20.2.25
Mae allyriadau carbon a grëwyd yn uniongyrchol gan Gyngor Caerdydd wedi cael eu torri 18% ers lansio ymateb Caerdydd Un Blaned yr awdurdod lleol i newid hinsawdd yn 2019.
Ar draws y ddinas gyfan, mae'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael gan Lywodraeth y DU ar gyfer 2022 yn dangos bod allyriadau carbon a grëwyd gan drigolion, busnesau a sefydliadau eraill yng Nghaerdydd hefyd wedi gostwng, a hynny gan 8.3% i gyfanswm o 1.71 miliwn tunnell o CO2e.
Dywedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth: "Mae'r wyddoniaeth ar hyn yn glir. Mae angen i ni leihau faint o allyriadau carbon rydyn ni'n eu cynhyrchu yn ddramatig i fod ag unrhyw siawns o osgoi effeithiau gwaethaf newid yn yr hinsawdd.
"Mae'r cynnydd rydyn ni'n ei gyflawni drwy ein strategaeth Caerdydd Un Blaned yn gadarnhaol. Plannwyd 100,000 o goed newydd mewn pedair blynedd yn unig, adeiladwyd fferm solar 9 megawat newydd yn Ffordd Lamby, cynllun hydrodrydanol Cored Radur, cartrefi cyngor ac ysgolion carbon isel newydd - mae'r rhestr yn hirfaith. Fodd bynnag, mae heriau mawr y mae angen eu goresgyn os ydym am gyflawni ein huchelgeisiau carbon niwtral ac elwa ar y manteision economaidd a chymdeithasol posibl y gall dyfodol gwyrddach eu cynnig.
"Bydd angen buddsoddiad sylweddol gan y llywodraeth, mae angen datgarboneiddio'r grid cenedlaethol, mae angen cyflymu cyfraddau ôl-osod cartrefi domestig, ac mae'n rhaid mynd i'r afael â phrinder sgiliau a materion yn y gadwyn gyflenwi. Mae'r rhain yn faterion sy'n wynebu awdurdodau lleol ledled Cymru a'r DU. Allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pennau ein hunain."
O ganlyniad i'r heriau hyn mae 'Cynnig Twf Gwyrdd' yn cael ei ddatblygu ar gyfer Caerdydd. Gan ganolbwyntio ar ddau faes allweddol - cynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol ac ôl-osod domestig - bydd y cynnig yn ceisio egluro pa gamau y gall y Cyngor eu cymryd, pa gymorth allanol fyddai ei angen i sicrhau gweithredu ar garlam yn y meysydd hyn, ac unrhyw fecanweithiau sydd eu hangen i sicrhau manteision economaidd a chymdeithasol ochr yn ochr â lleihau carbon.
Bydd adroddiad sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf lawn am gynnydd dan strategaeth Caerdydd Un Blaned a rhagor o fanylion am y Cynnig Twf Gwyrdd arfaethedig yn cael ei drafod gan Gabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau 27 Chwefror. Bydd gwe-ddarllediad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio ar y diwrnod yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=8550&LLL=1
Cyn cyfarfod y Cabinet, bydd y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol yn craffu ar yr adroddiad pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth 25 Chwefror. Bydd gweddarllediad o'r cyfarfod ar gael yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=143&MId=8427&LLL=1