Mae ymarfer ymgysylltu pythefnos wedi dechrau heddiw - gan ofyn i'r holl feicwyr am eu barn ar gyfleusterau diogel i barcio beiciau yn y ddinas.
Mae'r arolwg ar-lein, sydd wedi'i ryddhau heddiw (17 Chwefror), yn gofyn i feicwyr am eu barn ar wahanol atebion a thaliadau posibl am opsiynau parcio diogel. I gymryd rhan, cliciwch yma www.caerdydd.gov.uk/parciodiogelifeiciau
Dywedodd y Cynghorydd Dan De’Ath, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd,
Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth: "Mae'r Cyngor yn bwriadu prynu unedau
newydd fel bod pobl yn gallu parcio'n ddiogel yng Nghaerdydd. Rydym yn gwybod
bod dwyn beiciau yn broblem, felly rydym yn dechrau cynllun a fydd, gobeithio,
yn tyfu o ganol y ddinas i ganolfannau siopa ardal ar draws y ddinas.
"Mae'r atebion presennol sydd ar gael o'r farchnad yn cynnwys
amrywiaeth o ddociau beiciau ac atebion loceri beiciau, pob un gyda chostau a
manylebau gwahanol. Byddwn yn sicrhau bod ein cyfleusterau yn cael eu pweru
trwy ynni adnewyddadwy a bod y costau parhaus yn cael eu talu’n bennaf trwy
hysbysebu a nawdd.
"Gan ein bod yn annog pobl i feicio, rydym am wneud beicio'n fwy
cyfleus, felly mae'n rhaid i ni ddarparu parcio diogel mewn lleoliadau
allweddol ledled y ddinas. Trwy refeniw hysbysebu, yn ddelfrydol, hoffem i'r
cyfleusterau hyn fod yn rhad ac am ddim ond, gan ddibynnu ar ba ateb sy’n cael
ei ddewis, gallai'r gyfradd ddyddiol fod mor isel â 50 ceiniog, neu hyd at
£1.50 am ddiwrnod.
"Po fwyaf o bobl sy'n defnyddio'r cyfleusterau, y cyflymaf y gall y
cynllun dyfu, felly rydym yn gofyn i bawb sydd â diddordeb gwblhau'r arolwg,
fel y gallwn osod cam cyntaf y cynllun erbyn yr haf hwn."
Bydd y cynllun newydd yn canolbwyntio ar ganol y ddinas, Cathays,
Grangetown a Bae Caerdydd yn y lle cyntaf, ond bwriedir iddo dyfu o ganol y
ddinas, tuag allan, i ardaloedd siopa lleol ar draws Caerdydd.
Mae'r opsiynau cyfredol sydd ar gael o'r farchnad yn cynnwys amrywiaeth o
ddociau beiciau a loceri beiciau. Bydd yn rhaid i'r cyflenwr sicrhau y gellir
archebu eu hateb trwy app ar-lein, bod ganddo system rhybudd cynnar
gwrth-ymyrraeth wedi'i gosod a’i fod yn galluogi cwsmeriaid i gloi a datgloi'r
beic trwy gais ar-lein, yn ogystal â threfnu neu gadw lle ymlaen llaw.
Bydd yr arolwg ar-lein yn cau ar 3 Mawrth, er mwyn sicrhau y gellir cymryd
yr holl gamau angenrheidiol i osod cam cyntaf y cynllun yn ystod haf 2025. Bydd
yr holl standiau Sheffield presennol hefyd yn parhau i fod ar gael i feicwyr eu
defnyddio, wrth i'r Cyngor geisio cynyddu mannau parcio beiciau ar draws y
ddinas.