25/2/25
Mae’r
arbenigwr tai partneriaeth ac un o ddarparwyr blaenllaw atebion adeiladu
preswyl, adfywio ac ôl-ffitio, Lovell Partnerships, wedi cael ei benodi'n
gynigydd a ffefrir i gyflawni Partneriaeth Tai Caerdydd a'r Fro.
Y bartneriaeth yw ail raglen dai Caerdydd yn dilyn llwyddiant ei gynllun penigamp, Cartrefi Caerdydd, ac mae'n rhan o'i chynlluniau datblygu ehangach - y rhaglen ddatblygu fwyaf dan arweiniad cyngor yng Nghymru, allai godi mwy na 4,000 o gartrefi newydd yn y ddinas, gan gynnwys o leiaf 2,800 o dai cyngor newydd.
Mae Cyngor Bro Morgannwg hefyd wedi dechrau ar raglen adeiladu tai uchelgeisiol i ddarparu cartrefi hygyrch, fforddiadwy, o safon, gan ymrwymo £920m i ddatblygu cartrefi Cyngor newydd dros y 30 mlynedd nesaf, gyda'r bwriad o ddarparu o leiaf 880 o gartrefi newydd drwy'r bartneriaeth â Lovell.
Mae'r cydweithio o ganlyniad i ymrwymiad a gweledigaeth y ddau awdurdod i greu cartrefi a chymunedau rhagorol ledled y rhanbarth i helpu i fynd i'r afael â'r pwysau tai presennol drwy godi o leiaf 2,260 o gartrefi newydd dros y 10 mlynedd nesaf.
Mae Lovell wedi cael ei ddewis drwy broses a gynhaliwyd ar y cyd gan dimau Datblygu Tai ac Adfywio Savills a Datblygu Caerdydd, i adeiladu'r cartrefi newydd, y bydd o leiaf hanner ohonynt yn eiddo fforddiadwy i'w cadw gan y Cynghorau ar gyfer cynlluniau rhent cymdeithasol neu ranberchenogaeth. Bydd y gweddill yn cael eu gwerthu ar y farchnad agored.
Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y byddwn yn gweithio gyda Lovell ar ein hail bartneriaeth dai ac yn edrych ymlaen at greu mwy o gartrefi ynni-effeithlon o ansawdd uchel ar draws y rhanbarth gyda'n gilydd, i helpu i fynd i'r afael â'r galw uchel iawn yr ydym yn ei brofi."
Dywedodd y Cynghorydd Sandra Perkes, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai'r Sector Cyhoeddus ac Ymgysylltu â Thenantiaid: "Mae Cyngor Bro Morgannwg yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Lovell a Chyngor Caerdydd i ddarparu'r cartrefi hyn y mae mawr eu hangen.
"Mae hyn yn cynrychioli'r fenter ddiweddaraf yn y maes hwn, sy'n rhan o'n rhaglen adeiladu tai cyngor helaeth sydd wedi gweld llu o ddatblygiadau wedi'u cwblhau dros y blynyddoedd diwethaf, gydag eraill ar y ffordd.
"Mae'n waith hanfodol bwysig wrth i ni geisio ateb y galw cynyddol am dai fforddiadwy a welir ledled y DU. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu llety modern, cyfforddus, hygyrch ac effeithlon o ran ynni i breswylwyr ar ein rhestr aros tai, cartrefi y gallant fod yn falch ohonynt.
"Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol yn hynny o beth, un yr ydym yn llawn cyffro i fod yn rhan ohoni."
Dywedodd James Duffett, Rheolwr Gyfarwyddwr Lovell De Cymru: "Mae tîm rhanbarthol Lovell wedi bod yng Nghaerdydd ers dros 40 mlynedd. Dyma ein cartref, a gallwn weld bod yr angen am fwy o gartrefi, a mwy o dai fforddiadwy, i bobl leol yn cynyddu drwy'r amser. Dyna pam rydym yn falch iawn o gael ein dewis gan Gynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg fel eu partner ar gyfer y rhaglen uchelgeisiol a thrawsnewidiol hon. Mae hyn nid yn unig yn gyfle i ddarparu'r cartrefi hynny, ond hefyd ar gyfer cyflogaeth a sgiliau, buddsoddiad economaidd a chyfleoedd i bobl ifanc - ac edrychwn ymlaen at ddechrau’r gwaith."
Dywedodd Robert Pert, Pennaeth Datblygu Tai ac Adfywio yn Savills: "Rydym yn falch iawn ein bod wedi cefnogi'r Cynghorau drwy'r broses hon, sydd wedi arwain at Lovell yn cael ei ddewis i gyflawni'r bartneriaeth hynod arwyddocaol hon ar gyfer Cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg. Rydym yn llawn cyffro i ddechrau gweithio gyda Lovell a'r Cynghorau i sefydlu'r bartneriaeth ac edrychwn ymlaen at weld y cartrefi cyntaf yn dod ymlaen."