Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:
- Ffrindiau Gofalgar - Cefnogaeth a chyfeillgarwch i bobl â chyfrifoldebau gofalu
- Gwaith ar bwll nofio newydd yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn ar y gweill
- Cyfle i ddweud eich dweud ar Gynllun Datblygu Gwyrdd Newydd uchelgeisiol Caerdydd
- Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2025
Ffrindiau Gofalgar - Cefnogaeth a chyfeillgarwch i bobl â chyfrifoldebau gofalu
Mae menter newydd i gefnogi a bod yn gyfaill i bobl yng Nghaerdydd sydd â chyfrifoldebau gofalu wedi cael ei lansio.
Cyhoeddodd y Cynghorydd Leonora Thomson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Oedolion, ddechrau cynllun Ffrindiau Gofalgar, a fydd yn dod â gwirfoddolwyr cyfeillio a gofalwyr di-dâl at ei gilydd.
Gwnaeth y Cynghorydd Thomson y cyhoeddiad yn gynharach yr wythnos hon yng Nghynulliad Gofalwyr Cymru yng Nghaerdydd.
Wrth siarad yn y digwyddiad yn Neuadd y Sir, dywedodd y Cynghorydd Thomson fod y cynllun wedi'i greu i roi cyfle i ofalwyr di-dâl yng Nghaerdydd gael seibiant ac ychydig o gefnogaeth emosiynol, mewn ymateb i adborth gan y rheiny â chyfrifoldebau gofalu bod eu dyletswyddau yn cael effaith andwyol ar eu hiechyd a'u lles eu hunain.
Dywedodd y Cynghorydd Thomson: "Fe gynhalion ni gynllun peilot llwyddiannus y llynedd gyda 12 gwirfoddolwr a 12 gofalwr di-dâl a oedd yn hynod ddefnyddiol wrth i ni glywed barn y ddau grŵp a chael gwybod am eu profiadau ac am y gwahaniaeth a wnaeth i'w bywydau, er mwyn helpu i lunio'r cynllun newydd hwn.
"Mae gofalwyr di-dâl yn chwarae rhan mor bwysig yn ein cymdeithas. Maen nhw'n rhoi gofal hanfodol i'w hanwyliaid ac mae'n hollbwysig eu bod nhw eu hunain yn gallu cael cymorth. Felly rwy'n falch iawn o lansio Ffrindiau Gofalgar yn swyddogol, sy'n gam cyffrous ymlaen wrth gefnogi gofalwyr di-dâl yng Nghaerdydd."
Gwaith ar bwll nofio newydd yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn ar y gweill
Mae'r gwaith o adeiladu pwll nofio newydd yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn wedi dechrau. Mae contractwr penodedig Cyngor Caerdydd yn gweithio ar bwll nofio 25 metr newydd, a fydd yn cynnwys llawr hollt sy'n codi ac ardal chwarae gwlyb newydd i blant, ynghyd â sawl gwelliant arall i'r ganolfan.
Bydd y gwaith, y mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ar hyn o bryd, hefyd yn cynnwys adnewyddu cyfleusterau newid a'r dderbynfa a gwelliannau eraill i'r adeilad, gan gynnwys pontio i ffynonellau ynni gwyrdd. Bydd y ganolfan yn aros ar agor i'r cyhoedd drwy gydol y cyfnod adeiladu.
Bydd y pwll yn cynnwys llawr symudol y gellir ei addasu i alluogi dyfnder y dŵr i amrywio. Mae'r nodwedd hon yn galluogi'r pwll i gael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau nofio a 'sblasio', yn ogystal â lleihau'r ynni sydd ei angen i gynhesu'r dŵr.
Nod cyfleusterau chwarae gwlyb yw annog chwarae rhyngweithiol a chymdeithasol. Yn nodweddiadol, maent yn cynnwys nodweddion fel jetiau a chwistrellwyr dŵr, tanwyr dŵr, twneli dŵr, sleidiau bach a 'bwcedi tipio', gan greu man cynhwysol llawn hwyl i blant ei fwynhau.
Cyfle i ddweud eich dweud ar Gynllun Datblygu Gwyrdd Newydd uchelgeisiol Caerdydd
Ymgynghoriad terfynol yn dechrau Dydd Mawrth, 18 Chwefror
Yn dilyn cymeradwyo'r Cynllun Datblygu Newydd gan y Cyngor Llawn ar 30 Ionawr, mae cyfres o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb wedi'u trefnu i ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch y cynllun datblygu newydd ar gyfer y ddinas.
Nod y ‘Cynllun Adneuo', neu'r ‘Cynllun Terfynol', a gymeradwywyd yn flaenorol gan y Cabinet ar 23 Ionawr, yw creu dros 32,300 o swyddi newydd a 26,400 o gartrefi newydd erbyn 2036. Bydd ymgynghoriad wyth wythnos yn dechrau ar 18 Chwefror ac yn cau 15 Ebrill, gan ganiatáu i'r cyngor ymgysylltu â chymaint o bobl â phosibl ar y cynllun newydd.
Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2025
Mae awduron a darlunwyr plant arobryn, gan gynnwys Emma Carroll, Jack Meggitt-Phillips, Sioned Wyn Roberts, Rob Biddulph a Maz Evans, yn barod i ddiddanu ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr yng Ngŵyl Llên Plant Caerdydd eleni.
Mae'r ŵyl, a gynhelir rhwng dydd Llun, 24 Mawrth a dydd Sul, 30 Mawrth yn dechrau gydag wythnos o ddigwyddiadau am ddim i ysgolion y ddinas. Bydd digwyddiadau â thocynnau ar y dydd Sadwrn a'r dydd Sul ar agor i bawb.
Bydd digwyddiadau gŵyl Cymraeg a Saesneg yn cael eu cynnal mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys Theatr Reardon Smith a Chanolfan Ddarganfod Clore yn Amgueddfa Cymru, yr Is-grofft yng Nghastell Caerdydd, Canolfan Addysg Parc Bute, ac Amgueddfa Caerdydd yn yr Hen Lyfrgell ar yr Ais.