Wedi’u datgelu yng nghynigion cyllideb 2025/26 Cyngor Caerdydd mae mwy o arian ar gyfer ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, strydoedd glanach a chynnal a chadw draeniau, ochr yn ochr â gwella canolfannau cymdogaethau.
Daw'r cynigion yn dilyn ymgynghoriad dinas gyfan ar y gyllideb, a welodd dros 3,000 o drigolion yn rhannu eu barn ar wasanaethau'r cyngor sydd bwysicaf iddynt.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Rwy'n ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ar y gyllideb eleni. Mae eich adborth wedi bod yn amhrisiadwy, ac rydym wedi ystyried eich mewnbwn yn ofalus wrth lunio ein cynigion ar gyfer cyllideb 2025/26. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich blaenoriaethau yn cael eu hadlewyrchu yn ein cynlluniau. Os bydd y Cyngor Llawn yn cymeradwyo'r cynigion hyn ar 6 Mawrth, byddwch yn gweld mwy o arian yn cael ei gyfeirio at addysg, cymorth i'r bobl fwyaf agored i niwed, strydoedd glanach a chanolfannau cymdogaeth gwell.
"Rwyf am eich sicrhau bod eich lleisiau wedi cael eu clywed yn glir ac yn groch. Mae ein cyllideb yn adlewyrchu eich anghenion a'ch blaenoriaethau, hyd yn oed wrth i ni lywio heriau bwlch cyllidebol o £27.7 miliwn. Rydym wedi ymrwymo i wneud yr arbedion a'r newidiadau angenrheidiol i barhau i ddarparu'r gwasanaethau rydych yn eu gwerthfawrogi fwyaf. Mae eich cyfraniad wrth wraidd ein proses o wneud penderfyniadau, ac rydym yn parhau i ganolbwyntio ar eich gwasanaethu'n effeithiol."
Mae
sawl ffactor, gan gynnwys chwyddiant, pwysau o ran galw a chynnydd disgwyliedig
mewn cyflogau i athrawon, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr eraill yn y sector
cyhoeddus, yn golygu y bydd cyllideb y Cyngor ar gyfer darparu gwasanaethau o
ddydd i ddydd fel addysg, gofal cymdeithasol, casglu sbwriel, parciau a
llyfrgelloedd yn costio dros £67.2 miliwn yn fwy yn y flwyddyn ariannol nesaf
(Ebrill 2025 - Mawrth 2026) nag eleni. Yng nghyllideb mis Hydref
Llywodraeth y DU, rhoddodd Llywodraeth Cymru ei hail gynnydd cyllid mwyaf i
Gyngor Caerdydd mewn 15 mlynedd. Mae hyn
wedi lleihau'r bwlch yn y gyllideb o £67.2 miliwn i £27.7 miliwn. Mae'r
strategaeth i gau'r bwlch hwn yn cynnwys:
- Arbedion
Effeithlonrwydd ac Incwm: £12.5 miliwn
- Arbedion
Corfforaethol: £2.8 miliwn
- Cynigion Newid
Gwasanaethau: £3 miliwn
- Cynnydd o 4.95%
yn y Dreth Gyngor: fydd yn codi £9.4 miliwn
Drwy
gyflawni'r uchod, bydd cynigion y cyngor yn ei alluogi i ddarparu arian
ychwanegol net o:
- £22.9 miliwn i
ysgolion - cynnydd o 7.5% ar flwyddyn ariannol 2024/25
- £12.8 miliwn i’r
Gwasanaethau Oedolion - cynnydd o 7.8% ar flwyddyn ariannol 2024/25
- £8.8 miliwn i’r
gwasanaethau addysg ganolog (sy'n cynnwys cludiant o'r cartref i'r ysgol a
diwallu anghenion plant o Gaerdydd nad ydynt yn cael eu haddysgu yn
ysgolion Caerdydd) - cynnydd o 16% ar flwyddyn ariannol 2024/25, a:
- £6.5 miliwn i’r
Gwasanaethau Plant - cynnydd o 6.5% ar flwyddyn ariannol 2024/25.
Bydd
hefyd yn caniatáu i'r cyngor gynyddu ei fecanwaith gwydnwch ariannol un
flwyddyn i £4.5 miliwn, a fydd yn galluogi iddo wario arian yn y meysydd
canlynol:
- £1.5 miliwn ar
adfywio cymdogaethau, gan gynnwys parciau
- £1 miliwn ar
gynlluniau i wella glanweithdra strydoedd ac ailgylchu
- £600,000 i helpu
i gefnogi digwyddiadau cymunedol
- £600,000 ar
gyfer mentrau sy'n Dda i Blant fel Addewid Caerdydd
- £250,000 ar
gyfer gwaith clirio draeniau ychwanegol
- £200,000 ar
gyfer grantiau cyfleusterau chwaraeon
- £200,000 ar
gyfer mentrau diogelwch cymunedol
- £150,000 ar
gyfer llochesi bws
Mae'r
cynigion yn cynnwys pennu unrhyw godiad y Dreth Gyngor ar 4.95% - tua £1.40 yr
wythnos ar gyfer aelwyd Band D. Bydd hyn ymhlith y cynnydd
isaf yn y dreth gyngor a welwyd yng Nghymru eleni.
Mae'r
Dreth Gyngor yn cyfrif am tua 26% o gyllideb y Cyngor, gyda'r gweddill yn cael
ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru. Mae pob cynnydd o 1% yn y Dreth Gyngor
yn cynhyrchu incwm net o tua £1.9 miliwn, gan ei gwneud yn afrealistig cau'r
bwlch yn y gyllideb drwy gynyddu’r dreth yn unig, yn enwedig yn ystod argyfwng
costau byw. Fodd bynnag, bydd y cynnydd hwn yn chwarae rhan allweddol wrth
gynnal rhai o'r gwasanaethau y mae preswylwyr wedi gofyn i ni eu diogelu neu eu
harbed rhag toriadau.
Ymgynghoriad
ar y Gyllideb
Wrth
ymgynghori â phreswylwyr:
- Roedd 86.3% yn
cefnogi cynyddu ffioedd Dysgu am Oes
- Roedd 70.4% yn
cefnogi cynyddu ffioedd amlosgi a chladdu
- Roedd 65.6% yn
cefnogi cynyddu ffioedd trwyddedau parcio preswyl
- Roedd 44.1% o
blaid cynyddu'r dreth gyngor i ddiogelu rhai gwasanaethau; roedd 55.9% o'r
farn y dylid cadw'r dreth gyngor mor isel â phosibl
- Er nad oedd
27.6% yn cefnogi cynyddu cost prydau ysgol uwchradd, roedd 38.4% o blaid
cynyddu prydau ysgol 20c i £3.60
Ffioedd
a Chostau
Mae
Adroddiad y Gyllideb ar gyfer 2025/26 yn cynnwys nifer o godiadau arfaethedig
mewn costau. Dyma'r prif gynigion:
Costau
Parcio Preswyl
- Roedd yr
ymgynghoriad dinas gyfan ar y gyllideb yn cynnig cynyddu ffioedd parcio
preswyl ar gyfer ail drwydded a thrwyddedau ymwelwyr o £80 i £120. Fodd
bynnag, mae cynnig y Gyllideb yn adlewyrchu lefel is o gynnydd ar gyfer
2025/26, gan godi'r ffioedd o £80 i £90.
Claddedigaethau
ac Amlosgiadau
- Cynnydd o 9.6%
ar gyfer claddedigaethau o £1,040 i £1,140, a 4.6% ar gyfer gwasanaethau
amlosgi o £870 i £910. Mae cynlluniau i edrych ar godi gordaliadau am
gladdedigaethau ac amlosgiadau ar benwythnosau a Gŵyl y Banc wedi eu
gollwng yn dilyn yr ymgynghoriad.
Prydau
Ysgol
- Cynnydd o 15c
yng nghost prydau ysgol uwchradd, o £3.40 i £3.55. Hyd yn oed gyda'r
cynnydd hwn bydd yn rhaid i'r cyngor gymorthdalu prydau ysgol.
Bydd
y cynnydd arfaethedig hwn yn helpu i gadw'r dreth gyngor ar gyfradd is, gan
gynhyrchu incwm ychwanegol i helpu i bontio'r bwlch yn y gyllideb ar gyfer
blwyddyn ariannol 2025/26.
Disgwylir
colli oddeutu 60 o swyddi yn y Cyngor. Bydd y cyngor yn ceisio gwneud
hyn trwy beidio â llenwi swyddi gwag a dileu swyddi yn wirfoddol. Mae disgwyl i ostyngiadau mewn rolau rheoli arbed
£800,000.
Bydd
Cabinet Cyngor Caerdydd nawr yn ystyried Adroddiad y Gyllideb ddydd Iau 27
Chwefror, a fydd - os caiff ei gytuno gan y Cabinet - yn mynd i'r Cyngor Llawn
ar 6 Mawrth i'w gymeradwyo.
Byddwch
yn gallu gweld yr adroddiad llawn a'r holl atodiadau, gan gynnwys canlyniadau'r
Ymgynghoriad ar y Gyllideb, ar agenda'r Cabinet o nos Wener 21 Chwefror yma Agenda’r Cabinet
ddydd Iau 27 Chwefror 2025, 10.00am: Cyngor Caerdydd
Dywedodd
y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a
Pherfformiad: "Mae'r galw am wasanaethau'r Cyngor yn cynyddu
oherwydd sawl ffactor. Mae'r argyfwng costau byw wedi arwain at fwy o
bobl ddigartref yn y ddinas, o deuluoedd nad ydynt bellach yn gallu fforddio
rhenti neu forgeisi i unigolion sengl sy'n wynebu heriau tebyg. Yn
ogystal, mae poblogaeth Caerdydd sy'n heneiddio yn golygu bod mwy o bobl angen
ein cefnogaeth bob blwyddyn, gan gynnwys y rhai sydd angen gwasanaethau dementia.
Rydym hefyd yn gweld cynnydd yn nifer y plant sydd ag Anghenion Dysgu
Ychwanegol sydd angen cymorth arbenigol. Mae'r rhain yn wasanaethau hanfodol
bwysig, ac mae'n rhaid i ni wneud ein gorau i sicrhau bod pobl yn cael yr help
sydd ei angen arnynt ac yn ei haeddu.
“Mae
darparu addysg a gofal cymdeithasol - cefnogi plant, oedolion, a phobl hŷn - yn
cyfrif am dros 70% o gyllideb y Cyngor. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf,
mae'r gost o ddarparu'r gwasanaethau hanfodol hyn wedi codi'n sylweddol.
"Er
mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn, ers 2022, rydym wedi agor neu ehangu 10
ysgol, wedi adeiladu 900 o dai cyngor newydd gyda chynlluniau ar gyfer 1,900 yn
fwy, ac wedi helpu preswylwyr i gael mynediad at dros £52 miliwn mewn
budd-daliadau. Rydym hefyd wedi gweithio i adfywio rhannau o'r ddinas ac wedi
buddsoddi mewn hybiau a llyfrgelloedd lleol lle gall pobl ddod am help a
chyngor.
"Rydym
am barhau â'r gwaith pwysig hwn ond, os na fyddwn yn codi'r dreth gyngor, ni
fyddwn yn gallu diogelu'r gwasanaethau y mae ein trigolion yn eu gwerthfawrogi
fwyaf. Bydd y cynnydd hwn, sydd ymhlith yr isaf yng Nghymru, yn cynhyrchu £9.4
miliwn yn ychwanegol, gan sicrhau y gallwn barhau i ddarparu'r gwasanaethau y
mae ein trigolion yn dibynnu arnynt. Yn bwysig, bydd cymorth ar gael drwy
gynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor i'r rhai sydd ei angen.
"Fodd
bynnag, nid yw'r cynnydd hwn ar ei ben ei hun yn ddigon. Byddwn hefyd yn
gweithredu dros £18 miliwn mewn arbedion swyddfa gefn, cynhyrchu refeniw a
mesurau corfforaethol eraill y flwyddyn nesaf.
"Yn
anffodus, bydd tua 60 o swyddi yn cael eu colli ar draws y cyngor, yn dilyn
colli 160 o swyddi y llynedd. Rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i arbedion
effeithlonrwydd a newid sut rydym yn gweithio i leihau'r effaith ar ein
gwasanaethau rheng flaen.
"Rydym
am i'n trigolion wybod ein bod wedi gwrando ar eu hadborth. Nod ein cynigion yw
diogelu'r gwasanaethau sydd bwysicaf iddynt - addysg, cymorth i bobl sy'n
agored i niwed, a gofal cymdeithasol."
Bydd
Cyngor Caerdydd nawr yn cyflwyno'r set lawn o gynigion ar y gyllideb, ond cyn
hynny, byddant yn cael eu craffu arnynt gan Bwyllgorau Craffu'r cyngor yn ystod
yr wythnos sy’n dechrau ddydd Llun 24 Chwefror. Bydd modd gwylio ffrwd
fyw o'r holl gyfarfodydd Craffu ar gynigion y Gyllideb drwy'r calendr o
gyfarfodydd sydd ar gael i'w gweld yma: Calendr cyfarfodydd
misol - Chwefror 2025: Cyngor Caerdydd Cliciwch ar y calendr, yna ar gyfarfod y pwyllgor
unigol, yna'r agenda lle gwelwch ddolen we ar gyfer y ffrwd fideo fyw.
Bydd
y cynigion wedyn yn mynd i'r Cabinet i'w cymeradwyo brynhawn Iau, 27 Chwefror.
Bydd modd gweld ffrwd fyw o'r cyfarfod hwnnw yma: Agenda ar gyfer y
Cabinet - Dydd Iau, 27 Chwefror 2025, 10.00am: Cyngor Caerdydd
Os
bydd y Cabinet yn cytuno arnynt, bydd y Cyngor Llawn yn pleidleisio ar y
cynigion Ddydd Iau 6 Mawrth, o 4.30pm a fydd hefyd yn cael ei ffrydio'n fyw yma
Agenda ar gyfer y
Cyngor - Dydd Iau 6 Mawrth 2025, 4.30pm: Cyngor Caerdydd
Gwariant
Rhaglen Gyfalaf (2025/26 i 2029/30)
Fel
rhan o'r Gyllideb, bydd y Cyngor yn ailddatgan ei ymrwymiad i’w raglen gwariant
cyfalaf 5 mlynedd, 2025/26 - 2029/30. Bwriad y rhaglen yw creu swyddi, adeiladu
mwy o gartrefi cyngor, a gwella opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ynghyd â llu o
fesurau eraill i wella'r ddinas. Rhagwelir y bydd cyfanswm gwariant y
rhaglen gyfalaf ar gyfer 2025/26 yn £506 miliwn, gyda chyfanswm o dros £1.5
biliwn dros y pum mlynedd.
Mae’n
cynnwys y canlynol:
- Buddsoddiad o
£686.8 miliwn mewn tai cymdeithasol gan gynnwys cartrefi cyngor newydd
- £172.8 miliwn ar
adeiladau ysgol newydd
- £136.1 miliwn i
ddatblygu Cledrau Croesi Caerdydd, llwybrau beicio strategol, gwella'r
seilwaith trafnidiaeth ac annog teithio llesol, yn amodol ar gyllid grant
- Buddsoddiad o
£35.5 miliwn mewn seilwaith ysgolion presennol
- Buddsoddiad o
£41.4 miliwn mewn seilwaith priffyrdd
- £207.2 miliwn ar
fentrau datblygu economaidd, gan gynnwys y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol
ac Arena Dan Do newydd (sy'n cael ei hariannu gan ddatblygwyr yn bennaf)
- Buddsoddiad o
£105.5 miliwn mewn adeiladau nad ydynt yn ysgolion, gan gynnwys adeiladau
swyddfa graidd
- £43.8 miliwn ar
gyfer gwneud addasiadau i'r anabl i helpu pobl i barhau i fyw yn eu
cartrefi eu hunain
- £38.0 miliwn i
fynd i'r afael â llifogydd ac erydu arfordirol
- Buddsoddi £21.5
miliwn mewn parciau, meysydd chwarae, mannau agored a seilwaith yr harbwr
- £8.5 miliwni
gefnogi gweithgareddau casglu ac ailgylchu gwastraff
- £19.7 miliwn ar
gyfer gwella cymdogaethau
- Buddsoddi £4.7
miliwn yn y Strategaeth Cartrefi Cywir Cymorth Cywir i blant, darpariaeth
seibiant plant a llety porth i bobl ifanc
Gallwch
ddarllen mwy am sut mae cyllideb y Cyngor yn gweithio a pham mae bwlch yn y
gyllideb yma