The essential journalist news source
Back
5.
February
2025.
Ysgol Gynradd Creigiau yn disgleirio yn yr arolwg Estyn diweddaraf

 

5/2/2025

Mae Ysgol Gynradd Creigiau wedi cael ei chanmol yn ei harolwg diweddaraf gan Estyn fel cymuned ffyniannus, ofalgar a chynhwysol sy'n meithrin cariad at ddysgu a pharch ymysg ei disgyblion.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at arweinyddiaeth gref yr ysgol, safonau ymddygiad rhagorol, a dulliau addysgu arloesol sy'n galluogi'r rhan fwyaf o ddisgyblion i wneud cynnydd cadarn mewn sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.  Cefnogir darpariaeth iaith ddeuol yr ysgol, yn Gymraeg a Saesneg, gan dîm ymroddedig o athrawon a chynorthwywyr sy'n darparu cwricwlwm deniadol a chynhwysfawr ar y cyd.

Dyma rai o brif ganfyddiadau'r adroddiad:

  • Ymddygiad rhagorol:Canmolir disgyblion am eu hymddygiad rhagorol, sy'n deillio o ddisgwyliadau uchel yr ysgol a'u pwyslais ar barch at ei gilydd.
  • Cymuned gynhwysol:Mae athrawon yn addysgu'n effeithiol am amrywiaeth a chynhwysiant, gan helpu disgyblion i werthfawrogi gwahaniaethau a datblygu empathi tuag at eraill.
  • Arweinyddiaeth ragorol:Mae'r pennaeth a'r tîm arwain yn cael eu canmol am eu rheolaeth effeithiol a'u gweledigaeth glir ar gyfer gwelliant parhaus.
  • Cyfleoedd datblygu disgyblion:Mae'r ysgol yn rhoi nifer o gyfleoedd arwain a gwneud penderfyniadau i ddisgyblion, gan feithrin hyder ac ymdeimlad o gyfrifoldeb, yn enwedig trwy fentrau lle mae disgyblion hŷn yn cefnogi cyfoedion iau.

Canmolwyd llywodraethwyr hefyd am eu cyfranogiad gweithredol yn yr ysgol, gan ymgysylltu'n rheolaidd â staff a disgyblion i sicrhau goruchwyliaeth gadarn a rheoli adnoddau.

Meddai'r Pennaeth, Delyth Kirkman: "Rwy'n arbennig o falch bod y tîm arolygu wedi tynnu sylw at ein hethos cynhwysol, gofalgar, meithringar a chefnogol yn ogystal â'r berthynas gref rhwng y staff ysgol a'r disgyblion.

"Rydyn ni'n hynod falch bod ein disgyblion wedi cael eu canmol am eu hagweddau cadarnhaol tuag at ddysgu, eu dyfalbarhad a'u hannibyniaeth.

"Mae'r cyflawniad hwn yn dyst i waith caled, ymroddiad ac ymrwymiad parhaus ein disgyblion, staff, teuluoedd a llywodraethwyr. Rydyn ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i wella ein darpariaeth ymhellach er budd ein holl ddisgyblion."

Ychwanegodd Brian Weir, Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr:  "Roedd y Bwrdd Llywodraethu ar ben ei ddigon o dderbyn y canlyniad rhagorol hwn gan Estyn. Cadarnhaodd ein cred fod Ysgol Gynradd Creigiau yn ysgol ardderchog gydag arweinyddiaeth ragorol a staff gwych sy'n gweithio gyda phroffesiynoldeb ac ymroddiad llwyr i gefnogi dysgu, addysgu a chanlyniad pob un disgybl."

Ni chanfu'r arolygiad unrhyw feysydd penodol i'w gwella, gan adlewyrchu ymrwymiad yr ysgol i ragoriaeth. Mae'r adroddiad yn annog yr ysgol i barhau ar ei llwybr cadarnhaol.

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae Estyn wedi cydnabod yn glir yr ymdrechion rhagorol a wneir gan staff Ysgol Gynradd Creigiau ac mae'n wych nad yw'r arolygiaeth wedi dod o hyd i unrhyw feysydd i'w gwella.

"Mae'r adroddiad yn dyst i ymroddiad y staff, brwdfrydedd disgyblion, a chefnogaeth ddiwyro'r gymuned. Gwnaed argraff fawr arnaf gan y ffordd y mae staff yn hysbysu disgyblion am wahanol ddiwylliannau a chredoau ar draws y cwricwlwm, ac o ganlyniad, mae'n sicrhau bod disgyblion o bob cefndir yn cael eu dathlu. 

"Llongyfarchiadau i bawb yn yr ysgol am greu amgylchedd dysgu gwych i bawb sy'n mynychu."

Adeg yr arolwg, roedd 367 o ddisgyblion ar gofrestr Ysgol Gynradd Creigiau. Mae 6.8% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae gan 2.9% o'r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol ac mae 16.1% o'r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref.