Bydd Cymru yn herio Iwerddon ddydd Sadwrn 22 Chwefror yn Stadiwm Principality.
Gyda'r gic
gyntaf am 2.15pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 10.15am tan 5.45pm i
sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o’r stadiwm yn
ddiogel.
Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn oherwydd y gêm rygbi,
felly cynlluniwch ymlaen llaw i osgoi’r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy
ddefnyddio’r cyfleusterau parcio a theithio ym maes parcio hen safle Toys R Us
yn y Pentref Chwaraeon - CF11 0JS.
Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar wefan Traffig
Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.
Bydd y gatiau'n
agor am 12.15pm, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio
eu taith a mynd i mewn yn gynnar.
Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.cymru, yn arbennig y
polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn
gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm
cau ffyrdd llawn canol y ddinas am 10.15am tan 5.45pm
- Ffordd y Brenin o’r
gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
- Heol Ddwyreiniol y
Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
- Stryd Tudor o’r gyffordd
â Heol Clare i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a
masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
- Plantagenet Street a
Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor
(caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
- Bydd y ffyrdd canlynol ar
gau’n gyfan gwbl: Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys
Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y
Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
- Bydd mynediad i fysus yn
unig i Rodfa'r Orsaf a Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd at y
gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Y rheswm
dros hyn yw i sicrhau mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn
Ffordd Churchill.
·
Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud
cyn i'r gêm orffen ac am hyd at awr wedi'r chwiban olaf am resymau diogelwch i
deithwyr trên sy’n cyrraedd a gadael yr orsaf drenau.
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig
drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad,
rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio
preifat.
Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys
Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y
Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.
Trenau
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaethau ychwanegol lle
bo modd i gyrraedd/adael Caerdydd ddydd Sadwrn 23 Tachwedd ond y disgwyl yw y
bydd y trenau’n brysur iawn, felly caniatewch ddigon o amser ar gyfer eich
taith.
Bydd ciwiau ar ôl y digwyddiad ar gyfer gwasanaethau’r
brif linell yn y Sgwâr Canolog a chiwiau ar gyfer gwasanaethau'r Cymoedd y tu
cefn i’r orsaf. Bydd Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 3.30pm, heblaw am
fynediad hygyrch a theithwyr sy'n dymuno teithio i Fae Caerdydd.
Bydd gwiriadau refeniw cyn ac ar ôl y digwyddiad yn cael
eu cynnal yng Nghaerdydd Canolog felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi prynu eich
tocyn trên cyn mynd i mewn i’r system giwio.
Bydd
Great Western Railway (GWR) yn cynnal gwasanaethau ychwanegol i helpu cwsmeriaid i gyrraedd adref ar
ôl y gêm rhwng Cymru ac Iwerddon. Bydd trenau ychwanegol o Gaerdydd Canolog i
Abertawe, Casnewydd, Bryste a Llundain, gyda llawer o lefydd parcio ar gael ym
meysydd parcio'r orsaf.
Fodd bynnag, mae disgwyl i
drenau fod yn brysur iawn yn syth ar ôl y gêm a bydd system giwio ar waith y tu
allan i'r orsaf i helpu pobl i fynd i mewn i’r trenau'n ddiogel.
Dylai'r rhai sy'n teithio’n
bellach wirio gwasanaethau cyswllt ar www.gwr.com/check..
Cyfleusterau Parcio a Theithio
Bydd y
cyfleusterau parcio a theithio ar gyfer y digwyddiad yn Toys R Us yn y Pentref
Chwaraeon, Bae Caerdydd - CF11 0JS.
Bydd y pwynt
gollwng yng nghanol y ddinas yn Sgwâr Callaghan.
Bydd y safle Parcio a
Theithio yn agor am 8.45am, a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9am. Bydd y bws
olaf o ganol y ddinas am 6pm gyda'r
safle yn cau am 6.30pm.
Y gost yw £15. Arian parod yn unig.
Parcio yng Nghanol y Ddinas ar Ddiwrnod
Digwyddiad (Ceir a Choetsys)
Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4,
ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan
ddinesig.
Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 i goets – mae taliadau
cerdyn hefyd ar gael nawr.
Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn
agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Gerddi Sophia (ceir)
(Taith gerdded o tua 0.5 milltir i Stadiwm
Principality, Gât 2).
Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.
Cost: £20 i geir a £30 i goetsys - mae taliadau
cerdyn ar gael nawr.
Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am
8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.
Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd
ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw
ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw
gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Bws
Bysus lleol:
Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd
ffyrdd canol y ddinas ar gau
Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael
rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.
Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)
Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Bydd y beicffyrdd a'r beicffyrdd dros dro o fewn
yr ardal cau ffyrdd yn parhau ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y
digwyddiad, ond oherwydd nifer y bobl y disgwylir iddynt fynychu’r gêm rygbi,
gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a thalu sylw.
Mae'r trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob
cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i feiciau â phedalau.
Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau
beicio neu gerdded.Mae
ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km
o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei
feicio’n hawdd mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd
nad ydyn nhw’n beicio ar hyn o bryd roi cynnig arni.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud
beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag
yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.
Parcio i Siopwyr
Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio
Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac
NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).
Parcio i Bobl Anabl
Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi
Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio
preifat amrywiol.
Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair
yn cau am 10.15am ac yn ailagor am 5.45pm.