The essential journalist news source
Back
9.
January
2025.
Ysgol Gynradd Stacey yn cael adroddiad arolygu cadarnhaol gan Estyn

 

9/1/2024

Mae Ysgol Gynradd Stacey yn Adamsdown, wedi cael ei chanmol am ei hamgylchedd meithringar, ei harweinyddiaeth gref, a'i ffocws ar wella canlyniadau disgyblion yn dilyn ei harolygiad diweddar gan Estyn.

Mae'r arolygiad yn tynnu sylw at ymrwymiad yr ysgol i ddarparu amgylchedd dysgu croesawgar, deniadol a chynhwysol sy'n cefnogi pob disgybl.

Mae Estyn yn canmol Ysgol Gynradd Stacey am greu cymuned ysgol digynnwrf a chadarnhaol lle mae disgyblion yn elwa o berthynas gref gydag oedolion. Mae arweinyddiaeth yr ysgol yn blaenoriaethu datblygu'r cwricwlwm ac wedi gweithredu dull cyson o wella sgiliau llafaredd, sydd wedi cael ei gydnabod fel cryfder nodedig.

Mae athrawon yn yr ysgol yn cynllunio cyfleoedd ystyrlon i ddisgyblion ddatblygu a chymhwyso eu sgiliau llythrennedd a rhifedd mewn cyd-destunau bywyd go iawn. Mae'r dull hwn yn sicrhau bod disgyblion wedi'u paratoi'n dda ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn nodi rhai meysydd i'w gwella o ran addysgu mathemateg a sgiliau dysgu annibynnol, yn enwedig ar gyfer disgyblion iau.

 

Mae cryfderau allweddol yn cynnwys:  

  • Amgylchedd dysgu cefnogol a meithringar sy'n helpu disgyblion i symud ymlaen, yn enwedig o fannau cychwyn isel.
  • Arweinyddiaeth gref a disgwyliadau uchel a osodwyd gan y pennaeth, gan gyfrannu at ddiwylliant o welliant ac arferion diogelu effeithiol.
  • Cyfleoedd effeithiol i ddisgyblion ddysgu am Gymru, eu cymuned leol, a datblygu parch at amrywiaeth ddiwylliannol a chydraddoldeb.
  • Defnydd medrus athrawon o gwestiynu ac adborth i asesu cynnydd ac ymestyn dysgu.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ymgysylltiad cadarnhaol rhieni ym mywyd yr ysgol ac ymdrechion y staff i sicrhau bod Ysgol Gynradd Stacey yn lle croesawgar a chynhwysol i bawb.

Dywedodd y Pennaeth Emma Vokes: "Mae staff wedi dangos ymrwymiad cryf i ddatblygu ein cwricwlwm a'n llafaredd a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am eu hymroddiad a'u gwaith caled sy'n sicrhau ein bod yn darparu amgylchedd lle mae lleisiau ein plant yn grymuso eu hawl i gael eu clywed."

Er ei fod yn cydnabod cryfderau niferus yr ysgol, mae Estyn wedi nodi dau faes ar gyfer gwella pellach y bydd yr ysgol yn mynd i'r afael â nhw yn ei chynllun gweithredu.

  • Gwella cysondeb addysgu er mwyn sicrhau datblygiad effeithiol sgiliau mathemategol a sgiliau dysgu annibynnol disgyblion.
  • Sicrhau bod yr amgylchedd dysgu mewn dosbarthiadau iau yn rhoi cyfleoedd effeithiol i ddisgyblion fod yn chwilfrydig, archwilio ac ymarfer eu sgiliau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae Estyn wedi cydnabod yn glir yr amgylchedd croesawgar, cynhwysol a chadarnhaol a sefydlwyd yn Ysgol Gynradd Stacey ac wedi tynnu sylw at waith caled staff i roi cyfleoedd pwrpasol a deniadol i ddisgyblion lwyddo. Mae'r adroddiad yn adlewyrchu eu hymroddiad a'u hymrwymiad i barhau â thaith gwella'r ysgol er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau oll i bob dysgwr."

 

Ar adeg yr arolygiad, roedd gan Ysgol Gynradd Stacey 200 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae 36% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae 51% ohonynt yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol ac mae 9% yn nodi bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol.