The essential journalist news source
Back
14.
January
2025.
Y Diweddariad: 14 Ionawr 2025

Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:

  • Ymgynghoriad cyllideb Caerdydd ar agor
  • Ysgol Gynradd Sant Cadog yn derbyn canmoliaeth gan Estyn
  • Hyblygrwydd a dewis i ddefnyddwyr gofal a darparwyr gofal
  • Eicon Cerddoriaeth Ed Sheeran yn rhoi hwb i addysg gerddoriaeth ieuenctid lleol gydag ymweliad annisgwyl i lansio sefydl

 

Ymgynghoriad cyllideb Caerdydd ar agor

Mae trigolion Caerdydd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar y gyllideb, a agorodd heddiw, a fydd yn helpu i lunio dyfodol gwasanaethau cyngor hanfodol yn y ddinas.

Diolch i setliad gwell na'r disgwyl gan Lywodraeth Cymru, mae Cyngor Caerdydd wedi gweld bwlch cyllidebol rhagamcanol o £60 miliwn yn lleihau i £23.4 miliwn ar gyfer 2025/26.

Er gwaethaf y rhagolygon ariannol gwell hyn, mae sawl ffactor, gan gynnwys chwyddiant a'r galw cynyddol am wasanaethau, yn golygu bod y gost o ddarparu gwasanaethau hanfodol fel addysg, gofal cymdeithasol a delio â'r argyfwng tai, yn parhau i gynyddu.

Er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg o £23.4 miliwn yn y gyllideb, mae'r cyngor yn cynnig cyfuniad o fesurau gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd, rhai newidiadau i'r gwasanaeth, ffioedd a thaliadau cynyddol, a chynnydd yn y dreth gyngor.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion hyn yn agor heddiw, a bydd yn para tan ddydd Mercher, 5 Chwefror 2025. Ynddo, gofynnir i drigolion am eu barn ar newidiadau posibl i wasanaethau a blaenoriaethau cyllido.

Darllenwch fwy yma

 

Ysgol Gynradd Sant Cadog yn derbyn canmoliaeth gan Estyn

Mae Ysgol Gynradd Sant Cadog yn Llanrhymni wedi cael ei chanmol am ei hamgylchedd croesawgar a chynhwysol yn dilyn arolygiad llwyddiannus gan Estyn, Arolygiaeth Addysg Cymru.

Yn ei adroddiad, mae Estyn yn tynnu sylw at arweinyddiaeth gadarn yr ysgol, diwylliant dysgu cadarnhaol ac arferion addysgu effeithiol. Cymeradwyodd arolygwyr yr ysgol am feithrin amgylchedd hapus a diogel lle mae disgyblion yn ffynnu, yn ymddwyn yn eithriadol o dda ac yn ffurfio perthnasoedd cryf.

Cryfderau allweddol a amlygwyd yn yr adroddiad:

  • Mae perthnasoedd cadarnhaol rhwng disgyblion, staff a chymuned ehangach yr ysgol yn cael eu nodi fel cryfder penodol. Mae disgyblion hŷn yn cefnogi cyfoedion iau yn rheolaidd gyda gweithgareddau fel darllen a chwarae.

 

  • Addysgu Effeithiol: Mae'r rhan fwyaf o'r gwersi'n cynnwys bwriadau dysgu clir, cwestiynu effeithiol ac amgylchedd cefnogol sy'n annog dysgu meddylgar a myfyriol. Mae disgyblion, gan gynnwys y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, yn gwneud cynnydd da yn gyffredinol.

 

  • Canolbwyntio ar Lythrennedd: Mae ymdrechion yr ysgol i ddatblygu sgiliau llythrennedd disgyblion yn arbennig o lwyddiannus, gyda chynnydd cadarn mewn llafaredd, darllen ac ysgrifennu.

 

Mae'r Pennaeth Rachael Fisher, a benodwyd ym mis Ebrill 2022, yn nodedig am ei harweinyddiaeth sicr, ei gweledigaeth glir a'i hymrwymiad i godi safonau trwy ddisgwyliadau uchel a phwrpas moesol cryf.

Dywedodd:  "Yn Sant Cadog, rydym yn hynod falch o'r adroddiad hwn, sy'n cydnabod ymroddiad ein staff, gwaith caled ein disgyblion a chefnogaeth ein teuluoedd. Mae ein hymdeimlad cryf o gymuned, wedi'i wreiddio mewn gwerthoedd Catholig cyffredin, yn caniatáu i'n disgyblion ffynnu yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn emosiynol. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i adeiladu ar y llwyddiant hwn a sicrhau bod pob plentyn yn Sant Cadog yn parhau i ffynnu."

Darllenwch fwy yma

 

Hyblygrwydd a dewis i ddefnyddwyr gofal a darparwyr gofal

Mae ffordd newydd o ddarparu gofal i bobl yng Nghaerdydd yn cyflawni manteision gwirioneddol i'r rhai sy'n derbyn y cymorth yn ogystal â'r gofalwyr sy'n ei ddarparu.

Ers dros flwyddyn, mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda'r CBC Catalyddion Cymunedol, sefydliad sy'n arbenigo mewn gweithio gydag awdurdodau lleol i helpu pobl leol i ddarparu gofal a chymorth yn y gymuned drwy sefydlu micro-fentrau sy'n helpu pobl i aros yn annibynnol ac yn cefnogi eu lles.

Mae Catalyddion Cymunedol yn gweithio gydag unigolion sy'n dymuno sefydlu busnes bach iawn sy'n darparu gofal a chymorth yn y gymuned, gan sicrhau bod y sicrwydd ansawdd cywir ar waith, fel gwiriadau GDG, yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, polisïau diogelu a bod y micro-fenter yn cael ei rhedeg yn dda ac yn gynaliadwy.

Yna caiff micro-fentrau eu hychwanegu at y cyfeiriadur ar-lein "Small Good Stuff" lle gall pobl sy'n chwilio am wasanaethau gofal chwilio am ddarparwr sy'n addas i'w hanghenion.

Mae Home Hearted Care yn un o'r micro-fentrau hyn. Mae'n cael ei rhedeg gan Selena Richards, cyn-warchodwr plant a ddatblygodd ddiddordeb mewn dilyn gyrfa yn gofalu am oedolion a darparu cymorth gartref yn ystod y pandemig.

Darllenwch fwy yma

 

Eicon Cerddoriaeth Ed Sheeran yn rhoi hwb i addysg gerddoriaeth ieuenctid lleol gydag ymweliad annisgwyl i lansio sefydliad newydd

Syfrdanodd Ed Sheeran bobl ifanc o bedwar sefydliad yng Nghaerdydd pan aeth ar ymweliad gyflym o'r ddinas i lansio ei sefydliad newydd, gan alw yn Ysgol Uwchradd Fitzalan, Canolfan Ieuenctid Eastmoors yn y Sblot, a'r prosiect ieuenctid, Grassroots, yng nghanol y ddinas.

Yng nghwmni ei bartner cyfansoddi caneuon hirsefydlog a Llysgennad Aloud, sydd wedi'i lleoli yng Nghymru, Amy Wadge, gan adael llwybr o ysbrydoliaeth a chyffro yn ei sgil, cychwynnodd Ed y daith annisgwyl gydag ymddangosiad arbennig yn ystod gwasanaeth Ysgol Uwchradd Fitzalan. Roedd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau gan ddisgyblion ac Only Boys Aloud, sydd wedi gweithio gyda'r ysgol ac Amy yn ystod prosiect ysgrifennu caneuon yn 2020.

Daeth yr ymweliad i ben yn drawiadol gydag Ed yn perfformio dwy gân ar y llwyfan ac yn rhoi cyfle i ddisgyblion ofyn cwestiynau iddo yn ystod sesiwn holi ac ateb bywiog.

O'r fan honno, aeth Ed ac Amy i Ganolfan Ieuenctid Eastmoors, lle gwnaethant gyfarfod â myfyrwyr cerddoriaeth y Ministry of Life, darpariaeth amgen o gyfleoedd cerddoriaeth a'r cyfryngau anffurfiol i bobl ifanc sydd wedi symud i ffwrdd o addysg prif ffrwd.

Eisteddodd Ed gyda staff y prosiect a thrafod y rhwystrau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth geisio ymgysylltu ag addysg gerddoriaeth cyn cerdded i mewn ar 35 o bobl ifanc wedi'u syfrdanu, ac ymuno â nhw mewn jam. Cafodd hefyd wledd o berfformiadau anhygoel gan ddoniau ifanc lleol, gan gynnwys Jessika Kay a Kors.

Darllenwch fwy yma