The essential journalist news source
Back
26.
February
2025.
Amgueddfa Caerdydd yn creu pecyn ap dwyieithog i gefnogi cymunedau LHDTC+ sy'n byw gyda dementia

25.2.24

 

Bydd eitemau pwysig o gasgliad Amgueddfa Caerdydd yn rhan o becyn ap arbennig i gefnogi aelodau'r gymuned LHDTC+ yn Caerdydd sy'n byw gyda dementia.

Bydd LHDTC+ yng Nghymru, sy'n cael ei lansio yn ystod Mis Hanes LHDTC+, yn dwyn i gof atgofion o hanes cwiar Cymru, wrth i Amgueddfa Caerdydd ymuno â sefydliadau eraill ledled Cymru i gefnogi pobl LHDTC+ sy'n byw gyda dementia yn eu cymunedau.

Mae'r pecyn ap yn defnyddio atgofion go iawn gan aelodau'r gymuned yn Caerdydd ac o bob rhan o Gymru, yn ogystal â thynnu sylw at eitemau allweddol o ddiwylliant cwiar a geir yng nghasgliadau amgueddfeydd Cymru.

Cafodd yr ap ei greu ar y cyd â rhaglen dementia House of Memories Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl, ac mae Amgueddfa Caerdydd  wedi cyfrannu ei heitemau a'i hatgofion ei hun i greu archif ddigidol o gynnwys LHDTC+.

Prif nod y prosiect hwn yw sbarduno sgyrsiau rhwng pobl sy'n byw gyda dementia a'u hanwyliaid. Gan ddefnyddio eitemau a geir yn yr ap fel sbardunau a thestun sgwrs, gall pobl sy'n byw gyda dementia gael sgyrsiau ystyrlon, yn ogystal â phersonoli'r ap i ganolbwyntio ar eitemau sydd ag arwyddocâd arbennig iddynt hwy.

Mae LHDTC+ yng Nghymru yn archif ddigidol o atgofion o gymunedau LHDTC+ Cymru, gyda phrofiadau o glybiau nos, gorymdeithiau Pride, ymgyrchedd cwiar, artistiaid drag a mwy. Mae'r pecyn newydd hwn yn ychwanegiad at raglen House of Memories Cymru, a lansiwyd yn y Senedd yn 2023.

Ymhlith yr uchafbwyntiau o gasgliad Amgueddfa Caerdydd sy'n ymddangos yn yr ap mae allwedd a oedd yn rhoi mynediad i glwb nos o'r enw SIRS ar Heol Eglwys Fair.  Yn y 1970au a'r 1980au, roedd sîn hoyw Caerdydd yn aml yn cael ei chuddio a thu ôl i ddrysau caeedig.  Roedd yr allwedd hon yn golygu y gallai aelodau fynd i mewn i SIRS heb giwio a chan nad oedd unrhyw arwyddion yno nid oedd yn amlwg o'r tu allan mai clwb nos hoyw ydoedd. 

Mae amgueddfeydd eraill ar draws Cymru wedi cefnogi a chyfrannu at y prosiect i greu detholiad o ysgogiadau cof o ddiwylliant cwiar yng Nghymru. Yr amgueddfeydd dan sylw yw: Canolfan Ddiwylliant Conwy, Amgueddfa Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Archifau Morgannwg, Archifau Gorllewin Morgannwg, Amgueddfa Castell Cyfarthfa ac Oriel Gelf ac Amgueddfa Caerdydd.

Mae House of Memories Cymru ar gael drwy ap My House of Memories gan Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl. Ynghyd â chyfraniad y gymuned dementia, mae'r ap yn cael ei gyd-greu drwy raglen arobryn House of Memories ac mae'n cynnwys atgofion gan ystod o grwpiau cymunedol yn y DU a thu hwnt.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:"Mae'r ap yn creu archif ddigidol sy'n helpu i gyfleu profiad bywyd pobl o fod yn rhan o'r gymuned LHDTC+ yn y gorffennol. Gobeithio bydd cyfrannu gwrthrychau a straeon o gasgliad Amgueddfa Caerdydd yn ei wneud yn adnodd defnyddiol i aelodau o'r gymuned yma yng Nghaerdydd, sy'n byw gyda dementia. Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o'r prosiect."

Bydd y pecyn LHDTC+ yng Nghymru yn cynnwys eitemau sy'n ymwneud â rhannau penodol o Gymru. Bydd eitemau sydd eisoes yn bodoli yng nghasgliadau amgueddfeydd yn cael eu dwyn ynghyd i arddangos hanes cwiar cyfoethog ac amrywiol y wlad.

Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant: "Bydd y pecyn ap LHDTC+ yng Nghymru hwn yn adnodd mor ddefnyddiol, gan ddathlu hanes cyfoethog a phrofiadau byw cymunedau LHDTC+ ledled ein gwlad.

"Mae'r fenter hon a gefnogir gan Lywodraeth Cymru nid yn unig yn helpu i warchod ein treftadaeth a rennir, ond hefyd yn rhoi cefnogaeth amhrisiadwy i bobl sy'n byw gyda dementia a'u hanwyliaid allu cysylltu trwy atgofion ystyrlon. Mae prosiectau fel hyn yn dangos grym treftadaeth ac adrodd straeon cynhwysol wrth gryfhau cymunedau ledled Cymru."

"Mae Cymru'n ymdrechu i fod y genedl fwyaf ystyriol o bobl LHDTC+ yn Ewrop. Mae ein Cynllun Gweithredu LHDTC+ yn nodi camau i gryfhau cydraddoldeb, herio gwahaniaethu, a chreu cymdeithas fwy diogel a chynhwysol."

Mae pecyn ap LHDTC+ yng Nghymru House of Memories ar gael yn awr drwy ap My House of Memories. Am fwy o wybodaeth am y prosiect, gweithdai House of Memories ac i ddarganfod sut y gallwch lawrlwytho'r ap, ewch i: www.liverpoolmuseums.org.uk/house-of-memories.