Ers dros flwyddyn, mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda’r CBC Catalyddion Cymunedol, sefydliad sy'n arbenigo mewn gweithio gydag awdurdodau lleol i helpu pobl leol i ddarparu gofal a chymorth yn y gymuned drwy sefydlu micro-fentrau sy'n helpu pobl i aros yn annibynnol ac yn cefnogi eu lles.
Mae Catalyddion Cymunedol yn gweithio gydag unigolion sy’n dymuno sefydlu busnes bach iawn sy'n darparu gofal a chymorth yn y gymuned, gan sicrhau bod y sicrwydd ansawdd cywir ar waith, fel gwiriadau GDG, yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, polisïau diogelu a bod y micro-fenter yn cael ei rhedeg yn dda ac yn gynaliadwy.
Yna caiff micro-fentrau eu hychwanegu at y cyfeiriadur ar-lein "Small Good Stuff" lle gall pobl sy'n chwilio am wasanaethau gofal chwilio am ddarparwr sy'n addas i'w hanghenion.
Mae Home Hearted Care yn un o’r micro-fentrau hyn. Mae’n cael ei rhedeg gan Selena Richards, cyn-warchodwr plant a ddatblygodd ddiddordeb mewn dilyn gyrfa yn gofalu am oedolion a darparu cymorth gartref yn ystod y pandemig.
Gweithiodd Selena, o Bentwyn, gyda Catalyddion Cymunedol i oresgyn rhai o’r rhwystrau yr oedd hi'n eu hwynebu wrth hyrwyddo ei gwasanaethau i gleientiaid ac mae bellach yn darparu gwasanaethau am 24 awr yr wythnos, gan ei galluogi i gael cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith.
Dywedodd Selena: "Rhoddodd Catalyddion Cymunedol y wybodaeth ychwanegol yr oedd ei hangen arnaf i, oherwydd doeddwn i ddim yn ymwybodol o rai pethau, a chefais fy nghyfeirio iddyn nhw, fel contract gofalwyr, a oedd yn ymdrin â phopeth yr oedd ei angen arnaf i.
"Mae bod yn fos arnaf i fy hun yn caniatáu i mi weithio o amgylch bywyd teuluol oherwydd gallaf ddewis fy oriau a fy niwrnodau fy hun i weithio. Rwy’n cael boddhad hefyd, gan fy mod i’n helpu'r bobl rwy'n eu cefnogi i fod yn fwy annibynnol ac mae hyn yn helpu eu lles."
Dywedodd un o gleientiaid Selena: "Mae Selena yn garedig ac yn ddeallgar ac yn awyddus i wneud i rywun deimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus yn eu cartref eu hunain. Mae hi'n ddibynadwy, yn brydlon, mae modd ymddiried ynddi ac mae’n ymwybodol o fy anghenion bob amser.
"Mae Selena yn drysor mewn cymaint o ffyrdd amrywiol ac yn ffrind a chydymaith arbennig."
Cwblhaodd Desman Adambarage o Cathays y Rhaglen
Datblygu Catalyddion Cymunedol hefyd a bodlonodd yr holl ofynion sydd eu hangen
i sefydlu ei ficro-fenter ei hun, DCA Care, gan wasanaethu dau gwsmer am naw
awr yr wythnos.
Meddai: "Rwy'n gwerthfawrogi cefnogaeth, hyfforddiant ac arweiniad Catalyddion Cymunedol. Mae'r rheini yn ddefnyddiol iawn i mi ac i fy menter."
Mae partneriaeth y Cyngor â Catalyddion Cymunedol wedi gwella'r ffordd y gall y rhai sydd ag anghenion cymorth yn y ddinas drefnu eu gofal eu hunain yn hytrach na derbyn gofal gan ddarparwyr gofal a gomisiynir gan y Cyngor.
Mae llawer o bobl eisoes yn comisiynu eu gofal eu hunain drwy daliadau uniongyrchol, fel arfer drwy gyflogi cynorthwyydd personol. Fodd bynnag, mae defnyddio cynorthwyydd personol yn golygu cymhlethdod a chyfrifoldeb ychwanegol i'r defnyddiwr gofal, gan fod angen i’r defnyddiwr fod yn gyflogwr y cynorthwyydd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Oedolion), y Cynghorydd Leonora Thomson: "Mae'n galonogol iawn clywed am lwyddiant y micro-fentrau hyn sydd, yn ogystal â darparu mwy o ddewis a rheolaeth i ddefnyddwyr gofal, hefyd yn hyrwyddo entrepreneuriaeth i bobl yn y gymuned sy’n dymuno darparu gwasanaethau gofal a chymorth. Mae'r adborth gan eu cleientiaid wedi bod yn gadarnhaol iawn hefyd."
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am sefydlu micro-fenter sy'n darparu gofal yn ei gymuned fynd i Gweithiwch i chi'ch hun cefnogaeth gymunedol | Catalyddion Cymunedol
Dylai unrhyw un a hoffai gael gwybod mwy am dderbyn gofal, ac i chwilio am gymorth yn ei ardal fynd i https://www.communitycatalysts.co.uk/smallgoodstuff/subsite/cardiff