06/02/25
Plannwyd y 100,000fedcoeden yng 'nghoedwig drefol' newydd Caerdydd, bedair blynedd yn unig wedi'r un gyntaf.
Plannwyd y goeden dderw ym Mharc Greenway yn Nhredelerch, fel rhan o brosiect Coed Caerdydd Cyngor Caerdydd.
Plannodd Chloe o dîm Coed Caerdydd 100,000fedcoeden y prosiect. Llun gan: Cyngor Caerdydd
Sefydlwyd y prosiect gan y Cyngor yn 2021 fel rhan o'i ymateb Caerdydd Un Blaned i'r argyfwng hinsawdd gyda'r nod o gynyddu cwmpas canopi coed yn y ddinas o fan cychwyn o 18.9% i 25%.
Bellach yn ei bedwerydd tymor plannu, mae'r prosiect wedi gweld staff y cyngor yn gweithio ochr yn ochr â byddin o wirfoddolwyr cymunedol i blannu ardal maint mwy na 25 o gaeau Stadiwm Principality gyda choed brodorol gan gynnwys coed Gwern, Cerddin, Derw, y Ddraenen Wen ochr yn ochr â chreu perllannau a gwrychoedd newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Mae plannu 100,000 o goed newydd mewn pedair blynedd yn unig yn gyflawniad rhyfeddol. Wrth iddyn nhw dyfu a dechrau gwneud yr holl bethau anhygoel y mae coed yn eu gwneud - glanhau'r aer, helpu i liniaru llifogydd, cadw pobl yn oer yn yr haf, darparu cynefinoedd i fywyd gwyllt a gwneud Caerdydd yn lle mwy dymunol i fyw ynddo - byddant hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ein gweledigaeth ar gyfer Caerdydd carbon niwtral.
"Rhaid diolch yn fawr iawn i'r holl wirfoddolwyr sydd wedi ein helpu i gyflawni cymaint mewn cyfnod mor fyr, boed hynny drwy dorchi llewys wrth blannu neu ein helpu i ofalu am y coed - ni fyddai wedi bod yn bosibl heb eu gwaith."
Rhai o'r 7,000 o wirfoddolwyr cymunedol sydd, ynghyd â staff y Cyngor, wedi helpu plannu 100,000 o goed newydd yng Nghaerdydd. Llun gan: Cyngor Caerdydd
Plannwyd coed newydd ym mhob cornel yn y ddinas, mewn parciau a mannau gwyrdd, strydoedd ac ar dir yr ysgol, yn ogystal ag ar dir sy'n eiddo i sefydliadau sector cyhoeddus eraill a pherchnogion tir preifat. Mae coed yn cael eu dewis yn arbennig i weddu i bob safle unigol ac maent yn amrywio o ran maint o lasbrennau bach i goed "safon trwm" mwy.
Er mwyn sicrhau bod cymaint o goed â phosibl yn goroesi, unwaith y cawn nhw eu plannu nod tîm Coed Caerdydd yw profi pob coeden sawl gwaith yn ei blynyddoedd cyntaf. Mae hyn yn cael ei ategu gan rwydwaith o 'Geidwaid Coed' gwirfoddol sy'n helpu i ddyfrio a gofalu am y coed. Yn y tymor hwy bydd pob coeden yn cael ei chynnal gan y Cyngor, yn unol ag amserlenni cynnal a chadw safonol.
"Y nod yw plannu tua 110,000 o goed erbyn diwedd y tymor plannu hwn," meddai'r Cynghorydd Burke, "felly mae digon o waith i'w wneud eto dros yr wythnosau nesaf. Rwy'n gwybod o brofiad bod gwirfoddoli gyda'r prosiect yn llawer o hwyl yn ogystal â bod yn werth chweil a byddwn yn annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan ac ymuno â ni mewn sesiwn plannu coed gymunedol."
Coed Caerdydd mewn rhifau:
- Nifer y coed a blannwyd - 100,000
- Nifer y coed a blannwyd ar strydoedd - 400
- Nifer y coed ffrwythau a blannwyd - 1,250
- Nifer y cilomedrau o wrychoedd a blannwyd - 3.5
- Nifer y rhywogaethau gwahanol a blannwyd - 30
- Nifer y lleoliadau/safleoedd gwahanol - 300
- Nifer y gwirfoddolwyr - 7,000
- Nifer yr oriau gwirfoddoli - 14,000
Mae manylion llawn y sesiynau plannu sydd ar ddod ar gael yma: https://www.eventbrite.com/o/coed-caerdydd-46791623513