Bydd cynllun datblygu newydd ar gyfer y ddinas yn creu dros 32,000 o swyddi newydd a 26,400 o gartrefi newydd erbyn 2036.
Mae'r broses o fabwysiadu Cynllun Datblygu Newydd bellach yn cyrraedd ei
gamau terfynol, gyda bwriad i’r 'Cynllun Adneuo' neu'r cynllun llawn gael ei
drafod a'i gytuno gan Gabinet Cyngor Caerdydd cyn cael ei gyflwyno i'r Cyngor
Llawn i'w gymeradwyo.
Dwedodd y Cynghorydd Dan De’Ath, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd,
Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth: "Bydd y 'Cynllun Adneuo' newydd yn
gweithredu fel glasbrint ar gyfer datblygu yng Nghaerdydd hyd at 2036 gan osod
strategaeth wedi ei harwain gan gynllun a fydd yn rheoli datblygiad yn y
ddinas, gan sicrhau bod buddsoddwyr a datblygwyr yn gwybod ac yn deall sut
rydym am i'r ddinas ddatblygu.
"Heb Gynllun Datblygu Lleol cyfredol, byddai datblygiad yn y ddinas
yn digwydd mewn modd ar hap, gan ganiatáu i ddatblygwyr gyflwyno cynigion nad
ydynt yn cyd-fynd â'n dyheadau ar sut y dylai Caerdydd dyfu, felly dyma pam fod
y broses hon mor bwysig."
Yn dilyn yr ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir yn haf 2023,
dewiswyd cyfradd dwf o 1% y flwyddyn gydol y cynllun.
Uchafbwyntiau allweddol y 'Cynllun Adneuo' yw:
· Diwallu Anghenion y Dyfodol: Creu 32,300 o swyddi newydd a 26,400 o gartrefi
newydd i ddarparu ar gyfer twf ym mhoblogaeth yn y ddinas.
·
Cartrefi Newydd: Yn ogystal â'r safleoedd sydd eisoes â
chaniatâd cynllunio neu sydd wedi'u clustnodi i'w datblygu ar y safleoedd
strategol yn y CDLl presennol, bydd tai newydd yn cael eu codi ar safleoedd tir
llwyd yng nghanol y ddinas, yn Nociau Caerdydd ac yn y Pentref Chwaraeon
Rhyngwladol. Bydd hyn yn rhoi rhaniad cyffredinol o 50:50 rhwng defnyddio
safleoedd datblygu maes glas a rhai tir llwyd. Bydd 25% o'r holl gartrefi
newydd o dan y cynllun yn rai fforddiadwy, gan ddarparu rhwng 5,000 a 6,000 o
gartrefi newydd fforddiadwy erbyn 2036.
· Swyddi Newydd: Mae'r 'Cynllun Adneuo' yn cefnogi
Strategaeth Economaidd y Cyngor, gan gynnig amrywiaeth a dewis o gyfleoedd
cyflogaeth newydd drwy ddiogelu safleoedd cyflogaeth sy’n bod eisoes yn y CDLl
presennol, tra'n cyflwyno safleoedd newydd ym Mharth Canolog Caerdydd, Basn y
Rhath, i'r gogledd o Gyffordd 33, gogledd-orllewin Caerdydd, Parc Caerdydd a
safleoedd eraill.
·
Creu Cymdogaethau Cynaliadwy: Sicrhau bod holl ddatblygiadau'r dyfodol yn
ddatblygiadau defnydd cymysg, wedi'u cynllunio'n dda, i greu amgylcheddau
diogel, cynhwysol, hygyrch ac iach i bobl fyw ynddynt. Mae'r strategaeth yn
nodi sut y byddwn yn mynd i'r afael ag amddifadedd ac yn gwella ansawdd bywyd
drwy gefnogi canolfannau presennol, darparu cartrefi fforddiadwy, tra'n sicrhau
bod cyfleusterau cymunedol yn cael eu darparu law yn llaw â datblygiadau
newydd.
· Trafnidiaeth Gynaliadwy a Theithio
Llesol: Mae'n hanfodol
bod unrhyw gynllun newydd ar gyfer twf ar gyfer y ddinas yn cyd-fynd yn llwyr â
blaenoriaeth y cyngor i annog pobl i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded
a beicio, i wneud pobl yn llai dibynnol ar eu ceir preifat. Y nod yw sicrhau bod 75% o'r holl deithiau yn
cael eu gwneud ar droed, drwy feicio neu ar drafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2030
trwy fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth i wneud teithio cynaliadwy yn opsiwn
mwy deniadol i'r cyhoedd ei ddefnyddio.
·
Ymateb i Newid yn yr Hinsawdd: Mae'r 'Cynllun Adneuo' yn cyd-fynd â'r
Strategaeth Un Blaned i ddarparu datblygiadau carbon isel ac adeiladau ynni
effeithlon, yn ogystal â chynyddu'r cyflenwad o ynni adnewyddadwy i
ddatblygiadau newydd ac atal datblygiadau mewn ardaloedd sy’n wynebu perygl
llifogydd.
·
Sicrhau budd net mewn bioamrywiaeth a sicrhau gwydnwch
ecosystemau: Nod y 'Cynllun Adneuo' yw sicrhau bod
pob datblygiad yn cynnal ac yn sicrhau enillion net mewn bioamrywiaeth ac yn
hyrwyddo gwydnwch ecosystemau.
·
Diogelu
Amgylchedd Caerdydd:Gwarchod safleoedd maes glas
i'r gogledd o'r M4, ynghyd ag ardaloedd eraill o gefn gwlad ar draws y ddinas.
· Polisi Newydd a Chryfach mewn Meysydd Allweddol:
Maerhain wedi cael sylw
yn y 'Cynllun Adneuo', sy'n sicrhau ein bod yn manteisio ar yr holl feysydd
polisi a deddfwriaeth newydd sydd wedi dod i fodolaeth ers mabwysiadu'r CDLl
presennol yn y 'Cynllun Adneuo'.
Aeth y Cynghorydd De'Ath ymlaen:
"Mae'r broses o gyflwyno Cynllun Datblygu Lleol Newydd bob amser yn
heriol, ond ni ddylid tanbrisio'r gwaith manwl sy'n gysylltiedig â'r broses
hon. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd
ran yn yr ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir y llynedd, mae'r safbwyntiau
a'r syniadau a gyflwynwyd wedi cael eu hystyried wrth baratoi'r 'Cynllun
Adneuo'. Ymunodd dros 400 o bobl â ni ar gyfer ein sesiynau ymgysylltu wyneb yn
wyneb ac ar-lein a chwblhaodd dros 1000 o bobl yr arolwg. Gwnaed 62 o sylwadau
ar y Strategaeth a Ffefrir, ac mae'r rhain i gyd wedi'u hymgorffori i’r
'Cynllun Adneuo'.
"Mae creu swyddi a chartrefi newydd mewn ffordd gynaliadwy yn
flaenoriaeth i'r weinyddiaeth hon. Mae'r
'Cynllun Adneuo' newydd yn weledigaeth realistig, ond eto yn optimistaidd
ynghylch sut bydd Caerdydd yn datblygu dros y 12 mlynedd nesaf.
"Mae
hwn yn CDLl ar gyfer twf, ond nid twf di-reol. Cynllun a fydd yn defnyddio
safleoedd tir llwyd a maes glas ar gymhareb o 50/50, CDLl a fydd yn darparu
swyddi, cartrefi fforddiadwy, ac yn ein helpu ar y llwybr i sero net fel y
gallwn gamu ymlaen tuag at ein targedau Caerdydd Un Blaned.
"Os caiff y 'Cynllun Adneuo' ei gymeradwyo gan y Cabinet a'r Cyngor
Llawn, bydd ymgynghoriad ffurfiol 8 wythnos yn dilyn rhwng 18 Chwefror ac 15
Ebrill. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir yn cael eu cyflwyno gyda'r 'Cynllun
Adneuo', ynghyd ag unrhyw newidiadau arfaethedig yn yr Hydref 2025 i Lywodraeth
Cymru i'w harchwilio gan Arolygydd Annibynnol."
Bydd Cabinet Cyngor
Caerdydd yn cwrdd ar 23 Ionawr i ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, a
bydd gweddarllediad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio ar y diwrnod, yma.
Cyn cyfarfod y Cabinet, bydd Cydbwyllgor Craffu Adolygu
Polisi a Pherfformiad ac Amgylcheddol yn craffu ar yr adroddiad pan fydd yn
cyfarfod yn Neuadd y Sir am 4.30pm ar 16 Ionawr. Bydd recordiad o'r cyfarfod
hwnnw ar gael i'w weld yma. https://cardiff.public-i.tv/core/portal/webcast_interactive/945339
Yn dilyn ei ystyried gan y
Cabinet, bydd yr adroddiad yn cael ei drafod gan y Cyngor Llawn pan fydd
hwnnw’n cyfarfod ar 30 Ionawr 2025. Bydd
gwe-ddarllediad byw o'r cyfarfod hwnnw ar y diwrnod ar gael yma: https://cardiff.public-i.tv/core/portal/home