The essential journalist news source
Back
18.
February
2025.
Grantiau cyngor yn helpu gyrwyr tacsi Caerdydd i dorri allyriadau

18.2.25

 

Os byddwch yn cael tacsi yng Nghaerdydd heddiw, gallai eich taith fod yn lanach ac yn wyrddach oherwydd cynllun gan Gyngor Caerdydd sydd wedi darparu mwy na £200,000 o grantiau i alluogi gyrwyr tacsi'r ddinas i uwchraddio i gerbydau mwy effeithlon o ran tanwydd neu i gerbydau cwbl drydan.

Bob blwyddyn mae gyrrwr tacsi llawn amser arferol yn y DU yn gwneud rhwng 25,000 a 45,000 milltir o yrru1- yn sylweddol fwy na'r 7,500 milltir2ar gyfartaledd y mae gyrrwr cyffredin yn y DU yn ei wneud. Mae fflyd Cerbydau Hacni Caerdydd yn cynnwys llawer o gerbydau disel Euro 4 ac Euro 5 hŷn, sy'n golygu bod llawer o'r milltiroedd hynny'n cael effaith negyddol ar y blaned, ac ansawdd aer lleol.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd,  Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Mae trafnidiaeth yn gyfrifol am oddeutu traean o'r allyriadau carbon sy'n cael eu creu yng Nghaerdydd, ac mae effaith negyddol llygredd aer wedi cael cyhoeddusrwydd helaeth. Mae'r grantiau hyn yn helpu i gefnogi datgarboneiddio fflyd tacsis Caerdydd ac yn rhoi'r elfen hanfodol hon yn rhwydwaith trafnidiaeth y ddinas ar y ffordd i ddyfodol glanach, gwyrddach."

Yn amrywio o £5,000 - £10,000 y cerbyd, mae'r grantiau'n cefnogi gyrwyr i brynu cerbydau Euro 6, sydd yn fwy modern ac effeithlon o ran tanwydd, yn ogystal â cherbydau cwbl drydan.

Mae'r grantiau'n rhan o ymateb Caerdydd Un Blaned y Cyngor i newid yn yr hinsawdd sydd wedi arwain at gyflwyno fferm solar newydd, plannu 100,000 o goed newydd, adeiladu tai cyngor ynni-effeithlon, carbon isel, a gosod rhwydwaith cynyddol o feicffyrdd ar wahân, ochr yn ochr ag amrywiaeth eang o brosiectau a mentrau eraill.

Am fwy o wybodaeth am Caerdydd Un Blaned, ewch i: https://www.caerdyddunblaned.co.uk/