The essential journalist news source
Back
13.
January
2025.
Cynllun ailgylchu 'Sachau Didoli' Caerdydd yn cychwyn ar y cam cyflwyno terfynol
 13/01/25

 Bydd cam cyflwyno terfynol o gynllun ailgylchu 'sachau didoli' newydd yng Nghaerdydd yn dechrau ar 20 Ionawr, a fydd yn ymestyn y cynllun i 36,400 o gartrefi.

O'r dyddiad hwn, bydd trigolion nad ydynt yn byw mewn fflatiau pwrpasol ac nad ydynt eto wedi ymuno â'r cynllun yn dechrau derbyn eu cynwysyddion ailgylchu newydd yn barod ar gyfer y casgliadau cyntaf ar 4 Mawrth.

O 20 Ionawr, bydd trigolion Butetown, Treganna, Creigiau, Cyncoed, y Tyllgoed, Llanisien, Llanrhymni, Pentref Llaneirwg a Glan yr Afon yn derbyn:

  • Cadi Glas:  Ar gyfer poteli a jariau gwydr
  • Sach Goch: Ar gyfer metel, tun, erosolau, ffoil, poteli plastig, potiau plastig, tybiau plastig a phecynnau tetra
  • Sach Las: Ar gyfer papur a chardfwrdd

Ynghyd â'r cynwysyddion newydd, bydd preswylwyr hefyd yn derbyn llythyr eglurhaol, llyfryn manwl a thaflen wybodaeth 'canllaw cyflym' i'w helpu i ddeall y cynllun a gwybod ble i roi eu gwastraff ailgylchadwy.

Mae'r cynllun 'sachau didoli' newydd eisoes wedi'i gyflwyno i filoedd o eiddo ledled Caerdydd, gan wella ansawdd yr ailgylchu a gasglwyd yn sylweddol.

Mae’r manteision a welwyd yn sgil y cynllun newydd yn cynnwys:

  • Cyfraddau Ailgylchu Uwch: Gellir ailgylchu 96% o'r cynhyrchion a gyflwynir i'w hailgylchu, o gymharu â 70% dan y cynllun casglu gwastraff ailgylchadwy cymysg blaenorol.
  • Llai o Halogi: Mae'r gyfradd halogi wedi gostwng o 30% i 4%, gan leihau problemau gyda gwastraff na ellir ei ailgylchu, a sbwriel ar y stryd sy’n deillio o adar ac anifeiliaid yn ceisio agor bagiau gwyrdd i fynd at fwyd sydd wedi'i gyflwyno'n anghywir.

Dywedodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet dros Wastraff, Strydlun a Gwasanaethau Amgylcheddol: "Mae cyflwyno'r cynllun ailgylchu newydd wedi'i gynllunio i helpu trigolion, ac mae'r cyngor yn ailgylchu cymaint o wastraff cartref â phosibl. Mae'n rhoi cyfle i bawb wneud eu rhan i helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae'r gwelliant rhyfeddol yn y cyfraddau ailgylchu a welwyd yn rhannau o'r ddinas lle mae'r cynllun eisoes ar waith yn newyddion da, ac rydym am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i drigolion am groesawu’r cynllun ac addasu iddo mor gyflym. Mae ein ffigurau'n dangos bod y system didoli ymyl y ffordd yn sicrhau gwelliant sylweddol a pharhaus yn ansawdd y deunydd ailgylchu sy'n cael ei gasglu o gymharu â'r system casglu gwastraff ailgylchadwy cymysg (bagiau gwyrdd). Mae ein trigolion yn gwneud gwaith gwych. Mae gwahanu deunyddiau ailgylchu i ffrydiau gwahanol yn arwain at lai o halogi. Yn flaenorol, dim ond 70% o'r hyn a gasglwyd yn y bagiau gwyrdd, plastig ar gyfer gwastraff ailgylchadwy cymysg oedd modd eu hailgylchu. Mewn llawer o achosion, byddai'r bagiau cynnwys gwastraff bwyd neu gewynnau brwnt, ymhlith pethau eraill, gan achosi niwsans i staff a oedd yn gorfod didoli'r gwastraff yn ein depo. Yna roedd yn rhaid llosgi’r gwastraff nad oedd modd ei ailgylchu, gan arwain at gostau uwch. Mae gosod gwastraff na ellir ei ailgylchu, yn enwedig bwyd, mewn bagiau plastig gwyrdd hefyd yn creu problemau wrth i anifeiliaid ac adar dorri’r bagiau ar agor ar y stryd, gan wasgaru sbwriel ar draws ein ffyrdd. Mae'r system newydd yn ei gwneud hi'n anoddach i anifeiliaid ac adar dorri'r sachau ar agor, ond mae'r ffaith eu bod yn cynnwys llai o wastraff bwyd nag roedden ni’n ei weld yn y bagiau gwyrdd hefyd yn helpu i raddau helaeth. Dan y cynllun ailgylchu 'sachau didoli' newydd, mae'r gyfradd halogi hon wedi gostwng o 30% i 4%. Mae ansawdd y deunyddiau ailgylchu a gasglwyd hefyd wedi gwella'n sylweddol a bydd yn helpu'r ddinas wrth i ni ymdrechu i gyrraedd y targedau ailgylchu a chompostio heriol sydd wedi'u gosod gan Lywodraeth Cymru."

Y cynllun ailgylchu 'sachau didoli' newydd yw'r ffordd mai Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio i awdurdodau lleol gasglu deunyddiau ailgylchu o gartrefi preswylwyr. Fe'i cynlluniwyd i wella ansawdd ailgylchu'r ddinas a chyrraedd y targedau ailgylchu a chompostio heriol sydd wedi’u gosod yn gyfreithiol. Rhaid i gyfradd ailgylchu a chompostio Caerdydd gyrraedd 70% erbyn 2025, a dim gwastraff erbyn 2050, targedau a amlinellir yn Strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff Llywodraeth Cymru.  60% yw'r gyfradd ailgylchu yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, sy’n cynnwys pob ffrwd wastraff.

Gall preswylwyr ofyn am sachau ychwanegol i ailgylchu eu gwastraff. Nid oes cyfyngiad ar faint o ddeunyddiau ailgylchu y gall preswylwyr eu cyflwyno. Cafodd sachau eu dewis yn hytrach na blychau plastig - sy'n cael eu defnyddio mewn rhai rhannau o Gymru - i gydnabod bod llawer o gartrefi Caerdydd heb ardd, felly gall y sachau gael eu plygu’n fach pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.  Maen nhw hefyd yn haws i drigolion a chriwiau gwastraff eu codi.  Mae pwysau ychwanegol wedi'i ychwanegu i leihau'r risg y bydd sachau yn cael eu chwythu i ffwrdd gan y gwynt, ond gellir archebu sachau newydd drwy Ap y cyngor https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/app-caerdydd-gov/Pages/default.aspxneu eu casglu mewn rhai hybiau.

I gasglu'r ‘sachau didoli’, mae cerbydau gwastraff newydd yn cael eu defnyddio sydd â dwy siambr ar wahân yng nghefn y cerbyd. Mae'r ailgylchu o'r sach las yn mynd i un ochr y cerbyd ac mae'r ailgylchu o'r sach goch yn mynd i'r llall.  Mae cerbyd ar wahân yn cael ei ddefnyddio i gasglu'r jariau a'r poteli gwydr.

Bu adegau pan ddefnyddiwyd cerbydau gwastraff cyffredinol i gasglu'r ffrydiau hyn gyda’i gilydd. Mae hyn yn digwydd pan fo angen gweithredol i wneud hynny - er enghraifft, os bydd problem gyda’r cerbyd. Fodd bynnag, rydyn ni am sicrhau preswylwyr nad yw hyn yn cael effaith sylweddol ar yr ailgylchu a gesglir, ac mae dau reswm dros hyn:

  1. Mae trigolion eisoes wedi sicrhau bod y deunyddiau sy’n cael eu casglu o ansawdd uchel ac nad yw'r deunydd a gesglir mewn sachau/biniau poteli’n yn cael ei gymysgu â deunyddiau bagiau gwyrdd.
  2. Mae’r deunyddiau’n mynd i Gyfleuster Ailgylchu Deunyddiau'r cyngor yn Ffordd Lamby, sy'n gwahanu'r deunydd yn ôl maint a phwysau, gan ddarparu'r un deunyddiau ailgylchadwy o ansawdd â'r rhai a fyddai wedi'u casglu yn y cerbydau siambr deublyg.

Ar ôl cyflwyno'r cam diweddaraf, bydd pob tŷ yng Nghaerdydd yn dod yn rhan o’r cynllun ailgylchu newydd. Bydd cynllun pwrpasol newydd ar gyfer fflatiau pwrpasol yn dilyn, a darperir rhagor o wybodaeth yn ddiweddarach yn y flwyddyn.