The essential journalist news source
Back
20.
December
2024.
Ysgol Gynradd Moorland yn cael ei chanmol gan Estyn

20/12/2024

Mae Ysgol Gynradd Moorland yn y Sblot wedi derbyn cydnabyddiaeth gadarnhaol gan Estyn yn ei adroddiad diweddar sy'n tynnu sylw at amgylchedd croesawgar yr ysgol, cefnogaeth gref i ddisgyblion ac ymrwymiad i ddatblygu eu sgiliau ar draws cwricwlwm eang.

Cymeradwyodd arolygwyr yr ysgol am feithrin cymuned gyfeillgar a chynhwysol lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. Mae staff yn darparu gofal rhagorol ac yn dangos esiampl da, gan gyfrannu at ymddygiad rhagorol gan y disgyblion a diwylliant lle gallant ffynnu.

Mae cryfderau allweddol yn cynnwys:  

  • Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion wedi gwneud cynnydd cadarn mewn sgiliau llafar, darllen a mathemateg.
  • Mae athrawon yn cydweithio i greu cwricwlwm pwrpasol a blaengar
  • Cefnogaeth effeithiol i ddatblygiad creadigol disgyblion drwy bartneriaethau cryf gyda sefydliadau celfyddydau perfformio.
  • Profiadau dysgu cadarnhaol i ddisgyblion iau, yn enwedig drwy gyfleoedd i archwilio amgylcheddau awyr agored.
  • Darpariaeth gref ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), gan sicrhau cynnydd da, gan gynnwys y rhai yn y canolfannau adnoddau arbenigol.
  • Ymgysylltu'n effeithiol â rhieni a gofalwyr, gyda chymorth gweithgareddau fel prynhawniau babanod a phlant bach.

 

Wrth adlewyrchu ar yr adroddiad, dywedodd y Pennaeth, Emma Laing:  "Rydym yn falch bod Estyn wedi dathlu'r ymrwymiad ein tîm staff ymroddedig, gweithgar a meithringar. Maen nhw'n bodloni arwyddair ein hysgol o 'wneud gwahaniaeth' bob dydd."

Er bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd priodol gydag ysgrifennu, mae'r adroddiad yn nodi y gallai fod mwy o gyfleoedd iddynt gymhwyso eu sgiliau ysgrifennu ar draws gwahanol feysydd dysgu. Yn ogystal, mae gwella presenoldeb cyffredinol yn parhau i fod yn flaenoriaeth.

Mae Estyn wedi gwneud tri argymhelliad y bydd yr ysgol yn mynd i'r afael â nhw yn ei chynllun gweithredu:

  • Gwella ansawdd y monitro er mwyn sicrhau bod yr addysgu'n darparu her addas i ddisgyblion ym mhob maes o'r cwricwlwm.
  • Cynyddu cyfleoedd i ddisgyblion ysgrifennu at amrywiaeth o ddibenion dilys ar draws y cwricwlwm.
  • Parhau i wella presenoldeb pob disgybl.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae Estyn wedi cydnabod cryfder diwylliant cynhwysol yr ysgol a'r cynnydd y mae disgyblion yn ei wneud ar draws meysydd allweddol. Mae gan Ysgol Gynradd Moorland staff ymroddedig sy'n gweithio'n galed i greu amgylchedd dysgu gofalgar a diddorol i bob plentyn. Da iawn i staff, disgyblion a chymuned yr ysgol am yr adroddiad cadarnhaol hwn."

Adeg yr arolygiad, roedd gan Ysgol Gynradd Moorland 390 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae 55.1% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae 33.3% o'r disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol ac mae 8.9% o'r disgyblion yn nodi bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol.