The essential journalist news source
Back
26.
February
2025.
Dirwy i landlord a wnaeth geisio troi tenant allan ar WhatsApp

26/02/25 
 
Mae landlord o Gaerdydd a wnaeth geisio troi ei thenant allan gan ddefnyddio WhatsApp wedi cael ei erlyn am droi allan yn anghyfreithlon.

Yn Llys Ynadon Caerdydd, llwyddodd Cyngor Caerdydd i erlyn Nicole May, o Brooks Road, Old Trafford, Manceinion, a gorchmynnwyd iddi dalu £945, ar ôl iddi bledio'n euog i'r cyhuddiad o droi allan yn anghyfreithlon o dan Ddeddf Diogelu rhag Troi Allan 1977. 

Ddydd Gwener 14 Chwefror, clywodd y llys sut y gorfodwyd tenantiaid eiddo Ms May ar Moorland Rd, y Sblot i adael eu cartref rhent ar 28 Mai, 2024 ar ôl i'r landlord ac aelodau o'i theulu ddod i mewn i'r tŷ heb ganiatâd, gan fynnu eu bod yn gadael.

Ychydig wythnosau ynghynt, roedd Ms May wedi anfon neges WhatsApp at y tenantiaid yn gofyn iddyn nhw adael yr eiddo, ond wedi methu â chyflwyno'r rhybudd cyfreithiol cywir.

Yn dilyn ffrae yn y tŷ yr ymatebwyd iddi gan yr heddlu yn ystod y digwyddiad ar 28 Mai, gadawodd y tenantiaid yr eiddo a bu’n rhaid iddynt ddibynnu ar aelodau teulu a ffrindiau am le i aros, ac i storio eu heiddo.

Cafodd Ms May ddirwy o £461 a gorchmynnwyd iddi dalu costau o £300 a gordal dioddefwr o £184.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:   "Mae'r holl brofiad wedi peri gofid mawr i'r tenantiaid a oedd yn destun yr achos hwn, ond rydym yn gobeithio, trwy dynnu sylw at sefyllfaoedd fel hyn, y bydd tenantiaid eraill yn ymwybodol o'u hawliau a phwysigrwydd ceisio cymorth gan y Cyngor.  

"Mae'r erlyniad hwn yn anfon neges gref at landlordiaid diegwyddor nad yw'r Cyngor yn ofni cymryd camau cyfreithiol i ddiogelu tenantiaid a'u lles."

Gall tenantiaid mewn llety rhent preifat sydd dan fygythiad neu sy'n wynebu troi allan anghyfreithlon gysylltu â'r Cyngor am gyngor ac arweiniad. Cysylltwch â Housing Solutions ar 029 20 570 750 neu e-bostiwch datrysiadautai@caerdydd.gov.uk