The essential journalist news source
Back
31.
January
2025.
Y Diweddariad: 31 Ionawr 2025

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Apêl am wirfoddolwyr i ddarparu gwasanaeth cyfeillio newydd i ofalwyr di-dâl
  • Coed afalau ‘Gabalva' prin wedi'u plannu yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers 100 mlynedd
  • Cyngor Caerdydd yn cefnogi theatr ymylol newydd yn Porter's

 

Apêl am wirfoddolwyr i ddarparu gwasanaeth cyfeillio newydd i ofalwyr di-dâl

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i'n helpu i ddarparu gwasanaeth cyfeillio newydd i ofalwyr di-dâl.

Bydd gwirfoddolwyr yn:

  • darparu galwadau ffôn cyfeillgarwch
  • cyfarfod â phobl yn eu cymuned leol neu gartref
  • helpu gyda thasgau glanhau ysgafn neu arddio
  • helpu gyda siopa

Os oes gennych ddiddordeb mewn ein helpu i ddarparu cefnogaeth a chyfeillgarwch i bobl sydd â chyfrifoldebau gofalu, cysylltwch â ni.

Ffon: 02920 234 234

E-bost:CyfeillioGofalwyr@caerdydd.gov.uk

 

Coed afalau ‘Gabalva' prin wedi'u plannu yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers 100 mlynedd

Mae rhywogaeth brin o goeden afalau a dyfai ar dir ystâd deuluol Bute yng Nghaerdydd ar un adeg wedi cael ei hailgyflwyno i'r ddinas am yr hyn y credir yw'r tro cyntaf ers tua 100 mlynedd.

Y gred oedd bod coed afalau Gabalfa, a gofnodwyd yn hanesyddol fel afalau ‘Gabalva', wedi diflannu nes iddynt gael eu hailddarganfod yn Sir Gaerfyrddin yn 2004.

Mae tair o'r coed wedi cael eu plannu fel rhan o berllan newydd sy'n cael ei datblygu ym Mharc Gabalfa. Mae'r berllan yn rhan o brosiect coedwig drefol ‘Coed Caerdydd' Cyngor Caerdydd, sydd â'r nod o gynyddu gorchudd canopi coed fel rhan o ymgyrch Caerdydd Un Blaned yr awdurdod lleol i ymateb i newid hinsawdd.

Gyda chymorth byddin o wirfoddolwyr cymunedol, bydd 47 o goed afalau Gabalva arall yn cael eu plannu ym Mharc Maitland, Perllan Gymunedol Parc Bute, ac ar dir ysgol yn ystod y tymor plannu hwn.

Bydd 450 o goed ffrwythau eraill, yn cynnwys mathau eraill o afal yn ogystal â gellyg, eirin a cheirios, hefyd yn cael eu plannu fel rhan o'r rhaglen blannu eleni.

Darllenwch fwy yma

 

Cyngor Caerdydd yn cefnogi theatr ymylol newydd yn Porter's

Bydd y bar poblogaidd Porter's yng nghanol y ddinas yn agor theatr dafarn newydd sbon â 60 sedd yn islawr ei safle ar Lôn y Barics. Nod y fenter yw bod yn gartref i ddramodwyr ymylol ym mhrifddinas Cymru, gan flaenoriaethu egin artistiaid a'u gwaith, yn ogystal â darparu llwyfan i bobl greadigol deithiol.

Yn ddiweddar, cefnogodd Cyngor Caerdydd y bar poblogaidd wrth iddi symud i adeilad newydd ar Lôn y Barics, a nawr gyda chefnogaeth bellach gan Gyngor Caerdydd, a chefnogaeth gan Stage Sound Services, mae Porter's yn gallu agor theatr islawr, ochr yn ochr â'i arlwy cerddoriaeth fyw sydd eisoes yn ffynnu.

Bydd y theatr yn agor 1 Mawrth 2025, gyda rhaglen waith gan grewyr lleol, yn ogystal â sioeau teithiol o bob cwr o'r DU.

Darllenwch fwy yma