The essential journalist news source
Back
11.
February
2025.
Y Diweddariad: 11 Chwefror 2025

Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:

  • Ysgol Gynradd Creigiau yn disgleirio yn yr arolwg Estyn diweddaraf
  • Plannu'r 100,000fed coeden yng 'nghoedwig drefol' newydd Caerdydd
  • Gwahodd cefnogwyr cerddoriaeth i lunio dyfodol cerddoriaeth fyw

 

Ysgol Gynradd Creigiau yn disgleirio yn yr arolwg Estyn diweddaraf

Mae Ysgol Gynradd Creigiau wedi cael ei chanmol yn ei harolwg diweddaraf gan Estyn fel cymuned ffyniannus, ofalgar a chynhwysol sy'n meithrin cariad at ddysgu a pharch ymysg ei disgyblion.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at arweinyddiaeth gref yr ysgol, safonau ymddygiad rhagorol, a dulliau addysgu arloesol sy'n galluogi'r rhan fwyaf o ddisgyblion i wneud cynnydd cadarn mewn sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.  Cefnogir darpariaeth iaith ddeuol yr ysgol, yn Gymraeg a Saesneg, gan dîm ymroddedig o athrawon a chynorthwywyr sy'n darparu cwricwlwm deniadol a chynhwysfawr ar y cyd.

Canmolwyd llywodraethwyr hefyd am eu cyfranogiad gweithredol yn yr ysgol, gan ymgysylltu'n rheolaidd â staff a disgyblion i sicrhau goruchwyliaeth gadarn a rheoli adnoddau.

Meddai'r Pennaeth, Delyth Kirkman: "Rwy'n arbennig o falch bod y tîm arolygu wedi tynnu sylw at ein hethos cynhwysol, gofalgar, meithringar a chefnogol yn ogystal â'r berthynas gref rhwng y staff ysgol a'r disgyblion.

"Rydyn ni'n hynod falch bod ein disgyblion wedi cael eu canmol am eu hagweddau cadarnhaol tuag at ddysgu, eu dyfalbarhad a'u hannibyniaeth.

"Mae'r cyflawniad hwn yn dyst i waith caled, ymroddiad ac ymrwymiad parhaus ein disgyblion, staff, teuluoedd a llywodraethwyr. Rydyn ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i wella ein darpariaeth ymhellach er budd ein holl ddisgyblion."

Darllenwch fwy yma

 

Plannu'r 100,000fed coeden yng 'nghoedwig drefol' newydd Caerdydd

Plannwyd y 100,000fed coeden yng 'nghoedwig drefol' newydd Caerdydd, bedair blynedd yn unig wedi'r un gyntaf.

Plannwyd y goeden dderw ym Mharc Greenway yn Nhredelerch, fel rhan o brosiect Coed Caerdydd Cyngor Caerdydd.

Sefydlwyd y prosiect gan y Cyngor yn 2021 fel rhan o'i ymateb Caerdydd Un Blaned i'r argyfwng hinsawdd gyda'r nod o gynyddu cwmpas canopi coed yn y ddinas o fan cychwyn o 18.9% i 25%.

Bellach yn ei bedwerydd tymor plannu, mae'r prosiect wedi gweld staff y cyngor yn gweithio ochr yn ochr â byddin o wirfoddolwyr cymunedol i blannu ardal maint mwy na 25 o gaeau Stadiwm Principality gyda choed brodorol gan gynnwys coed Gwern, Cerddin, Derw, y Ddraenen Wen ochr yn ochr â chreu perllannau a gwrychoedd newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Mae plannu 100,000 o goed newydd mewn pedair blynedd yn unig yn gyflawniad rhyfeddol. Wrth iddyn nhw dyfu a dechrau gwneud yr holl bethau anhygoel y mae coed yn eu gwneud - glanhau'r aer, helpu i liniaru llifogydd, cadw pobl yn oer yn yr haf, darparu cynefinoedd i fywyd gwyllt a gwneud Caerdydd yn lle mwy dymunol i fyw ynddo - byddant hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ein gweledigaeth ar gyfer Caerdydd carbon niwtral.

"Rhaid diolch yn fawr iawn i'r holl wirfoddolwyr sydd wedi ein helpu i gyflawni cymaint mewn cyfnod mor fyr, boed hynny drwy dorchi llewys wrth blannu neu ein helpu i ofalu am y coed - ni fyddai wedi bod yn bosibl heb eu gwaith."

Darllenwch fwy yma

 

Gwahodd Cefnogwyr Cerddoriaeth i Lunio Dyfodol Cerddoriaeth Fyw yn y DU

Mae'r arolwg Music Fans' Voice cyntaf erioed wedi lansio, gan roi llais uniongyrchol i fynychwyr gigs wrth lunio dyfodol cerddoriaeth fyw yn y DU.

Mae'r arolwg yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd ddweud eu dweud am ddyfodol cerddoriaeth fyw, a chael eu clywed ar bynciau sy'n amrywio o brisiau tocynnau deinamig i sut maen nhw'n penderfynu pa sioeau i fynd iddyn nhw.

Comisiynwyd arolwg Music Fans' Voice gan Gyngor Caerdydd, Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf, Maer Llundain, Awdurdod Cyfun Dinas-ranbarth Lerpwl, Awdurdod Cyfun Gorllewin Canolbarth Lloegr, Awdurdod Cyfun Tees Valley, Cyngor Dinas Belfast a Dinas Gerdd Glasgow.

Mae'r arolwg yn adeiladu ar argymhelliad gan Bwyllgor Dethol Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Senedd y DU ar gyfer Adolygiad dan Arweiniad Cefnogwyr o gerddoriaeth fyw ac electronig, fel y digwyddodd ym mhêl-droed. 

Dyma gyfle i gefnogwyr cerddoriaeth dynnu sylw at ba feysydd sydd bwysicaf iddynt. Bydd canfyddiadau'n rhoi cynrychiolaeth sydd wedi'i gyrru gan ddata i gefnogwyr, gan helpu i lywio penderfyniadau yn y Llywodraeth, y diwydiant cerddoriaeth a dinas-ranbarthau ledled y DU ar sut i gefnogi pob maes cerddoriaeth fyw, gwella profiad y gynulleidfa a diogelu ein lleoliadau cerddoriaeth fyw. 

Darllenwch fwy yma