The essential journalist news source
Back
17.
January
2025.
Cyngor Caerdydd yn Datgelu Strategaeth 5 Mlynedd Uchelgeisiol i Foderneiddio’r Ystâd a Rhoi Hwb o £10m i Dderbyniadau C
 17/01/25

 Mae Cyngor Caerdydd wedi lansio strategaeth eiddo 5 mlynedd newydd feiddgar gyda'r nod o greu portffolio eiddo 'Mannau Effeithlon, Dyfodol Cynaliadwy' erbyn 2030.

Mae'r strategaeth yn cyd-fynd ag agenda bolisi 'Cryfach, Gwyrddach, Tecach' y cyngor, y Cynllun Datblygu Lleol Newydd, a Chaerdydd Un Blaned.

Nod y strategaeth yw moderneiddio'r ystâd, cynyddu incwm, a lleihau ôl troed carbon adeiladau a thir sy'n eiddo i'r cyngor drwy ganolbwyntio ar bum maes allweddol hyd at 2030:

·       Lleihau carbon:  Torri effaith carbon ystâd y cyngor gan 20% yn unol â'r Strategaeth Un Blaned.

·       Ad-drefnu’r ystâd:  Gwella effeithlonrwydd y portffolio eiddo a lleihau costau rhedeg gan £600,000.

·       Cydymffurfiaeth statudol:  Cyflawni a chynnal lefelau cydymffurfio o 80% neu uwch ar draws yr Ystâd.

·       Gwaredu eiddo:  Gwerthu eiddo anhanfodol i godi £10m.

·       Incwm masnachol:  Cynyddu incwm eiddo lesddaliadol gan £700,000 ac ystyried gwerthu eiddo sy'n tanberfformio.

Dros y ddegawd ddiwethaf, bu'n rhaid i'r cyngor arbed mwy na £210m gyda phwysau ariannol yn cynyddu bob blwyddyn. Mae angen atebion arloesol i helpu i ariannu gwasanaethau hanfodol fel gofal cymdeithasol, addysg a thai ac mae'r cyngor yn edrych ar sut y gall ddefnyddio ei bortffolio eiddo i helpu i wneud hynny, naill ai drwy werthu neu leihau costau cynnal a chadw a rhedeg.

Ar hyn o bryd, mae Cyngor Caerdydd yn rheoli 300 o eiddo gweithredol rhydd-ddaliadol, gan gynnwys ysgolion, lleoliadau digwyddiadau, depos, swyddfeydd a chyfleusterau chwaraeon, sy'n costio tua £40m y flwyddyn. Yn ogystal, mae'r cyngor yn prydlesu 420 eiddo i grwpiau a sefydliadau cymunedol, sy’n cynhyrchu £4m o incwm bob blwyddyn.

Esboniodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway, y strategaeth newydd:  "Rydyn ni’n yn ailalinio ein targedau o 2021 i 2025 i adlewyrchu'r blaenoriaethau diweddaraf ar gyfer ein hystâd tir ac eiddo. Mae ein hystâd eiddo yn adnodd corfforaethol hanfodol a ddylai gefnogi nodau busnes y cyngor.

"Ysgolion yw dros ddwy ran o dair o'n hystâd, a dyna pam rydyn ni'n canolbwyntio ar adeiladu cyfleusterau addysgol newydd, modern.

"Gyda llawer o staff bellach yn gweithio’n hybrid, rydyn ni’n cynnig swyddfa graidd newydd ym Mae Caerdydd. Bydd yr adeilad newydd hwn yn costio llai na hanner y pris o adnewyddu Neuadd y Sir a bydd yn rhatach i'w redeg bob blwyddyn.

"Mae angen i ni foderneiddio ein hystâd i sicrhau ei bod yn addas at y diben ac yn cydymffurfio â gofynion statudol. Rydyn ni’n gosod targedau clir i leihau ein heffaith carbon. Bydd eiddo sy'n wag, yn gostus i'w cynnal, ac nad ydynt yn cyd-fynd â'n gweledigaeth, yn cael eu gwerthu. Rydyn ni hefyd yn adolygu’r holl adeiladau gweithredol ac eiddo lesddaliadol i gynyddu incwm ac asesu a ddylid gwerthu eiddo sy'n tanberfformio. "Mae'r tasgau sydd o'n blaenau yn sylweddol ond o fewn cyrraedd. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddod o hyd i ffyrdd o gynyddu incwm i gefnogi gwasanaethau hanfodol fel addysg, gofal cymdeithasol, a thai fforddiadwy."