyda gwasanaethau atal bellach ar gael mewn hybiau cymunedol ledled y ddinas, gan wneud gwasanaethau'n fwy hygyrch. Yn 2023/24, cafodd 77% o'r aelwydydd oedd o dan fygythiad o ddigartrefedd eu hatal rhag mynd yn ddigartref. 

Darllenwch fwy yma

 

Amgueddfa Caerdydd yn creu pecyn ap dwyieithog gydag amgueddfeydd eraill yng Nghymru i gefnogi cymunedau LHDTC+ sy'n byw gyda dementia

Bydd eitemau pwysig o gasgliad Amgueddfa Caerdydd yn rhan o becyn ap arbennig i gefnogi aelodau'r gymuned LHDTC+ yn Caerdydd sy'n byw gyda dementia.

Bydd LHDTC+ yng Nghymru, sy'n cael ei lansio yn ystod Mis Hanes LHDTC+, yn dwyn i gof atgofion o hanes cwiar Cymru, wrth i Amgueddfa Caerdydd ymuno â sefydliadau eraill ledled Cymru i gefnogi pobl LHDTC+ sy'n byw gyda dementia yn eu cymunedau.

Mae'r pecyn ap yn defnyddio atgofion go iawn gan aelodau'r gymuned yn Caerdydd ac o bob rhan o Gymru, yn ogystal â thynnu sylw at eitemau allweddol o ddiwylliant cwiar a geir yng nghasgliadau amgueddfeydd Cymru.

Cafodd yr ap ei greu ar y cyd â rhaglen dementia House of Memories Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl, ac mae Amgueddfa Caerdydd  wedi cyfrannu ei heitemau a'i hatgofion ei hun i greu archif ddigidol o gynnwys LHDTC+.

Prif nod y prosiect hwn yw sbarduno sgyrsiau rhwng pobl sy'n byw gyda dementia a'u hanwyliaid. Gan ddefnyddio eitemau a geir yn yr ap fel sbardunau a thestun sgwrs, gall pobl sy'n byw gyda dementia gael sgyrsiau ystyrlon, yn ogystal â phersonoli'r ap i ganolbwyntio ar eitemau sydd ag arwyddocâd arbennig iddynt hwy.

Mae LHDTC+ yng Nghymru yn archif ddigidol o atgofion o gymunedau LHDTC+ Cymru, gyda phrofiadau o glybiau nos, gorymdeithiau Pride, ymgyrchedd cwiar, artistiaid drag a mwy. Mae'r pecyn newydd hwn yn ychwanegiad at raglen House of Memories Cymru, a lansiwyd yn y Senedd yn 2023.

Darllenwch fwy yma

 

Dirwy i landlord a wnaeth geisio troi tenant allan ar WhatsApp

Mae landlord o Gaerdydd a wnaeth geisio troi ei thenant allan gan ddefnyddio WhatsApp wedi cael ei erlyn am droi allan yn anghyfreithlon.

Yn Llys Ynadon Caerdydd, llwyddodd Cyngor Caerdydd i erlyn Nicole May, o Brooks Road, Old Trafford, Manceinion, a gorchmynnwyd iddi dalu £945, ar ôl iddi bledio'n euog i'r cyhuddiad o droi allan yn anghyfreithlon o dan Ddeddf Diogelu rhag Troi Allan 1977. 

Ddydd Gwener 14 Chwefror, clywodd y llys sut y gorfodwyd tenantiaid eiddo Ms May ar Moorland Rd, y Sblot i adael eu cartref rhent ar 28 Mai, 2024 ar ôl i'r landlord ac aelodau o'i theulu ddod i mewn i'r tŷ heb ganiatâd, gan fynnu eu bod yn gadael.

Ychydig wythnosau ynghynt, roedd Ms May wedi anfon neges WhatsApp at y tenantiaid yn gofyn iddyn nhw adael yr eiddo, ond wedi methu â chyflwyno'r rhybudd cyfreithiol cywir.

Yn dilyn ffrae yn y tŷ yr ymatebwyd iddi gan yr heddlu yn ystod y digwyddiad ar 28 Mai, gadawodd y tenantiaid yr eiddo a bu'n rhaid iddynt ddibynnu ar aelodau teulu a ffrindiau am le i aros, ac i storio eu heiddo.

Darllenwch fwy yma

 

Datblygwr Partneriaeth wedi'i ddewis ar gyfer Rhaglen Tai Caerdydd a'r Fro

Mae'r arbenigwr tai partneriaeth ac un o ddarparwyr blaenllaw atebion adeiladu preswyl, adfywio ac ôl-ffitio, Lovell Partnerships, wedi cael ei benodi'n gynigydd a ffefrir i gyflawni Partneriaeth Tai Caerdydd a'r Fro.

Y bartneriaeth yw ail raglen dai Caerdydd yn dilyn llwyddiant ei gynllun penigamp, Cartrefi Caerdydd, ac mae'n rhan o'i chynlluniau datblygu ehangach - y rhaglen ddatblygu fwyaf dan arweiniad cyngor yng Nghymru, allai godi mwy na 4,000 o gartrefi newydd yn y ddinas, gan gynnwys o leiaf 2,800 o dai cyngor newydd.

Mae Cyngor Bro Morgannwg hefyd wedi dechrau ar raglen adeiladu tai uchelgeisiol i ddarparu cartrefi hygyrch, fforddiadwy, o safon, gan ymrwymo £920m i ddatblygu cartrefi Cyngor newydd dros y 30 mlynedd nesaf, gyda'r bwriad o ddarparu o leiaf 880 o gartrefi newydd drwy'r bartneriaeth â Lovell.

Mae'r cydweithio o ganlyniad i ymrwymiad a gweledigaeth y ddau awdurdod i greu cartrefi a chymunedau rhagorol ledled y rhanbarth i helpu i fynd i'r afael â'r pwysau tai presennol drwy godi o leiaf 2,260 o gartrefi newydd dros y 10 mlynedd nesaf.

Darllenwch fwy yma