The essential journalist news source
Back
12.
February
2025.
Cyfle i ddweud eich dweud ar Gynllun Datblygu Gwyrdd Newydd uchelgeisiol Caerdydd
 12/02/25

Yn dilyn cymeradwyo’r Cynllun Datblygu Newydd gan y Cyngor Llawn ar 30 Ionawr, mae cyfres o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb wedi’u trefnu i ymgysylltu â’r cyhoedd ynghylch y cynllun datblygu newydd ar gyfer y ddinas.

Nod y ‘Cynllun Adneuo’, neu'r ‘Cynllun Terfynol’, a gymeradwywyd yn flaenorol gan y Cabinet ar 23 Ionawr, yw creu dros 32,300 o swyddi newydd a 26,400 o gartrefi newydd erbyn 2036. Bydd ymgynghoriad wyth wythnos yn dechrau ar 18 Chwefror ac yn cau 15 Ebrill, gan ganiatáu i'r cyngor ymgysylltu â chymaint o bobl â phosibl ar y cynllun newydd.

Digwyddiadau a ddarperir gan Gymorth Cynllunio

Mae'n rhaid archebu lle yn yr holl ddigwyddiadau hyn ar-lein drwy fynd i:  https://www.eventbrite.com/cc/cardiff-replacement-local-development-plan-2021-36-922029

·       Dydd Mercher 5 Mawrth 2025 – 12.00 pm tan 2.00 pm - digwyddiad ar-lein

·       Dydd Llun 7 Ebrill 2025 – 6.00 pm tan 8.00 pm - digwyddiad ar-lein 

·       Dydd Iau 3 Ebrill 2025 – 6.00 pm tan 8.00 pm - Canolfan Gymunedol Butetown, Sgwâr Loudoun, Butetown, Caerdydd CF10 5JA

·       Dydd Iau 13 Mawrth 2025– 6.00 pm tan 8.00 pm Ysgol Uwchradd Llanisien, Heol Hir, Llanisien, Caerdydd CF14 5YL

·       Dydd Mercher 19 Mawrth 2025 – 2.00 pm tan 4.00 pm - Neuadd Aberdâr, Y Ganolfan Ddinesig, Heol Corbett, Caerdydd CF10 3UP

·       Dydd Mercher 26 Mawrth 2025 – 6.15 pm tan 8.15 pm - Canolfan Chwaraeon Gerddi Sophia, Gerddi Sophia, Caerdydd CF11 9SW

Digwyddiadau galw heibio’r Tîm CDLl

·       Dydd Mawrth 18 Mawrth 2025 – 2.00 tan 5.00 pm - Hyb Cymunedol Trelái a Chaerau, Heol Orllewinol y Bont-faen, Caerau, Caerdydd CF5 5BQ

·       Dydd Iau 20 Mawrth 2025 – 2.00 tan 5.00 pm - Pafiliwn Grangetown, Gerddi'r Grange, Caerdydd CF11 7LJ

·       Dydd Mawrth 25 Mawrth 2025 – 2.00 tan 5.00 pm - Hyb y Sblot, Muiriton Road, Y Sblot, Caerdydd CF24 2SJ

·       Dydd Iau 27 Mawrth 2025 – 2.00 tan 4.00 pm - Hyb yr Eglwys Newydd, Heol y Parc, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 7XA

·       Dydd Mercher 2 Ebrill 2025 – 2.00 tan 5.00 pm - Hyb Llaneirwg, 30 Heol Crucywel, Caerdydd CF3 OEF

·       Dydd Mawrth 8 Ebrill 2025 – 2.00 tan 5.00 pm - Clwb Bocsio Tiger Bay, Loudoun Plas Iona, Butetown CF10 5HW

Yn ogystal â’r digwyddiadau hyn, rydym hefyd yn cynllunio sesiynau galw heibio ymgysylltu â myfyrwyr yn y tair prifysgol hyn yn y ddinas a sesiynau i blant a phobl ifanc.

Dwedodd y Cynghorydd Dan De’Ath, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth: “Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet a'r Cyngor Llawn, ac yn unol ag argymhelliad y Cyd-bwyllgor Craffu, bydd y cyngor yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus i roi gwybodaeth am y cynllun datblygu uchelgeisiol a gwyrdd newydd ar gyfer y ddinas.

“Mae datblygiad Caerdydd yn effeithio ar bawb sy’n byw yn y ddinas ac sy’n ymweld â hi, felly rydyn ni am i gynifer o bobl â phosibl gymryd rhan. Bydd y ‘Cynllun Adneuo’ newydd yn gweithredu fel glasbrint ar gyfer datblygu yng Nghaerdydd hyd at 2036, gan osod strategaeth wedi ei harwain gan gynllun a fydd yn rheoli datblygiad yn y ddinas, gan sicrhau bod buddsoddwyr a datblygwyr yn deall sut rydyn ni am i'r ddinas ddatblygu.

“Heb y ddogfen hanfodol hon, byddai datblygu’n cael ei wneud mewn ffordd ddi-drefn iawn, gan ganiatáu i ddatblygwyr gyflwyno cynigion nad ydynt yn cyd-fynd â'n dyheadau am sut y dylai Caerdydd dyfu.

“Mae'r ymgynghoriad hwn yn adeiladu ar yr ymgynghoriad yn 2023 ar y Strategaeth a Ffefrir, pan ymunodd dros 400 o bobl â ni yn ein sesiynau galw heibio a chwblhaodd dros 1,000 o bobl yr arolwg. Mae'r holl sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad ar y ‘Strategaeth a Ffefrir’ wedi cael eu hystyried wrth baratoi'r ‘Cynllun Adneuo’, a bydd unrhyw sylwadau pellach a wneir yn ystod yr ymgynghoriad hwn yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ynghyd â'r Cynllun Adneuo yn ddiweddarach eleni i'w hystyried gan Arolygydd Cynllunio annibynnol a benodir i gynnal archwiliad o'r cynllun.”

Uchafbwyntiau Allweddol y ‘Cynllun Adneuo’:

  • Diwallu Anghenion y Dyfodol: Creu 32,300 o swyddi newydd a 26,400 o gartrefi newydd i ddarparu ar gyfer twf ym mhoblogaeth y ddinas.
  • Cartrefi Newydd:  Yn ogystal â'r safleoedd sydd eisoes â chaniatâd cynllunio neu sydd wedi'u clustnodi i'w datblygu ar safleoedd strategol yn y CDLl presennol, bydd tai newydd yn cael eu codi ar safleoedd tir llwyd yng nghanol y ddinas, yn Nociau Caerdydd ac yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol. Bydd hyn yn arwain at raniad 50:50 rhwng safleoedd maes glas a thir llwyd. Bydd 25% o'r holl gartrefi newydd o dan y cynllun yn rai fforddiadwy, gan ddarparu rhwng 5,000 a 6,000 o gartrefi newydd fforddiadwy erbyn 2036.
  • Swyddi Newydd: Mae'r ‘Cynllun Adneuo’ yn cefnogi Strategaeth Economaidd y Cyngor, gan gynnig amrywiaeth a dewis o gyfleoedd cyflogaeth newydd drwy ddiogelu safleoedd cyflogaeth sy’n bod eisoes yn y CDLl presennol a chyflwyno safleoedd newydd yn Ardal Fenter Canol Caerdydd, Basn y Rhath, i'r gogledd o Gyffordd 33, gogledd-orllewin Caerdydd, Parcffordd Caerdydd a safleoedd eraill.
  • Creu Cymdogaethau Cynaliadwy:   Sicrhau bod holl ddatblygiadau'r dyfodol yn ddatblygiadau defnydd cymysg, wedi'u cynllunio'n dda, i greu amgylcheddau diogel, cynhwysol, hygyrch ac iach i bobl fyw ynddynt. Mae'r strategaeth yn nodi sut y byddwn yn mynd i'r afael ag amddifadedd ac yn gwella ansawdd bywyd drwy gefnogi canolfannau presennol, darparu cartrefi fforddiadwy, a sicrhau bod cyfleusterau cymunedol yn cael eu darparu law yn llaw â datblygiadau newydd.
  • Trafnidiaeth Gynaliadwy a Theithio Llesol: Alinio'r cynllun newydd ar gyfer twf â blaenoriaeth y cyngor i annog defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio, gan anelu at sicrhau bod 75% o’r holl deithiau’n cael eu gwneud ar droed, ar feic neu ar drafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2030. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth i wneud teithio cynaliadwy yn ddewis mwy deniadol.
  • Lleoli Caerdydd ar flaen y gad o ran dinasoedd gan ddangos arweinyddiaeth a chamau cadarn i fynd i’r afael â newid hinsawdd: Mae'r ‘Cynllun Adneuo’ yn cyd-fynd â'r Strategaeth Un Blaned i ddarparu datblygiadau carbon isel ac adeiladau ynni effeithlon, yn ogystal â chynyddu'r cyflenwad o ynni adnewyddadwy i ddatblygiadau newydd ac atal datblygiadau mewn ardaloedd sy’n wynebu perygl llifogydd.
  • Sicrhau Cynnydd Net mewn Bioamrywiaeth a Gwydnwch Ecosystemau: Nod y ‘Cynllun Adneuo’ yw sicrhau bod pob datblygiad yn cydnabod pwysigrwydd seilwaith gwyrdd ac yn cynnal ac yn cyflawni cynnydd net mewn bioamrywiaeth ac yn hyrwyddo gwydnwch ecosystemau.
  • Diogelu Amgylchedd Caerdydd:   Gwarchod safleoedd maes glas i'r gogledd o'r M4 ac ardaloedd eraill o gefn gwlad ar draws y ddinas trwy ddynodi Lletem Las ac Ardaloedd Tirwedd Arbennig ac amddiffyn mannau agored pwysig ac asedau hanesyddol a diwylliannol ledled y ddinas.
  • Polisi Newydd a Chryfach mewn Meysydd Allweddol:  Mynd i'r afael â pholisi a deddfwriaeth newydd ers mabwysiadu'r CDLl presennol, gan sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio yn y ‘Cynllun Adneuo’.

Ychwanegodd y Cynghorydd De’Ath, “Mae creu swyddi a chartrefi newydd mewn ffordd gynaliadwy yn flaenoriaeth i'r weinyddiaeth hon. Mae'r ‘Cynllun Adneuo’ newydd yn weledigaeth realistig, ond eto’n optimistaidd ar gyfer sut y bydd Caerdydd yn datblygu dros yr 11 mlynedd nesaf. Mae hwn yn CDLl ar gyfer twf, ond nid twf di-reol. Cynllun a fydd yn defnyddio safleoedd tir llwyd a maes glas ar gymhareb o 50:50, yn darparu swyddi a chartrefi fforddiadwy, ac yn ein helpu i gyflawni ein targedau Caerdydd Un Blaned.”

Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, bydd y sylwadau a wneir yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ynghyd â'r Cynllun Adneuo yn ddiweddarach eleni i'w hystyried gan Arolygydd Cynllunio annibynnol a benodir i gynnal archwiliad o'r cynllun.