The essential journalist news source
Back
21.
February
2025.
Cyllideb Cyngor Caerdydd 2025/26 - esboniwr

21/2/25A poster with text and imagesAI-generated content may be incorrect.

Beth yw bwlch yn y gyllideb?

Mae bwlch yn y gyllideb yn cael ei gyfrifo trwy gymharu cyllid (cyllid grant cyffredinol y Cyngor gan Lywodraeth Cymru a'r dreth gyngor) o'i wariant a ragwelir ar gyfer darparu gwasanaethau fel addysg, gofal cymdeithasol, llyfrgelloedd a hybiau, glanhau strydoedd, goleuadau stryd, cynnal a chadw ffyrdd ac ati. Ar hyn o bryd mae Cyngor Caerdydd yn darparu tua 700 o wasanaethau i breswylwyr ar draws y ddinas.

 

Pam mae'r Cyngor yn wynebu bwlch yn y gyllideb?

Ar gyfer 2025/26, mae disgwyl i gyllid gynyddu gan £39.5m a chostau gan £67.2m. Mae hyn yn gadael bwlch yn y gyllideb o £27.7m i fynd i'r afael ag ef. Mae nifer o resymau dros gynnydd mewn costau. Mae'r rhain yn cynnwys: 

 

Galw Cynyddol am ein Gwasanaethau:

Mae poblogaeth gynyddol Caerdydd, etifeddiaeth pandemig COVID-19 a'r argyfwng costau byw, wedi golygu bod mwy a mwy o bobl yn troi at y Cyngor am gymorth. Gwyddom, er enghraifft, fod costau gofal i blant ac oedolion sy'n agored i niwed, ac ar gyfer gwasanaethau addysg i gyd yn cynyddu. Gyda mwy o bobl yn ceisio cael mynediad i wasanaethau'r Cyngor, mae'r gost o ddarparu'r gwasanaethau'n codi. Mae costau hefyd yn cynyddu oherwydd bod anghenion pobl sy'n defnyddio gwasanaethau weithiau'n fwy cymhleth.

 

Pwysau Chwyddiant:

Er bod chwyddiant bellach yn is na'r uchafbwyntiau hanesyddol diweddar, mae disgwyl i'r prisiau ar gyfer gwasanaethau a gomisiynir gynyddu o hyd yn 2025/26, wrth i ddarparwyr geisio trosglwyddo pwysau, o ran y gweithlu a chostau eraill. Mae hyn yn debygol o gynyddu'r pris rydym yn ei dalu am wasanaethau fel gofal cartref, cludiant rhwng y cartref a'r ysgol a lleoliadau cartrefi gofal.  

 

Cyflog: 

Rydyn ni'n credu y dylai gweithwyr y sector cyhoeddus - sy'n darparu gwasanaethau hanfodol ledled y ddinas - gael eu talu'n deg. Mae dyfarniadau cyflog yn cael eu trafod ar gyfer athrawon, gweithwyr cymdeithasol, a staff sector cyhoeddus eraill sydd - oherwydd chwyddiant - yn debygol o weld costau cyflogau'r Cyngor yn codi.

 

Pwysau Costau Eraill:

Mae'r rhain yn cynnwys pethau fel cynnydd yn yr ardollau rydyn ni'n eu talu i gyrff eraill, gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a symiau sy'n gysylltiedig ag ariannu rhaglen buddsoddi cyfalaf y Cyngor. 

 

Sut rydyn ni'n bwriadu cau'r Bwlch 

Bydd y bwlch yn y gyllideb o £27.7m yn cael ei gau trwy gyfuniad o: 

Strategaeth i fynd i'r afael â Bwlch y Gyllideb

£m

Arbedion Effeithlonrwydd ac Incwm 

12.463

Arbedion Corfforaethol a defnydd ychwanegol o gronfeydd wrth gefn

2.800

Cynigion Arbedion Newid Gwasanaethau

2.998

Cynnydd o 4.95% yn y Dreth Gyngor

9.445

CYFANSWM

27.706

 

Cynigion Arbedion Effeithlonrwydd a Newid Gwasanaethau:

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen a bydd yn creu'r rhan fwyaf o arbedion drwy arbedion o fewn y swyddfa gefn. Mae hyn yn golygu lleihau costau rhedeg ein hadeiladau, lleihau faint o le swyddfa sydd ei angen arnom, a defnyddio technoleg newydd lle gall arbed arian i ni. Mae maint yr heriau ariannol hefyd yn golygu bod arbedion yn cynnwys gostyngiad rheoledig yn nifer y staff sy'n cael eu cyflogi, trwy ddiswyddo gwirfoddol ac adolygu swyddi gwag, er mwyn creu arbedion a lleihau diswyddiadau gorfodol cymaint â phosib. Yn anffodus, ni fydd arbedion effeithlonrwydd yn ddigon, a bydd rhai newidiadau i wasanaethau hefyd yn angenrheidiol er mwyn mantoli'r cyfrifon.  

Treth Gyngor:

Mae'r Dreth Gyngor yn cyfrif am 26% o gyllideb y Cyngor, ac mae'r gweddill yn dod gan Lywodraeth Cymru. Mae pob cynnydd o 1% yn y Dreth Gyngor yn creu tua £1.9m, felly ni fyddai cau'r bwlch yn y gyllideb drwy'r Dreth Gyngor yn unig yn bosib. Mae'r cynnydd yn y Dreth Gyngor i gefnogi'r gwaith o gyflawni Cyllideb 2025/26 yn 4.95%, sy'n creu incwm ychwanegol net o £9.4 miliwn. Bydd y cynnydd yn galluogi diogelu rhai o wasanaethau allweddol y Cyngor. Bydd y rheini sy'n gymwys yn derbyn cymorth drwy'r Cynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor.

Defnyddio Cronfeydd Wrth Gefn: 

Rhaid i'r Cyngor fod yn ofalus iawn wrth ddefnyddio'i gronfeydd ariannol wrth gefn; dim ond swm cyfyngedig sydd ar gael ac unwaith maen nhw wedi mynd, maen nhw wedi mynd. Mae mwyafrif cronfeydd wrth gefn y Cyngor wedi'u clustnodi at ddibenion penodol ac felly maent eisoes wedi'u hymrwymo i gefnogi darparu gwasanaethau, er enghraifft ariannu mentrau cymunedol untro a chefnogi Gwasanaethau Atal Digartrefedd. Mae'r Cyngor yn cynnal lefel o Falans Cyffredinol gwerth £14.2m i dalu am gostau annisgwyl ac mae hyn yn cyfateb i lai na 2% o gyllideb net gyffredinol y Cyngor.