The essential journalist news source
Back
8.
January
2025.
Cynlluniau adleoli ar gyfer Ysgol Gynradd Lansdowne

 

8/1/2025

Lluniwyd cynigion i adleoli Ysgol Gynradd Lansdowne mewn ymateb i ddirywiad adeiladau'r ysgol.

Mae Ysgol Gynradd Lansdowne wedi'i graddio'n 'D' o ran cyflwr, sy'n nodi bod yr adeiladau Fictoraidd rhestredig Gradd II ar y cam 'diwedd oes'.

Yn ystod y misoedd diwethaf, er gwaethaf mesurau lliniaru, bu nifer cynyddol o faterion yn ymwneud â chyflwr yr adeiladau, gyda rhai yn galw am atgyweiriadau sylweddol i gynnal ei weithrediad diogel. 

Mae'r adeiladau wedi bod yn destun arolygon manwl ac yn cael eu monitro'n ofalus bob dydd, gyda chymorth uwch yn cael ei ddyrannu i'r ysgol. Er ei fod yn cael ei ystyried yn ddiogel ar hyn o bryd, mae'r pennaeth a'r staff dan bwysau sylweddol i reoli materion parhaus sy'n ymwneud â'r adeiladau.

Byddai angen Caniatâd Adeilad Rhestredig ar ehangder y gwaith sydd ei angen ar yr adeiladau statws Gradd II a byddai angen mynd i'r afael â materion strwythurol wrth gadw nodweddion treftadaeth pwrpasol yr adeilad. Felly, mae angen bwrw ymlaen ag adleoli arfaethedig yr ysgol fel yr unig opsiwn ymarferol.  

Mae nifer o opsiynau adleoli wedi eu harchwilio, gan ystyried y pellter y byddai angen i deuluoedd deithio. Yn dilyn arfarniad o'r opsiwn, nodwyd mai'r safle newydd arfaethedig oedd y mwyaf priodol gan ei fod yn nalgylch Ysgol Gynradd Lansdowne, lai na hanner milltir o'r lleoliad presennol, ac mae ganddo'r lle i ddarparu ar gyfer yr holl ddisgyblion a staff mewn un lle.

Pe bai'n cael ei chymeradwyo, byddai'r ysgol yn symud i'r gogledd o hen safle Ysgol Uwchradd Fitzalan, ac mae'r dysgwyr yn cael llety mewn ystafelloedd dosbarth newydd hyblyg ac yn cael eu cefnogi gan swyddfeydd newydd yn ogystal â chyfleusterau neuadd, meithrin a derbyn wedi'u hadnewyddu. Byddai adleoli'r ysgol wedi'i drefnu ar gyfer diwedd mis Hydref 2025.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae lles a diogelwch disgyblion, staff a theuluoedd yn hollbwysig. Nid yw cadw'r ysgol yn ei hadeiladau presennol yn ymarferol oherwydd pryderon iechyd a diogelwch posibl yn y dyfodol. Mae'r cynlluniau hyn yn sicrhau y gall addysg o ansawdd uchel barhau mewn amgylchedd dysgu addas heb darfu yn y dyfodol."

Ym mlwyddyn academaidd 2023/24, bu'n rhaid i Ysgol Gynradd Lansdowne gau ar bedwar achlysur i fynd i'r afael â materion brys fel toeau a nenfydau yn gollwng, difrod dŵr i drydan, ffenestri anniogel, gwaith cerrig sy'n methu, problemau draenio, a difrod dŵr glaw. Mae adroddiadau syrfëwr yn dangos, er y gellir lliniaru risgiau iechyd a diogelwch, na ellir eu dileu'n llwyr. Byddai'r gwaith atgyweirio helaeth sydd ei angen yn golygu buddsoddiad sylweddol a gwaith aflonyddgar, gan ei gwneud yn amhosibl cadw disgyblion ar y safle oherwydd pryderon ynghylch diogelu ac iechyd a diogelwch.

Pe caiff ei gytuno a phan fydd yr Ysgol Gynradd Lansdowne bresennol yn wedi ei gwagio, byddai'r adeiladau'n cael eu sicrhau a'u cynnal i ddiogelu'r adeilad a sicrhau diogelwch y safle. Bydd cynigion ar gyfer dyfodol darpariaeth gynradd yn nalgylch Ysgol Uwchradd Fitzalan yn cael eu cyflwyno maes o law, yn unol â Strategaeth Buddsoddiad Addysg y Cyngor.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn cael diweddariad ar gyflwr Ysgol Gynradd Lansdowne a bydd yn cael ei argymell i gytuno ar ddatrysiad priodol yng ngoleuni'r risgiau yn ei gyfarfod Ddydd Iau 23 Ionawr 2025. Bydd gwe-ddarllediad o'r cyfarfod ar gael i'w wylio ar y diwrnodAgenda Cabinet ar Dydd Iau, 23ain Ionawr, 2025, 2.00 pm : Cyngor Caerdydd

Cyn cyfarfod y Cabinet, bydd y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc yn craffu ar yr adroddiad pan fydd yn cyfarfod Ddydd Mawrth 14 Ionawr. Bydd recordiad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylioAgenda Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar Dydd Mawrth, 14eg Ionawr, 2025, 4.30 pm : Cyngor Caerdydd

 

.