27/02/25
Mae strategaeth wedi'i hadnewyddu sy'n nodi'r cyfeiriad ar gyfer atal digartrefedd a chymorth cysylltiedig â thai yng Nghaerdydd wedi pwysleisio'r cyflawniadau sylweddol a wnaed wrth ddarparu gwasanaethau dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Yng nghanol argyfwng tai'r brifddinas ac er gwaethaf yr heriau anodd a ddaeth yn sgil yr argyfwng, mae Cyngor Caerdydd wedi gwneud cynnydd sylweddol yn erbyn nodau allweddol ei Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai 2022-2026.
Ers gweithredu'r strategaeth, mae'r Cyngor wedi cyrraedd nifer o gerrig milltir sy'n cefnogi gweledigaeth y strategaeth, gan gynnwys gwella gwasanaethau atal digartrefedd a phan nad yw atal yn bosibl, sicrhau bod achosion o ddigartrefedd yn brin, yn fyr ac nad ydynt yn cael eu hailadrodd.
Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru ddatblygu strategaeth a chafodd y cynllun presennol, sydd wedi'i adolygu ar gais Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ei flaenoriaethau'n yn berthnasol o hyd, ei ystyried gan y Cabinet heddiw (Chwefror 27).
Mae'r cynllun diwygiedig wedi'i lywio gan asesiad anghenion wedi'i ddiweddaru ac adborth o ymgynghoriad cyhoeddus ar wasanaethau tai a digartrefedd a gynhaliwyd y llynedd.
Mae cyflawniadau dros oes y strategaeth hyd yn hyn yn cynnwys darparu 253 o gartrefi cyngor newydd ers mis Ionawr 2023 trwy raglen datblygu tai y Cyngor, mwy na 150 o unedau newydd o lety wedi ei gyflwyno mewn partneriaeth â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig y ddinas, ac amrywiaeth o dai parhaol a thai cymorth newydd i bobl ifanc.
Mae tîm LETS (Gwasanaethau Ymholiadau Landlordiaid a Thenantiaid) wedi cael ei greu i gefnogi landlordiaid preifat a darparu 93 o gartrefi fforddiadwy drwy Gynllun Prydlesu Cymru.
Mae Tîm Amlddisgyblaethol Digartrefedd wedi cael ei ehangu i ddarparu gwasanaethau i'r rhai sy'n profi digartrefedd dro ar ôl tro ac mae Tîm Amlddisgyblaethol Pobl Ifanc wedi'i sefydlu i gefnogi pobl ifanc 16-25 oed sydd ag anghenion cymhleth trwy allgymorth arbenigol ac ymyriadau therapiwtig.
Mae'r amseroedd aros ar gyfer apwyntiad atal digartrefedd wedi gostwng o 36 diwrnod gwaith ym mis Gorffennaf 2022 i bum diwrnod gwaith ym mis Hydref 2024, gyda gwasanaethau atal bellach ar gael mewn hybiau cymunedol ledled y ddinas, gan wneud gwasanaethau'n fwy hygyrch. Yn 2023/24, cafodd 77% o'r aelwydydd oedd o dan fygythiad o ddigartrefedd eu hatal rhag mynd yn ddigartref.
Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Wrth i ni barhau i fynd i'r afael â heriau difrifol, weithiau mae'n hawdd anghofio'r llwyddiannau rydyn ni wedi'u cael. Mae llawer i fod yn falch ohono yn ein gwasanaethau tai a digartrefedd.
"Ond er gwaethaf y cynnydd hwn, rydym yn dal i brofi galw digynsail a phwysau eithriadol."
Mae realiti plaen yr heriau tai parhaus yng Nghaerdydd yn cael eu pwysleisio mewn ffigurau sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, sy'n dangos rhwng 2020/21 a 2023/24:
- Cynyddodd nifer yr aelwydydd sydd o dan fygythiad o ddigartrefedd fwy nag 20% (o 1,701 i 2,149 o aelwydydd)
- Bu cynnydd o 108% yn nifer y bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref oherwydd colli llety rhent
- Mae nifer yr aelwydydd y canfuwyd eu bod yn ddigartref, lle mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu tai sefydlog parhaol wedi cynyddu 66% (o 431 i 714 o aelwydydd)
- Bu cynnydd o 24% yn y rhai sy'n aros am dai cymdeithasol o 7,700 ym mis Tachwedd 2021 i 9,500 ym mis Tachwedd 2024.
- Mae Tai Cymdeithasol wedi gostwng 17%, o 1,504 i 1,248, sy'n golygu y gall pobl aros ar y Rhestr Aros Tai am nifer o flynyddoedd.
Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Mae'r ffigyrau yn yr adroddiad yn siarad drostynt eu hunain - maen nhw'n paentio darlun o fwy o bobl nag erioed o'r blaen angen ein help, wedi'u sbarduno gan ffactorau fel problemau yn y sector rhentu preifat yng Nghaerdydd a chynnydd yn nifer y bobl sy'n gadael y carchar sydd angen cefnogaeth.
"Mae sicrhau bod pawb yn cael y cymorth a'r gefnogaeth gywir a darparu llety cymorth o ansawdd da i'r rhai sydd ei angen yn parhau i fod yn nodau allweddol i ni. Mae angen mwy o dai cymdeithasol arnom oherwydd hyd yn oed gyda chynlluniau newydd fel Tŷ Effraim, Adams Court a'r Gwaith Nwy, mae'r galw yn dal i fod yn fwy na'r cyflenwad.
"Mae darparu cynlluniau tai cymorth newydd wedi'u cynllunio ar gyfer pobl sengl, gwella'r ddarpariaeth bresennol a pharhau i ddarparu llety â chymorth o ansawdd da i deuluoedd i leihau'r angen presennol i ddefnyddio gwestai yn flaenoriaethau i ni ac rwy'n falch o ddweud, rydym eisoes yn gwneud cynnydd rhagorol yn prynu nifer o gynlluniau ychwanegol fydd yn rhoi hwb i argaeledd tai fforddiadwy, o ansawdd da, ynghyd â'n rhaglen datblygu tai cyngor penigamp."
Mae'r adroddiad llawn ar gael yma