The essential journalist news source
Back
20.
December
2024.
Y Diweddariad: 20 Rhagfyr 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Pob hwyl i ofalwr hirhoedlog ac uchel ei barch Ysgol Gynradd Gabalfa
  • Ynys Echni wedi'i hôl-osod â thechnoleg werdd
  • Prosiect cyfnewid diwylliannol yn cefnogi cais Ysgol Noddfa

 

Pob hwyl i ofalwr hirhoedlog ac uchel ei barch Ysgol Gynradd Gabalfa

Bydd Ysgol Gynradd Gabalfa yn ffarwelio â'r gofalwr hirhoedlog, Mr Tony King, sy'n ymddeol y mis hwn. 

Mae Tony wedi bod yn gofalu am safle'r ysgol ers dros 30 mlynedd ac mae wedi cefnogi'r gymuned drwy nifer o newidiadau gan gynnwys lletya Ysgol Glan Ceubal ar y safle ac, yn fwy diweddar, cynnal adeilad newydd a chyfleusterau awyr agored ar y cyd ar gyfer Ysgol Gynradd Gabalfa ac Ysgol Glan Ceubal.

Wrth feddwl am ei amser yn Ysgol Gynradd Gabalfa, dywedodd Tony, "Wel, alla i ddim credu ei bod hi wedi bod yn 30 mlynedd - lle mae'r amser wedi mynd?!   Cymerais i'r rôl hon fel un dros dro, byth yn credu y byddwn i'n aros yma hyd at ymddeoliad. 

"Yn y cyfnod hwnnw, rydw i wedi cael mab ac rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i'w weld yn tyfu'n ddyn ifanc gwych.  Rydw i wedi gweithio gyda llawer o bobl wych a'r peth mwyaf rhyfedd yw gweld y plant roeddwn i'n eu nabod flynyddoedd yn ôl yn dod yn rhieni gyda'u plant eu hunain."

Wrth gael ei holi am blant yr ysgol dywedodd Tony, "Yn amlwg rydw i'n well am weithio gyda phlant nag yr oeddwn i byth yn meddwl, a bydd rhai'n dweud bod fy synnwyr digrifwch i'n debyg i blentyn siŵr o fod!  Rydw i wrth fy modd gyda'r plant ac rwy'n cael fy nabod fel 'Tony the Toast' achos mae'r plant a fi wastad yn cael sgwrs yn y Clwb Brecwast."

Darllenwch fwy yma

 

Ynys Echni wedi'i hôl-osod â thechnoleg werdd

Ar ynys anghysbell fel Ynys Echni, heb gyflenwad dŵr, nwy na thrydan prif gyflenwad i gysylltu ag ef, mae pethau syml fel berwi tegell ac aros yn gynnes yn y misoedd oerach yn gallu bod yn fwy cymhleth nag maen nhw ar y tir mawr - ac maen nhw hefyd yn gallu creu mwy o allyriadau carbon sy'n niweidiol i'r hinsawdd nag sydd raid.

Nawr, mae gwarchodfa natur sy'n eiddo i Gyngor Caerdydd yn troi'n wyrddach nag erioed o'r blaen gyda chymorth arae solar 14 panel newydd â batris storio, drysau â leinin thermol yn ffermdy'r ynys a system gynaeafu dŵr glaw newydd sy'n cael ei phweru gan ddisgyrchiant.

Mae'r dechnoleg werdd yn cael ei gosod o ganlyniad i £42,000 o gyllid cyfalaf fel rhan o ymateb Caerdydd Un Blaned yr awdurdod lleol i newid hinsawdd.

Yn 2019/20, pan lansiodd Cyngor Caerdydd ei ymateb Caerdydd Un Blaned i newid hinsawdd, creodd yr awdurdod lleol 42,211 tunnell o CO2e yn uniongyrchol. Mae'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael ar gyfer 2022/23 yn dangos bod hynny wedi gostwng 11.7% i 37,284 tunnell o CO2e.

Darllenwch fwy yma

 

Prosiect cyfnewid diwylliannol yn cefnogi cais Ysgol Noddfa

Mae Ysgol Pencae yn Llandaf wedi cymryd cam sylweddol yn ei chais i ddod yn Ysgol Noddfa drwy gymryd rhan mewn prosiect cyfnewid diwylliannol gyda myfyrwyr SSIE (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) o Goleg Caerdydd a'r Fro.

Daeth y prosiect â disgyblion Blwyddyn 6 o Ysgol Pencae a grŵp o fyfyrwyr sy'n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches ynghyd ar gyfer cyfnewid ieithyddol a diwylliannol unigryw.

Trwy gyfres o negeseuon fideo, rhannodd y disgyblion a'r myfyrwyr fewnwelediad o'u hieithoedd a'u traddodiadau, gan greu cysylltiadau ystyrlon a meithrin cyd-ddealltwriaeth.

Cynigiodd disgyblion Ysgol Pencae gymorth ymarferol drwy ddysgu ymadroddion Cymraeg a rhannu eu profiadau o siarad Cymraeg yn yr ysgol, gartref ac yn eu cymuned. Yn eu tro, cyflwynodd myfyrwyr SSIE y plant i agweddau ar eu diwylliannau a'u hieithoedd brodorol, gan gyfoethogi'r ddealltwriaeth o amrywiaeth yng nghymuned Caerdydd.

Daeth y mewnwelediadau a gasglwyd yn rhan o brosiect cydweithredol yn archwilio diwylliant, hanes ac iaith Cymru, gan alluogi'r ddau grŵp i ddyfnhau eu gwerthfawrogiad o dreftadaeth a chynwysoldeb.

Darllenwch fwy yma