Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:
- Mwy o Arian ar gyfer Ysgolion, Gwasanaethau Cymdeithasol a Strydoedd Glanach
- Caerdydd Un Blaned yn torri allyriadau carbon y cyngor 18%
- Myfyrwyr Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd wedi'u hysbrydoli i archwilio gyrfaoedd ym maes adeiladu
Mwy o Arian ar gyfer Ysgolion, Gwasanaethau Cymdeithasol a Strydoedd Glanach: Cyngor Caerdydd yn Datgelu Cynigion y Gyllideb ar gyfer 2025/26
Wedi'u datgelu yng nghynigion cyllideb 2025/26 Cyngor Caerdydd mae mwy o arian ar gyfer ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, strydoedd glanach a chynnal a chadw draeniau, ochr yn ochr â gwella canolfannau cymdogaethau.
Daw'r cynigion yn dilyn ymgynghoriad dinas gyfan ar y gyllideb, a welodd dros 3,000 o drigolion yn rhannu eu barn ar wasanaethau'r cyngor sydd bwysicaf iddynt.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Rwy'n ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ar y gyllideb eleni. Mae eich adborth wedi bod yn amhrisiadwy, ac rydym wedi ystyried eich mewnbwn yn ofalus wrth lunio ein cynigion ar gyfer cyllideb 2025/26. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich blaenoriaethau yn cael eu hadlewyrchu yn ein cynlluniau. Os bydd y Cyngor Llawn yn cymeradwyo'r cynigion hyn ar 6 Mawrth, byddwch yn gweld mwy o arian yn cael ei gyfeirio at addysg, cymorth i'r bobl fwyaf agored i niwed, strydoedd glanach a chanolfannau cymdogaeth gwell.
"Rwyf am eich sicrhau bod eich lleisiau wedi cael eu clywed yn glir ac yn groch. Mae ein cyllideb yn adlewyrchu eich anghenion a'ch blaenoriaethau, hyd yn oed wrth i ni lywio heriau bwlch cyllidebol o £27.7 miliwn. Rydym wedi ymrwymo i wneud yr arbedion a'r newidiadau angenrheidiol i barhau i ddarparu'r gwasanaethau rydych yn eu gwerthfawrogi fwyaf. Mae eich cyfraniad wrth wraidd ein proses o wneud penderfyniadau, ac rydym yn parhau i ganolbwyntio ar eich gwasanaethu'n effeithiol."
Mae sawl ffactor, gan gynnwys chwyddiant, pwysau o ran galw a chynnydd disgwyliedig mewn cyflogau i athrawon, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr eraill yn y sector cyhoeddus, yn golygu y bydd cyllideb y Cyngor ar gyfer darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd fel addysg, gofal cymdeithasol, casglu sbwriel, parciau a llyfrgelloedd yn costio dros £67.2 miliwn yn fwy yn y flwyddyn ariannol nesaf (Ebrill 2025 - Mawrth 2026) nag eleni. Yng nghyllideb mis Hydref Llywodraeth y DU, rhoddodd Llywodraeth Cymru ei hail gynnydd cyllid mwyaf i Gyngor Caerdydd mewn 15 mlynedd. Mae hyn wedi lleihau'r bwlch yn y gyllideb o £67.2 miliwn i £27.7 miliwn.
Caerdydd Un Blaned yn torri allyriadau carbon y cyngor 18%
Mae allyriadau carbon a grëwyd yn uniongyrchol gan Gyngor Caerdydd wedi cael eu torri 18% ers lansio ymateb Caerdydd Un Blaned yr awdurdod lleol i newid hinsawdd yn 2019.
Ar draws y ddinas gyfan, mae'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael gan Lywodraeth y DU ar gyfer 2022 yn dangos bod allyriadau carbon a grëwyd gan drigolion, busnesau a sefydliadau eraill yng Nghaerdydd hefyd wedi gostwng, a hynny gan 8.3% i gyfanswm o 1.71 miliwn tunnell o CO2e.
Dywedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth: "Mae'r wyddoniaeth ar hyn yn glir. Mae angen i ni leihau faint o allyriadau carbon rydyn ni'n eu cynhyrchu yn ddramatig i fod ag unrhyw siawns o osgoi effeithiau gwaethaf newid yn yr hinsawdd.
"Mae'r cynnydd rydyn ni'n ei gyflawni drwy ein strategaeth Caerdydd Un Blaned yn gadarnhaol. Plannwyd 100,000 o goed newydd mewn pedair blynedd yn unig, adeiladwyd fferm solar 9 megawat newydd yn Ffordd Lamby, cynllun hydrodrydanol Cored Radur, cartrefi cyngor ac ysgolion carbon isel newydd - mae'r rhestr yn hirfaith. Fodd bynnag, mae heriau mawr y mae angen eu goresgyn os ydym am gyflawni ein huchelgeisiau carbon niwtral ac elwa ar y manteision economaidd a chymdeithasol posibl y gall dyfodol gwyrddach eu cynnig.
"Bydd angen buddsoddiad sylweddol gan y llywodraeth, mae angen datgarboneiddio'r grid cenedlaethol, mae angen cyflymu cyfraddau ôl-osod cartrefi domestig, ac mae'n rhaid mynd i'r afael â phrinder sgiliau a materion yn y gadwyn gyflenwi. Mae'r rhain yn faterion sy'n wynebu awdurdodau lleol ledled Cymru a'r DU. Allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pennau ein hunain."
Myfyrwyr Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd wedi'u hysbrydoli i archwilio gyrfaoedd ym maes adeiladu
Mae myfyrwyr peirianneg Blwyddyn 10 o Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd wedi dechrau ar raglen gyffrous sy'n canolbwyntio ar adeiladu, a gynlluniwyd i danio eu diddordeb mewn gyrfaoedd yn y diwydiant.
Mae'r fenter yn pontio dysgu yn yr ystafell ddosbarth gyda phrofiad o ddiwydiant ac ymweliadau safle yn y byd go iawn, gan gynnig cipolwg gwerthfawr i fyfyrwyr ar y sector adeiladu. Fe'i cyflwynir gan Addewid Caerdydd mewn cydweithrediad â nifer o'i bartneriaid gan gynnwys Cardo (LCB yn ffurfiol), SHIELD Services, IAN Williams Ltd, Centregreat Engineering, Morgan Sindall ac Encon Construction.
Mae'r rhaglen yn cyd-fynd â chamau allweddol datblygiad prosiect adeiladu, gan roi gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol i fyfyrwyr. Mae'r cwricwlwm yn cynnwys:
- Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch - Deall safonau'r diwydiant, gan gynnwys rheoliadau COSHH, gofynion Cyfarpar Diogelu Personol, a phrotocolau asesu risg.
- Datblygu Sgiliau - Cryfhau gwaith tîm, cyfathrebu a sgiliau technegol wrth archwilio dulliau dylunio arloesol.
- Llwybrau Gyrfa - Cael mewnwelediad i wahanol rolau yn y diwydiant adeiladu, dan arweiniad gweithwyr proffesiynol.
- Cwblhau Prosiect - Dysgu am fân broblemau, cynnal a chadw, technegau gorffen, a'r broses drosglwyddo.
Hyd yn hyn, mae 20 o fyfyrwyr wedi cymryd rhan, gyda phawb yn adrodd eu bod wedi cael gwybodaeth newydd o'r profiad.